Skip to main content

Y DIWYGIWR. Ehif. 316.] IONAWE, 1862. [Cyf. XXVII. AMERICA A'R RRYFEL GAN Y PARCH. T. DAVLEJS, LLANELLI. Mae Cyfandir America yn 9,000 o fìlltiroedd o hyd o Bwynt Barrow yn y gogledd hyd Gulfor Magellan yn y deheu, yn 3,000 o filltiroedd o ledyn y manau lletaf yn y gogledd a'r deheu, ac yn 32,000 o fìlltiroedd o am- gylchedd. Unir y gogledd a'r deheu gan leindir Panama, yr hwn sydd tua 30 o filltiroedd o led yn y man culaf. Mae rhes o fynyddau mawrion yn rhedeg o un pen i'r llall, y rhai sydd yn fath o asgwrn cefn i'r cyfan- dir; gelwir hwy y Rochj Mountains yn y Gogledd, a'r Andes yn y deheu. Mae rhanau o'r rhes yn fynyddoedd uchel iawn, a thrwch o eira parhaus ar eu hochrau; a thuag amser gostyngiad haul, bydd ei belydr yn dys- gleirio ar y mynyddoedd hyn, fel yr ymddangosant megys pileri o risial yn cynal y nefoedd i fyny. Tardda y Missouri yn y Rocky Mountains, a rheda am 3,000 o fìlltiroedd cyn uno â'r Mississippi, arhedayddwy yn un oddiyno i'r môr am 1,265 o fìlltiroedd. Y Mississippi-Missouri, yr hon sydd yn 4,265 o filltiroedd o hyd, yw yr afon hiraf ar y ddaear. Eheda y Mississippi drwy wastadedd mawr, fel y mae yn fordwyadwy am 2,000 o filltiroedd, a rhyw 500 o agerlongau yn prancio ar ei mynwes. Y mae yr Amazon yn tarddu yn y Cordilleras, ac yn rhedeg am 4,000 o filltiroedd cyn cyrhaedd y môr; mae yn fordwyadwy am 2,000 o filltiroedd ; mae ílanw y môr yn cyrhaedd am 400 o fìlltiroedd; mae yn 180 o filltiroedd o led pan yn arllwys i'r mor ; a chymaint yw chwyrnder ei rhediad fel y gwthia Fôr y Werydd o'i blaen am 200 o fìlltiroedd. Mae yn Ameriea lawer o ddyffrynoedd bras, a digon eang i holl breswylwyr Ewrop i fyw yn gysurus yn un o honynt. Ac y mae yno y coedwigoedd rhyfeddaf ar y ddaear. Gallai yr epaod deithio o bren i bren am ganoedd o fìlltiroedd heb ddisgyn i'r ddaear, oni bai yr afonydd. Mae llawer o'r coed yn 12 troedfedd o dryfesur. Dywed Humboldt, yr hwn fn yn teithio yn Neheu- dir America, fod y creaduriaid gwylltion, megys llewod (cuguar), dywal- gwn, ac epaod, yn cadw y fath swn yn y coedwigoedd yn y nos, fel nad oedd yn bosibl cysgu gan eu twrdd. Dywedai yr Indiaid mai cadw noswaith lawen y byddent ar ddychweliad y lleuad newydd; ond barnai Humboldt mai ystormydd o fellt a tharanau fyddai yn effeithio yn benaf arnynt. Ac weithiau byddent yn ymladd â'u gilydd nes y byddai yn rhyfel ac yn ys- grechain cyffredinoK Ar y dechreu rhoddai dywalgi gernod i epa, nes y byddai yn oernadu; gyda hyny byddai pob epa o hyd clyw yn agor ei geg—y llewod yn rhedeg ac yn rhuo—y dywalgwn yn cynhyríu, a phob un yn credu ei fod ef yn cael ei alw i'r frwydr, heb wybod gan bwy nac i ba beth, ond i ymladd, nes y byddai cyn pen ychydig fynydau yn un Waterloo fawr, fel na fyddai yn bosibl cysgu. Oblegyd hyny arferai hen fynach oe4d yn teithio gyda Humboldt weddio bob nos cyn myned i gysgu,