Skip to main content

Y DIWYGIWR. Bhip. 320.] MAI, 1862. [Oyp. XXVII. HANESYDDIAETH ATHRAWIAETHAU* GAN Y PARCH. DAYID THOMAS, LLANGYNIDR.. Y CYFNOD DADLEUOL. Bynoliaeth ac amodau cadwedigaeth. Pan oedd y tadau yn cymeryd rhyw fater mewn llaw, byddent yn sicr o wneuthur ymchwil deg iddo, ac i'w holl gysylltiadau ; ac yr oedd yn llawn mor naturiol iddynt i wneuthur ymchwil deg i ddynoliaeth ag un pwnc. Yr oedd natur yn eu dysgu i wneuthur ymchwil i ddynoliaeth; yr oedd yr hen draddodiad athronyddol, " Adnebydd dy hun yn gyntaf," yn eu dysgu i adnabod dynoliaeth;. yr oedd dwyfol ddadguddiad yn eu dysgu i ddeall dynoliaeth. Yr oedd dynoliaeth yn awr yn myned i aros uwch ei phen ei hun, ac yn myned i roddidarlun- iad o honi ei hun, ac yr oedd pawb yn tynu eu gwybodaeth o'r un ffynon- ellau ; eto nid oedd modd ond i ychydig o ddynoliaeth i gydweled am dani ei hun. Ni fedrent gydweled pa fath oedd dynoliaeth pan ddaeth allan o dan law ei Chreawdwr; ni fedrent gydweled pa fodd y daeth, a pha beth yw dynoliaeth trwy bechod ; ni fedrent chwaith gydweled pa beth yw, na pha beth ddylai dynoliaeth fod trwy ddylanwad yr efengyl a gras. Yr oedd y tadau duwinyddol y cyfnod yma yn gwneuthur â d}rn yn o debyg fel y gwna meddjrgon y dyddiau yma â'r corff—rhanent ef yn gorff, enaid, ysbryd, synwyrau corfforol, a galluoedd meddyliol. Trafod- ent bob rhan ar ei phen ei hun ; maent oll eilwaith yn un dyn, a rhwymid hwy i ddywedyd fel yr hen Salmydd, "Rhyfedd ac ofnadwy y'm gwnaedr a'm henaid a wyr hyny yn dda." Nis gallwn eu dilyn ond yn rhanol. Enaid. Cydunent oll mai yr enaid yw y rhan bwysicaf o ddyn ; ond ni fedrent yn eu byw a chydweled am ddechreuad yr enaid. Yr oedd o leiaf dair o wahanol farnau yn y cyfnod yma. 1. Honai Nemesius a Pru- dentius fod yr enaid yn bodoli yn flaenorol i genedhad y corff, ac fod yr enaid yn y peth yma yr un fath a Iesu Grist, yr hwn oedd yn bodoli yn flaenorol i'w ymddangosiad yn y cnawd. Yr oedd y rhai hyn yn olynwyr i ddaliadau Origen. 2. llonai Tertullian a'i olynwyr fod yr enaid yn dyfod i fodolaeth fel canlyniad anocheladwy i genedliad corff; ac oddiar y farn hon profeni.fodolaeth pechod gwreiddiol. 3. Yn ystod y cyfnod yma cododd barn newydd, sef fod yr enaid yn cael ei greu gan Dduw, a'i uno ar ryw adeg neillduol â chorff y baban cyn ei eni. Pan oedd dadleu' nid bychan rhwng pleidwyr y gwahanol farnau yma, codwyd y mater gan ereill uwchlaw pob dadl, trwy honi fod dechreuad bywyd o bob math uwchlaw pob dirnad dynol, ac yn enwedig deehreuad bywyd enaid. Cred- ent yn gyffredin fod enaid yn anfarwol—nid am ei fod felly ynddo ei hun, 71