Skip to main content

Y DIWYGIWE. Ehif. 322.] GOEPHENHAF, 1862. [Cyf. XXYII. YMEILLDUAD Y DDWY FIL AR DDYDD BARTHOLOMEW, AWST 24, 1662. " Meddyliwch am eich blaenoriaid."—Paul. Cymeeìr yn ganiataol yn ein testyn fod ymneillduad y "Ddwj Fil" yn ddigon hysbys i bawb; ond dichoD fod llawer, ysywaeth, hyd y nod o ddarllenwyr y Diwygiwr, heb wybod nemawr neu ddim am yr amgylchiad •rhyfeddol hwn, er ei fod yn un sydd wedi tynu llawer o sylw, ac wedi effeithio daioni annhraethadwy yn ein gwlad mewn llawer dull a modd. Meddyliaf, gan hyny, mai nid anmhriodol, nac anfuddiol, fydd dywedyd ychydig yn nghylch y tri pheth hyn ; sef— 0 ba le, neu oddiwrth ba beth, yr ymneillduodd y Èdwy Fil; pa beth yw Dydd Bwrtholomew; pwy a pha beth ydoedd y Ddwy Fil. Y lle o ba un yr ymneillduodd y llu enwog hwn ydyw yr Eglwys Wladol, fel yr ydoedd, ac fel y mae hefyd, yn sefydledig trwy gyfraith; a hyny nid yn gymaint am ei bod yn sefydledig trwy gyfraith, a than awdurdod y brenin a'r senedd, ag am ei bod yn eu rhwymo hwy i gredu, proffesu, a dysgu pethau croes i argyhoeddiadau eu cydwybodau, yn ngwyneb gair Duw, fel amodau eu harosiad yn ei chymundeb, a bod yn weinidogion rheolaidd ynddi. Mae yn ymddangos i mi fod bodolaeth sefydliad gwladol o grefydd trwy gyfraith, yn rhwym, yn ol natur pethau, o achosi ymneillduaeth oddiwrthi; canys y mae pawb nas gallant yn gydwybodol gydsynio a'i hathrawiaethau, ei rheolau, ei thraddodiadau, a'i ffurfwasanaeth hi, dan orfod, os mynant ymateb cydwybod dda gerbron Duw, o droi draw ac ymneillduo oddiwrthi. Pe na buasai Eglwys Ôefydl- edig trwy gyfraith yn bod, ni fuasai Ymneillduwyr yn bod chwaith; a buasai yr enwau Anghydffurfwyr ac Ymneillduwyr, fel y cyfryw, yn hollol anadnabyddus. 0 gyfundeb yr Eglwys Wladol yr ymneillduodd y Ddwy.Fil.. Dydd Bartholomew. Gwyr y darllenwjrr mai enw un o ddysgyblion yr addfwyn Iesu yw Bartholomew. Tybia rhai mai yr un ydyw a Nathanael. Gan nad pa un am hyny, gwyddom hyn, ei fod yn un o'r deuddeg a ddew- iswyd yn apostolion. Y mae yr Eglwys Babaidd wedi neillduo Awst 24 i fod yn ddydd gwyl gysegredig iddo, er cadw ei enw mewn coffadwriaeth barchus. Mae y dydd hwn wedi ei hynodi gan hanesyddiaeth megys "bydddu" yn ei berthynas â chrefydd. Ary dydd hwn, sef Awst 24, 1572, y bu cyflafan arswydus ar y Cristionogion yn Ffrainc, yr hon a. ddygwyd oddiamgylch trwy gyfrwysdra mileinig, a chydfradwriaeth ddir- gel y Pabyddion, pryd y cigyddiwyd yn farbaraidd mewn ychydig amser m ddim llai na 30,000 o Gristionogion heddychol a diniwed. Mae y weith- red ysgeler hon yn unig yn ddigoh i roddi i'r dydd hwn yr enw o " ddydd