Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 299] AWST, 1860. [Cyf. XXV. Y DIWYGIAD CREFYDDOL YN AMERICA. GAN Y PARCH. J. REES, CANAAN. 0 bob peth rhyfedd a gymerodd le yn hanes y byd yn ystod y canrif presenol, y mae yn ddiamheuol taw y peth rhyfeddaf ydyw y Diwygiad mawr Crefyddol a gymerodd le yn America yn 1857—8 : trwy yr hwn y tybir fod mwy nag wyth can mil o eneidiau wedi eu dychwelyd at yr Arglwydd ! Yn y llinellau canlynol, bwriedir rhoddi hanes manwl a syml o'r Diwyg- iad o'i ddechreuad yn 1857, hyd ddiwedd 1858. Modd bynag, cyn rhoddi hanes o'r gwaith gogoneddus hwn, y mae yn ofynol, mewn trefn i gael golwg iawn arno, sylwi ychydig ar sefyllfa fas- nachol America, cyn, ac ar adeg dechreuad y Diwygiad. Gwyr pawb, ydynt yn gwybod dim am yr Americaniaid, nad oes y f'ath genedl dan haul am frydffodi gyda phob cangen o fasnach. Yr arwyddair hofF ganddynt, ac yn yr hwn yr ymíFrostiant, ydyw " go a-head." Tra y mae y Cymro yn meddwl, a'r Sais a'r Ysgotiad yn damfwrw manteision ac anf'anteision an- turiaethau gwahanol, y mae yr Americaniad wedi gwneud ei gynysgaeth, neu ffoi i'r Deau er ysgoi dialedd ei ofynwyr. Nid oes aros iddo yn un màn : myned, myned y mae yn ddiaros, nes cyrhaedd pinacl llwyddiant, neu syrthio dros glogwyn methiant masnachol. Yn y blyneddoedd a flaenorent 1857, yr oedd corff mawr y genedl wedi ymwerthu yn llwyr i'r byd h'wn ; brydffodent gyda brys haner gwaîlgof, a darostyngent eu hunain i bob math o waeldra masnacbol ercyrhaedd golud anwadal. Y mae yr ysbryd gwancus hwn yn nodweddu pob ceoedl dan y • nefoedd, i frsur mwy neu lai; ac nid oes dim ond gras Duw a'u rhwystra rhag cymeryd ffyrdd peehadurus a llwyhrau gwaharddedig|,i foddloni eu hunain. Gellid meddwl ei fod yn reddf blanedig yn y galon ddynol i ym- awyddu am ddyfod i feddiant o gyfbeth. Gwelir hi yn dyfod i'r golẃg yn v plentyn, yn ei waith yn galw meddianau ei rieni ar ci enw ei hun, neu, os bydd yn blentyn o grflon rwydd, yn e,u rhanu rhyngddo ef a'i frodyr, a'i chwiorydd ; ond y mae y duedd hon wedi ei dadblygu yn rhai yn fwy na'u gilydd. Dibyna hyny i raddau mawr ar dymerau nftturiol, yr addysg forëol a dderbynir—y siamplau a roddir o flaen y dyn, a'r manteision a ga i ^eithio y duedd allan. Fel y mae gyda phersonau, y mae gyda chenedl- 0fidd a gwledydd. A dichon fod yr Americaniaid fel cenedl yn un o'r rhai . fûwyaf awyddus am fyned rhagddi i feddianu cyfoeth y greadigaeth, a'i ddarostwng i lun meddiant personol. $ mae dau reswm arbenig yn cyfrif am hyn. (1) Gwneir rhan bwysig 0 r bpblogaeth i fyny o ddyeithriaid a dyfodiaid, y rhai a ymfudasant gyda'r Unig'amcan i gasglu cyfoeth. Yno y maent yn gweithio â'u holl egni yn - ^bcÄb dull a modd, er cyrhaedd v nod oedd ganddynt mewn gulwg cyn , 29