Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I ' : Mt J* ' • ' \ ' T7" T\ TTTfTTA TTTT"n Y DIWYGIWR. Rhif. 313.] HYDEEF, 1861. , [Cyp. XXVI. LLOSGFYNYDDAU. LLYTHYE II. GAN Y PARCH. T. DAVIES, LLANELLI. Yn ol fy addewid yn y Uythyr cyntaf, fy ngwaith penaf yn hwn fydd ol- rhain yr achos o'r Uosgfynyddau. Nid yw athronwyr yn unol yn eu barn ar y pwnc; ond cydunant oll mai yr un achos sydd i losgfynyddau a daear- gryn. Mae hyny yn eglur wrth ystyried fod daeargryn yn .gyflredin yn rhagflaenu rhwygdarddiad mewn llosgfynyddau. Ysgydwyd yr holl wlad o gwmpas Vesuvius cyn y rhwygdarddiad fu ynddo yn y flwyddyn 79; ysgydwyd holl diriogaeth Jorullo am ddau fìs gan ddaeargryn cyn i'r llosgfynydd gael ei fiurfio. Deallir hyn yn dda gan breswylwyr y gwled- ydd lle mae llosgfynyddau, fel yr edrychant ary daeargryn megys awgrym ofhadwy fod rhwygdarddiad ar gymeryd lle. • Mae hefyd lawer o enghrerfftiau o ddaeargryn yn cymeryd lle pan mae llosgfynyddau yn llonyddu. Bu daeargryn dychrynllyd yn Lisbon ar y laf o Dachwedd, yn y flwyddyn 1755, dîwy yr hwn y claddwyd 60,000 o'r trigolion cyn pen chwech mynyd yn yr agenau a wnaed yn y ddaear. Cyrhaeddodd ergydiadau y daeargryn hwnw drwy Fôr y Werydd i Am- erica—ysgydwodd greigiau Norway a Sweden—^treiddiodd yn mhell tua'r dwyrain ar gyfandir Ewrop—siglodd ogledd Aŵica, a theimlwyd ef yn nerthol ynyrynys hon. Yn awr, ary laf oDachwedd, ynyflwyddynuehod, llonyddodd y llosgfynydd Stromboli, am yr unig dro y mae genym hanes amyfathbeth. Dychwelodd y mwg oedd yn esgyn yn ol i losgorel y mynydd; a bernir mai llonyddiad Stromboli, drwy i'r elfenau sydd yn achosi ei weithgarwch drwy ryw achosion anwybyddus gael eu cauad i mewn, achosodd y daeargryn fu ar yr un diwrnod yn Lisbon. Felly tybir fod cysylltiad tanddaearol rhwng llawer o losgfynyddau, megys rhwng Ischia a Vesuvius, rhwng llosgfynyddau Archipelago Groeg a rhai Syria, a bod rhyw gysylltiad felly rhwng Stromboli a chymydogaeth Lisbony Ac y mae rhwygdarddiadau wedi cymeryd lle lawer gwaith' yn amser daeargryn mewn ardaloedd lle nad oes llosgfynyddau yn briodol felly. Wedi i'r rhwygdarddiad gymeryd lle, Uonydda y daeargryn, fel pe byddai y peth sýdd yn ei achosi yn dianc allan o grombil y ddaear, drwy enáu y Ûosgfynydd. holl grombil y ddaearynílawìi odäefmjâd toddedig, a bod peth o hwmo ÿn awrao ẅwaìth ýn rhedeg drwy y crystyh. Dywedant mai math o ffynonau tanllyd