Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Ehie. 314.] TAGHWEDD, 1861. [Cyf. XXVI. HANESYDDIAETU ATHRAWIAETflAU. GAN Y PAECH. DAYID THOMAS, LLANGYNIDE. T CYFNOD DADLETJOL. Aeth y cyfnod amddiffynol drosodd yn fuan ar ol dyfodiad Constantine i'r orsedd ymherodrol. Ỳr oedd jt holl ymherawdwyr Ehufeinig hyd at hwn wedi bod yn elyniaethol iawn i Gristionogaeth, a'r tadau yn gorfod bod ar eu goreü yn ei hamddiífÿn; ond vn awr gyda dyfodiad Constantine i'r orsedd daeth tro—daeth ef yn ffafrioí iawn i Gristionogaeth, derbyn- iodd a phleidiodd hi, a chaniataodd ryddid i'r Cristionogion, ac adferodd iddynt y meddianau a yspeiliwyd oddiarnynt gan ei flaenoriaid. Dygodd y cyfhewidiad yma yn y llywodraeth wladol oddiamgylch gyfnewidiad yn amgylchiadau allanol yr eglwys, ac amgylchiadau allanol yr eglwys gyf- newidiad yn Hanesyddiaeth Athrawiaethau. Wedi cael perffaith lonydd- wch oddiwrth yr holl ymosodiadau Iuddewig a phaganaidd, ac ymosodiad- au oddiwrth y llywodraeth wladol oddiallan, cododd dadl ar ol dadl o feicn yr eglwys, a chynadledd ar ol cynadledd, er penderfynu materion anor- phenol; ac oddiwrth y brwydrau tragywyddol yma y cafodd y cyfhod hwn ei alw yn g}rfnod dadleuol. Dechreuodd y cyfnod gyda marwolaeth Origen, yn y flwyddyn dau cant a deugain, a pharhaodd hyd at amser John Damascenus, yn y flwyddyn saith cant a deg ar ugain. Yn yr ys- paid yma, o yn agos i bum cant o flynyddau, cafodd lluaws o gynadleddau eu galw er penderfynu dadleuon ar y materion canlynol yn fwyaf neill- àuoìi—Trindodiaeth, Cristyddiaeth, a Dynoliaeth—ei sefyllfa, ac amodau cadwedigaeth. Cafodd llawer o faterion ereill eu trafod, ac aethant drwy lawer o wahanol gjẃewidiadau yn ystod y cyfhod yma ; ond ni fu cy- maint o ddadleu yn eu cylch ag a fu ar y tri mater a nodwyd uchod. Pan oedd unrhyw fater yn dyfod yn destyn dadl, yr oedd yn destyndadl trwy yr holl eglwysi, ond gan amlaf rhwng y gweinidogion ; ac wedi dadleu a dadleu am flynyddau lawer, yr oedd yn myned mor boeth, hyd nes yr oedd yn rhaid cael cynadledd er ei benderfjmu, a'r gynadledd hettio yn dwyn allan gredo reolaidd a sefydlog arno; a chan mai trwy ryw lwybr fel jma yr oedd athrawiaethau crefydd yn cael eu dwyn yn mlaen, dyma hefyd yr unig lwybr er dwyn allan eu hanesyddiaeth. Wedi i'r eglwys gael llon- yddwch allanol, y mater cyntaf a ddaeth o dan ei sylw mewnol oedd Athrawiaeth y Drindod; a'r peth cyntaf mewn dadl am yr athrawiaeth hon oedd, Perthynas y Tad a'? Maì. Ffurfìwyd llawer cyfundrefn ar y mater yma gan bersonau a chynadleddau: cawn nodi y prif rai. SabeUatìth. Yr oedd egwyddorion yr athrawiaeth hon wedi eu dwyn i'r golwg i ryw raddau gan dduwinyddion y öÿfhod blaenorol; ond Sabellius, presbyter Ptolemais, taa chanol y trydydd cani-if, a'u ffurfiodd yn gcedo 4i