Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 298] GORPHEMAF, 1860. [Cyf. XXV. Ilanes y Sefydliad Cymreig yu Walfeer, Ncwcastle-on-Tyne. GAN RICHARD DAVIES, STOCKTAK.ER, WALKER. Traethawd Buddugolyn Eisteddfod Walher, Ionawr 2, 1860. Cymerodd y sefydliarì ei drìechreuad tua diwedd y flwyddyn 1844, pryd y daeth Mr. John Thomas, Dowlais, yma i gymeryd arulygiaeth y gweith- feydd haiarn, a daeth amryw Gymry gydag ef. Dechreuodd ar ei swydd dan amgylchiadau tra anfanteisiol—y gwaith yn hynod annhrefnus—yr is-arolygwyr yn ymroddi i feddwdod, diofalwch, ac anffyddlondeb—a'r gweithwyr yn dilyn eu hesiampl. Cymerai y pwyswyr eu llwgrwobrwyo i osod pwysau haiarn yn nghyfrif y gweithwyr, nad oeddent erioed wed eî weithio. Ac yr oedd yr haiarn a wneid mpr waél, nad allai y cwmpeini fyned i'r farchnad a chystadlu â gweithfeydd cyffelyb ; ac y mae yn syndod iddynt allu dàl allan cyhyd ; a diddadl, oni buasai i ddiwygiad gymeryd lle, nad oedd ond methfasnneh yn eu haros. Gorfu i Mr. Thomas droi ymaith lawer o'r gweithwyr, a chael rhai o Gymruyn eu lle, ac ereill at fFwrneisiau segur- Daeth yma lawer o weithwyr o Aberdâr a Dowlais, ac yr oedrì y Saeson yn elyniaethus iawn i'r Cymry. Darfu rhai o honynt rìdwyn gafr i'r gwaith at y Cymry i'w gwatwar ; ond cymerasant y clirmyg mewn ty- mer dda, fel na chafodd eu gwatwarwyr eu gwynfyd arnynt. Ò'rholl Gym- ry a ddaethant yma gyntaf, nid oedd un yn grefyrìdol oddigerth Mr. Tho- mas ei hun, Treuliai y rhai hyn eu Sahothau yn y tafarndŷ ; yno deuent i gyffyrddiad â'r Saeson ; ac nid oedd Saboth braidd yn myned heibio heb ymladdfa rhyngddynt. Yr oedd un Cymro yn neillduol enwog yma fel ym- îaddwr, a byddai y Saeson yn barhaus yn dyfod â rhywun i ymladd ag ef; ond byddai yn eu curo oll. Bu raid i Mr. Thomas ymyraeth o'r diwedd, a gwneud esiampl o'r rhai a dorent yr heddwch. fc Tua'ramser yma, daeth John Wìlliams (Shon Wüliam.fel ei gelwid) yma yn hollol annysgwyliadwy ac ar antur. Cafodd waith yn union, a chredir •fod Rhagluniaeth wedi ei arwain yma. Bu yn ddefnyddiol gyda'r achos cref- yddol Cymreig tra fu byw. Yn fuan wedi ei ddyfodiad yma, darfu iddo ef a Mr. Thomas ddechreu cynal ysgol bob prydnawn Saboth, yn addoldy yr Henaduriaid ( Presbyterians). Deuai lluaws o'r Cymry iddi, ac un tro ym- welodd J. L. Bell, Ysw., un o'r Cwmpeini, â hwynt, ac anrhegodd yr ysgol âBeibl, a £3 i brynu llyfrau at eu gwasanaeth. Cynelid yr ysgol Heoad- uriaethol y pryd hwn mewn ysgoldŷ perthynol i'r Aiheali Co., ond bu raid iddynt roddi hwnw i fyny i'r Eglwyswyr, (y rhai a d'lechreue^y pryd hwn gynal moddion crefyddol yn y gymydogaeth,) a dyfod ù'ú hysgol i'r c.tpel at y Cymry Buwyd am dymor fel hyn : dechreuid a âiw'eddid yn Saesonaeg a Chymraeg bob yn ail, ond nid oedd y naill na'r lîall yn teimîo yn ddedwydd fel hyn, ac nid hir y buwyd cyn i'r Cwmpcini roddi ystafell ^ur gyfleusat ein gwasanaeth i gyoal moddion crefyddol.