Skip to main content

Y DIWYGIWR. Ehif. 307.] EBEILL, 1861. - [Ctt. XXVI. Y NEFOEDD. Cyn cychwyn parhad tudalen 73 o'r rhifyn blaenorol, cymerwn ganiatad i droi o'r neilldu, er mwyn cael rhoddi hergwd i ddiafol yr argraffydd am ei gelwyddau noethion "yn ngwyneb haul a ltygad goleuni." Yr oeddwn yn meddwl fy mod yn ddigon agos i'w wylio, a'i gadw oddiwrth ei hen gastiau; ond rhwng fy nwylaw, mynodd ddangos ei duedd lywodraethol drwy anwireddu a ffugio. Rhaid i fi, gan hyny, erfyn ar y cysodydd ar- ddangos ei dwyll wrth gywiro y cam, a gwella y gwallau. Tuáal. 69, llinell yr 20fed o'r top, yn lle " ag a droant," darllener " ac a droant." Tudal. 71, y 3edd linell o'r gwaelod, 68, ac nid 38. Tudal. 72, 24,000, ac nid 4,000 ; canys annyoddefol fyddai gan ein hen fam gael ei darlunio mor afrosgo a bod ei thryfesur yn fwy nâ'i chylchedd, pan y mae ei chylchedd hi, a chyrff cyffelyb, yn dri chymaint â'r tryfesur. Tudal. 72, llinellau 7 ac 8 o'r gwaelod, darllener "p 1,500 i 2,000." Yn awr, af rhagof at y blaned fawreddog ac addurnedig Sadwrn. Byddai ceuffordd (tunnel) trwy ganol y blanedhon yn 75,000 milltír o hyd, a byddai yn ddigon o waith i ddyn am yn agos iawn i chwarter canrif, a cherdded pum milltir ar ugain bob diwrnod, fyned unwaith o'i chwmpas. Mae o'r Haul i Sadwrn naw can miliwn o filltiroedd. Try ar ei hechelau niewn deg awr ac un fynyd ar bymtheg; dyna hyd ei diwrnod ; ond cy- mer naw mlynedd ar ugain a haner i deithio ei chyleh o gwmpas yr Haul, JT hyn yw ei blwyddyn. Hynodir Sadwrn yn mhlith y planedau gan y modrwyau ysblenydd sydd o'i chylch, a'r lleuadau mawrion sydd fel llaw- forwynion yn ei dilyn, ac yn gweini arni. Mae y rhai hyn yn saith neu ^yth o nifer,- y lleiaf yn nesaf ati, ac o fewn i*80,000 i'w harwynebedd. Heby cyrffiyn, y rhai sydd adlewyrchyddian iddi, buasai y goleuni yn hynod brin. Tryfesur cyfartal y lleuadau hyn gyda eu gilydd sydd tua thair mil o filltiroedd. Tryfesur y fodrwy nesaf allan yw 172,000 o filltir- °edd; ac y mae ei lled tuag un fìl ar ddeg; trwch tua chan milltir. Y mae ugain mil o fìlltiroedd rhwng y fodrwy fewnol a'r blaned, a deunaw cant rhwng y naill a'r llall. O ! mor ogoneddus yr olwg ar y oyrff hyn ẁ rhai sydd mewn cyfleusdra idd eu gweled yn ddidrafferth. Mae teigol- íon y blaned yn canfod y lleuadau a'r modrwyau ; ac nid yw pobl y modr- jyau a'r Beuadau yn cael eu cau allan rhag gweled y blaned a'i hoîl ddüynyddiön, ond yr hon y safant arni. Hwyrach y cawn ninau, ddar- Henyddion hawddgar, olwg gyflawn ar y nenfwd mawr i gyd pan yn esgyn yn iaçh ein calon, o wlad y gofid a'r tristwch, heibio i Jupiter a ^adwrn, á'u lleuadau a'u modrwyau, i nef y nefoedd, ac y cawn ryw d(lysgawdwr digon me<irus i athronyddu yn ddeallus i ni ar y pethau sydd yn awr yn rhy nŵdd i ni, ac nis medrwn oddiwrthynt. Maddeuer i 1111 y llam yna. 13