Skip to main content

Y DIWYGIWR. Khd?. 318.] MAWETH, 1862. [Cyf. XXVII. GRISIAU DËR€HAFIAD. Peth dymunol, ond peth ofhadwy yw bod yn ddyn. Nid oes un bod yn y cread yn meddu ar ei gyfansoddiad, ac o dan y fath gyfrifoldeb ag yw ef. Wedi ei wneuthur yn rhyfedd ac ofhadwy; saif mewn cysylltiad agos â'r byd materawl, a deil berthynas agos â'r ysbrydol. Mae ei goríf o'r ddaear, yn ddaearol, yn cael ei ategu gan ddaear, ac i ddychwelyd i'r ddaear, fel plentyn i gol ei fam. Dywed wrth y pryf, " Fy mam a'm chwaer yd- wyt." Hanodd o'r un man a'r anifail, ymbortha ar yr un lluniaeth, ym- wisga a'r un defhyddiau; mae yn gyfansoddedig o'r un elfenau, yn ddarostyngedig i'r un angenrheidiau naturiol, ac i drengu fel yntau yn y pen draw. Mae y naill yn hunanysgogydd fel y llall. Ond, y mae eisieu i ddyn deimlo ei fod yn well a rhagorach na'r anifail, yn aíluog o bethau mwy ac i ddybenion uwch; oblegyd y mae ysbryd niewn dyn, ac ysbrydol- iaeth yr HoUalluog a bar iddo ddeall. Hona berthynas, ag angel, ac y mae yn "hiliogaeth Duw." Geill feddwl ac ymresymu, a dyfeisio, a siarad, a throsglwyddo meddylddrychati i ereill, a derbyn drychfeddyliau oddiwrthynt, ac ymgodi yn uwch uwch mewn gwybodaeth, a deall, a chwaeth; tra mae yr anifail yn aros yn gaeth dan lywodraeth yr un greddfau, ac yn dilyn yr un arferiadau yn gywir yn awr ag a wnai anifeil- iard er ys miloedd o ílynyddoedd yn ol. Yr un llun a lliw yw gwisg yr anifail, yr un flas yw ei ymborth, yr un gyffelyb yw ei wely; ni all syrthio yn îs na'i safon, ac ni ddichon iddo godi byth yn uwch. Y mae dyn yn ymwareiddio ac yn gallu cymhwyso adnoddion natur yn fwy cyfieus iddo ei hun—adeilada ei dy yn fwy taclus—trinia ei fwyd yn fwy blasus—gwna ei ddillad yn fwy gweddaidd—medr ymsoddi mewn bai, ac ymgilio bellach bellach oddiwrth ei Greawdwr, neu nesu yn nes nes ato, ae ymgodi yn uwch uwch mewn rhinwedd; medr addoli, ac fe all bechu. 0 fod yn ddynion, mae yn werth ymgyrhaedd at fod yn ddynion trwyadl. Y mae tuedd reddfol yn y dyn at hyny. Mor foreu y dengys y plentyn awydd i ymddatod o gadachau ei febyd; mor ddymunol yw rhoddi heibio y wasgbais a'r pinafôr, ac ymwisgo mewn dillad mwy dynol. Y mae eisieu ar y bachgen i wneud gwaith gWr, ac i gyfiawni gorchest-gampiau y dyn, wrth daflu yr ordd neu y bar, neidio dros y glwyd, cario pwn, a phethau cyffelyb. Faint oedd ein hawydd i ddal yr aradr, ac am fod yn mhlith y fedel; a nyddem éin hesgyrn er bod yn nghanol y pladurwyr. Tueddfryd yw hon a blanwyd ynom gan Awdwr natur, i'n cyfeirio ar i fyny mewn corff, a meddwl, a nodwedd, hyd nes dyfod yn wyr perffaith. Mae yn dda i bob dyn gredu ei fod yn ddyn, a theimlo fod ganddo fel y cyfryw gystal hawl yn y byd yma a rhyw ddyn arall. Y mae y pethau ^yaf hanfodolifodolaeth iddo fel ereill; mae yddaearwedieirhoddi ifeib-