Skip to main content

Y DIWYGIWR. Ehif. 311.] AWST, 1861. [Cif. XXVI'. Y CRISTION ADDFÊD. GAN Y PARCH. JOHN EEES, CANAAN. " Canys y mae yn gyfyng arnaf o'r ddeutu; gan fod genyf chwant i'm datod, ac i fod gyda Christ: canys llawer iawn gwell ydyw."—PaüIm Mae dinas Philipi wedi dyfod yn enwog ar faes hanesyddiaeth trwy gyf- rwng yr efengyl. Yma y pregethwyd yr efengyl gyntaf yn Ewrop; Paul a Silas oeddent y Pregethwyr; Lydia, porphores o Thyatira, yn Asia Leiaf, oedd y person cyntaf a ddychwelwyd i'r ffydd Gristionogol yn y lle. Caf- odd y ddau bregethwr eu taflu i'r carchar nesaf i mewn am fwrw ysbryd dewiniaeth allan o ryw lances. Ar haner nos, aethant i gynal cyfarfod gweddi; a thrwy i Ysbryd Duw ddisgyn arnynt, molianasant ei enw, ys- gydwyd y carchar, ymagorodd y drysau, ac aeth rhwymau pawb yn rhydd- ion. Pan welodd y ceidwad hyn, bu agos iddo dynu pen arno ei hun ; a chynawnasai hunan-laddiad hefyd oni buasai i Paul ei luddias, trwy waeddi yn groch, " Na wna i ti dy hun ddim niwed." Mewn canlyniad i hyn, cafodd'y ceidwad ei ddychwelyd i'r ffydd, a'r carcharorion eu trin gyda thynerwch, a'u rhyddhau yn anrhydeddus. Ehyw amser wedi hyn, cafodd Paul ei yru yn garcharor i Rufain; a'r Philipiaid, er dangos eu cydymdeimlad àg ef, a anfonasant Epaphroditus i ymweled ag ef, a rhodd- ionyn eilawi'w gynorthwyo yn ei adfyd. Cafodd Epaphroditus ei gy- meryd yn glaf yn ystod ei arosiad yn Rhufain, a bu yn agos i angeu: "ond Duw a drugarhaodd wrtho ef; ac nid wrtho ef yn unig, ond wrth Paul hefyd, rhag cael o hono dristwch ar dristwch." Wedi gwella, efe a ddychwelodd i Philipi, a danfonodd Paul y llythyr hwn yn ei law: yn yT hwn y dengys ei sefyllfa bresenol, a'i brofiad yn ei drallod, yn nghyd a'r effaith oedd ei garchariad wedi gael yn lledaeniad yr efengyl. Nid oedd yn sicr eto beth fuasai dedfryd y gyfraith—pa un ai ei rydd- hau, neu ei gondemnio i farw gawsai. Nid oedd wahaniaeth ganddo ef yn bersonol pa un o'r ddau: <{ Canys," meddai, " by^v i mi yw Crist, a. marw sydd elw." Yr oedd o ran ei gyflwr yn barod 1 wynebu " bremn dychryniadau." Yr oedd yn addas i fyw ac i farw, ac yn ymawyddu am y naill a'r llall; ac y mae yn ofynol fod dyn yn dduwiol lawn cyn y gaü fod fel'hyn—yn addas i fyw a marw. Y mae canoedd o ddynion yn an- addas i fyW, ac yn anmharod i farw; y maent yn felldith yn eu cylchoedd. "".yuuus am y üüau; canys " x mw jxx bjv"ö ;"""7. ,— ',, „ „ fdeutu; ganfodgenyfchwanti'mdatod,abodgydaChrist: canysUawer iawn gwell ydyw." Yr oedd awydd arno i fyw i gael bod o les i achos 29