Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 295] EBRILL, 1860. [Cyf. XXV. OFERGOELION. GAN Y PARCH. T. DAVIES, LLANDILO. (Parhad or Rhifyri' diweddaf) Y mae llawer o ofergoelion ereiil yn hanfodi yn mhlith y bobl hyn ; y rhaí ydynt.hefyd i'w cael mewn gwledydd ereill,_a llawer o honynt yn Nghymru fel y cawn weled eto. Er enghraifft, ystyrir goteuni gogleddol (aurora borealis) yn arwydd o ryfel a therfysg—lleuadau gwynion yn Gorphenaf a Awst, ydynt arwyddion o ddrwg—credir fod yr haul yn dawnsio dairgwaith ar y gorwel pan y byddo yn cyfodi ar ddydd St. loan. Y mae hongian cangen ofìeren bêr uwchben drws y ty yn cadw y teulu rhag newyn. Rhaid cymeryd gofal i beidio gwneud bara ar wythnos ý gweddiau, onide bydd y bara yn ddrwg trwy y flwyddyn, ( wythnos y gweddiau, y nesaf ond un at y Suìgwyn.) Peidier nyddu ar ddydd Iau, na dydd Gwener, yn wythnos y gweddiau, onide tyfa cornwyd rhwng gwadnau y gwartheg, yr hyn a'ú cloffa. Os byddir am fod yn llwyddianus mewn magu gwyddau, hwyaid &c, rhaid i'r perchenog ddawnsio ar y domen yn y farm yard ar Mawrth Ynyd, sef gwyl y gyffes. Eneidiau crwydredig y meirw yw y creadurinid bychain sydd yn hedf'an at y canwyllau yn y nos. Y maellawer o berson- au pan yn cymeryd eu hymborth, yn gadael ychydig ar eu dysglau i'r un drwg. Y mae criciaid yn dwyn llwyddiant i deulu, am hyny ni ddylid ea haflonyddu. Y mae y gwê'r còr, neu rwyd y pryf-copyn, fel ei gelwir, sydd yn hòfran yn yr awyr yn Awst, wedi ei gynyrchu gan y Forwyn Santaidd, yr hon sydd y pryd hwnw yn nyddu gwisgoedd i'r angylion. Os dygwydd i ysgyfarnog groesi llwybr y teithiwr, bydd ei daith yn aflwyddianus. Os gwelir dynes yn bennoeth yn y bore, cymer rhyw ddamwam le cyn diwedd y dydd. Mae pob priodas a gymero le ar ddydd Gwener yn aflwyddianus. Mae y dryto yn aderyn santaidd, mewn canlyniad iddo ddyfod a thân o'r nefoedd ; pan yn cyflawniy cyfryw orchwy], llosgoddei blyf; yn ngwyntb y fath aflwydd, rhoddodd pob un o'r adarereill blyfyn iddo, ond gwrthod- odd y dylluan gynorthwyo dim arno yn ei helbul, a byth oddiar hyny, easpii- V»ì nn Ip hirnnrr pî uwplîr nm pi phvnrltrnrwi-rlrl da nvrlrlir vn liwvta «* i uouu. cti ucn uibciicu «^u , uuicgiu ici j uvuuu ì uaiii ytt SyCIlU îyii_ » gwlith, bydd y person a fwytaodd yr wý yn sychu fynu ac yn marw. Yti yr India Orllewinol, arferir pau y byddo rhyw un o'r teulu farw, daflu pob diferyh o ddwfr a fyddo yn y ty ary pryd ymaith ; oblegid y mae angau yn oeri eisaeth yn y dwfr gyda ei fod yn ymadael, ac ystyrir eifod'yn beryglus iw yfed. Y mae pob drych fj ddo yn y ty i gael eu gorchuddio, neu eu t'roi at y mur rhag y byddo i ysbryd yr ymadawedig yrhddangos : yn uniongyrchol wedi symud ý corff, gwneir y gwely ar yr hwn y gorwedflai, i fynu yn dréfn-; U8, a gosodir jared o ddwfr yn yr ystafell, a chedwir goleui gynu ynddi ain