Skip to main content

Y MWYGIWE. Rhif. 29S] CHWEFROR, 1860. [Cyf. XXV. CYFNOD CREADIGAETH Y BYD, GAN Y PARCH. T. DAYIES, LLANELLI. Mae fod acbos i bob effaith yn wirionedd dealledig yn ein holl ymresym- iadau. Beth yw yr achos o hynyraa, beth yw yr achos o hynyna, a beth yw yr achos o hynacw, ydynt oíyniadau a gJywir yn aml iawn, hyd y nod yn mysg plant bychain ar hyd yr aelwydydd, yr ystrydoedd, a'r caeau. Cael allan yr achos o wahanol arddangosion yw un o swyddi uchelaf athron- iaeth. Nis gallwn ddweyd yn benderfynol o ba le mae y grediniaeth hon yn ymgyfodi. Dy wed rhai ei bod yn wreiddiol yn y meddwl; ond dywed . ereill ei bod yn codi oddiar brofiad—ein bod ni yn gwybod ein bod yn ' effeithio cyfnewidiadau ar wähanol bethau o'n cylch, ac felly yn cael ein harwain yn anocheladwy i gredu nad oes dim mewn bod, nac un cyfnewid- iad yn cymeryd lle heb fod iddo achos neillduol. Pan oedd y dyn yr» blentyn, pethau bychain a dibwys oeddent wrthrychau ei ymchwiliad ; ond fel mae yn dyfod yn mlaen mewn oedran, gwybodaeth a phrofiad, ymgyfyd yn naturiol at bethau uwch a gogoneddusach. Dechreua gyda yr effaitb: nesaf ato, olrheinia hwnw i'w achos, yna edrycha ar yr achos hwnw fel effaith rhyw achog blaenorol. Ac felly y teithia yn barhaus yn ei ymchwiîiad pryderus ar hyd risiau amryfath bodolaeth, hyd nes y deua at achos diachos, ac, aryr un pryd,yn achos i bob achos arall. Yma yr erys—nis gall iyned yn mhellach. Nid oes arno eisiau myned yn mhellach—mae wedi cael gafael ar Dduw digon galluog i greu a chynal y cwbl. Dyna y ffordd y mae y meddwl yn codi oddiwrth natur at Dduw natur. Mae fel yna yn cyfrif am fodolaeth y greadigaeth—am fodolaeth pob byd a bod, gweledig ac an- weledig. Ond fy mhwnc I yn bresenol yw Cyfnod Creadigaeth y Byd. Mi a edrychaf beth ddywed Seryddeg, Daiareg, a'r Bibl am byny. Mae y pwnc yn ymranu yn naturiol i dri pheth—y byd, creadigaeth y byd, a thystiolaeth Seryddeg, Daiareg, a'r Bibl am y cyfnod y crewyd ef. Éeth ddeallir wrth y term byd.—Pan ddechreuodd dynion fyfyrio ar y greadigaeth weledig, darfu iddynt yn naturiol ranu yr holl fyd i ddwy ran fawr, sef, y ddaiar, ar yr hon y preswylient, a'r nefoedd, yr hon a welsant uwch eu penau. Dyna y cyfenwad cyntaf a gawn ar y bydysawd—" Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaiar." Yn fuan wedi hyny, gwnaeth y cenedloedd a breswylient lan y môr, wrth edrych ar y ddaiar dan eu traed, y nefoedd uwch eu penau, a'r môr oedd o'u blaen, ranu y byd i dair rban fawr, sef, y nefoedd, y ddaiar, a'r môr. Felly y darllenwn yn Ps. 146, 6, ** Yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar, y môr, a'r hyn oll sydd yn- ddynt." Hefyd, cyfeiria Homer, y bardd Groegaidd, yn ei Odyssey at y byd dan y tri rhaniad yma. Wedi hyny, yn nghreigliad amser, dyfeisiwyd llawer iawn o enwau ereill ar y byd. Gelwid y byd gan yr Hebreaid, y Chaldeaid, a'r Syriaid, olâm, a chan y Groegiaid, aiôn. Mae y ddau air yna