Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rmj?. 309.] MEHEFIN, 1861. [Cyf. XXVI. MOSES. GAN Y PARCH. T. DAVIES, LLANDEILO. (PARTTAD.) Y Trydydd Cyfnod.—Gan fod Moses wedi treulio y dengain mlynedd cyntaf o'i fywyd yn llys Pharaoh, gwyddai pa fodd i ymddwyn yn y pre- senoldeb breninol. Ar ei ddyfodiad yn ol i'r Aifft, Aaron ei frawd, yr hwn a aethai i'r anialwch i'w gyfarfod, ac yntau, " a gynullasant hell henuriaid meibion Israel. Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau lefarasai yr Arglwydd wrth Moses. A chredodd y bobl; a phan glywsant ymweled o'r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrým- asant, ac a addolasant." Dechreuodd Moses ar ei waith drwy ofyn i Pharaoh am ollwng y bobl ymaith. Ond yr oedd ei glustiau yn nghauad i'w gais; a'r hanes a gawn am dano yw, ddarfod iddo, yn lle eu gollwng ymaith ar gais yr Arglwydd drwy Moses ac Aaron, ddyblu eu tasg, a chur- wyd hwynt am eu hachwynion. Bu yn anhawdd iawn gan Pharaoh eu gollwng; ond yr oedd brwydro ag Arglwydd Dduw yr Hebreaid yn ormod o dasg iddo yntau. Daliodd ati am gryn amser drwy'r ewbl—ni fynaj ollwng y bobl er dim. Ond cafodd deimlo drwy arwyddion, rhyfeddodau, a phläau, mai Arglwydd Dduw yr Hebreaid oedd ben. Ni ddy wedir yn y Beibl pa amser o'r flwyddyn y cymerodd yr holl bläau y sonir am danynt le ; ond gellir casglu oddiwrth eu hanes. Aeth Israel allan o'r Aifft ar ol y degfed pla, neu y pla diweddaf, tua dechreu mis Ebrill. Mae hyn yn ymddangos yn gywir wrth ei gymharu â phla y cenllysg. Dywedir am y difrod a wnaeth hwnw mewn iaith rymus, " A'r Uin á'r haidd a gurwyd; canys yr haidd oedd wedi hedeg, a'r llin wedi hadu. A'r gwenith a'r rhyg ni churwyd, o herwydd diweddar oeddent hwy." Yn ol tystiolaeth teithwyr diweddar, yr oedd cynauaf yr haidd yn yr Aifft yn mis Mawrth, a'r gwenith yn mis Ebrill. Oafodd un Jjq Brun ýr holl gynauaf drosodd yn Oairo ar y 19 o Ebrill. Mae hyn yn cyduno â'r hyn 1 ddywed Moses, " fod yr haidd yn y dywysen "—er nid yn gwfel barod i'w gasglu; ond nad oedd y gwenith a'r rhyg wedi tyfu fyny, o her- ^ydd diweddar oeddent. Cymerodd y pla hwn le oddeutu mis cyn myn- ecüad Israel o'r AiflPfc, neu yn nechreu Mawrth, cyn cynauaf yr haidd, fel ag i adael lle i*r tri phla düynol; ac os cyfrifwn yn ol ddau fis, drwy yr un cỳfatebiad (ànálogy) i'r chwech pla cyntaf, cawn fod y cyntaf tua dechreu lonawr. Ýr oedd yr afon Nilus yr amser yma yn isel, à'i dyfroédd yn glir. Yr oedd yr afonjion yn un o brif dduwiau yr AifFtiaid. Dywed- °dd yr Arglwydd wrth Moses am fÿned allan, a sefyll ar lan yr afon, erbyn y buasal Phataoh yn dyfbd allan i'r dwfV; alian fe allai i addoli yr afon, fel yr arferai.yr Aifftiaid, neu, ynte, fe aUai mai parotoi yr oedd er ei bur- ... 21