Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

r7 %*t Y DIWYGIWE. Rhif. 281.] CHWEFROR, 1859. [Cyf. XXÎÍI YR EFHNGYL A'R HOLL GENEDLOEDD, GAN Y PARCH. W4 WILLIAMS. TREDEGAR. Mae yr Hwn sydd yn gwybod y diwedd o'r dechreuad, ac yn mynegu y pethau ni wnaed fel y pethau a wnaed, wedi dywedyd, " Y pregethir yr efengyl hon am y deyrnas trwy yrhollfyd er tystiolaeth i'r holl genedloedd, ac yna daw y diwedd." Pan iefarodd Crist y geiriau hyn yr oedd cyfnod hynod ar ddechreu ar y byd. Yma y mae Mab Duẁ yn sefyll ar derfyn yx hen fyd, a dechreu y byd newydd. Y mae drws yr hen oruchwyliaeth ar gael ei gau, a phorth ëang a niawr yr oruchwyliaeth newydd ar gael ei agor, ac y mae Crist yn sefyH megys yn y cyfwng rhwng y ddau, ag agoriadau yn ei law yn barod i gau yr hen fyd ac agor y newydd; a chofier mai Efe yw yr hwn sydd yn agor na fedr neb gau, ac yn cau na fedr neb agor. Ond nid yw Mab Duw wrth gau yr hen deml yn taflu un anmharch arni, ond yn hytrach yn ei hanrhydeddu. Y mae sylw neillduol ya cael ei roddi i bobdull a gorsaf o ddatguddiad Dwyfol: ni ddianrhydëddir ef pan y derfydd, ond rhoddir iddo deyrnged ymadawol, a chymerir gofal neillduol wrth ei osod o'r neilldu : rhoddir rhybudd prydlawn o'i ddiwedd, " Y mae wedi myned yn hen ac yn barod i farw." Cymerwyd y gonschwyliaethau blaenorol yn raddol i mewn i luddewaeth—collasant eu bodolaeth yn hon. Yr oedd yr oruchwyliaeth hòno yn gysgoüol a rhagarw^iniol, yr oedd yn cynwys egwyddorion athrawiaeth Crist; eithr nid oedd yn perffeithio dim. Yr oedd yn gysylltiedig ag un genedi, ac yn nodweddu holì amgylchiadau y genedl hòno, eto bu o wasanaeth mawr i'r byd. Yr oedd yn ysgolfeistr i düwyn y byd at Grist: hi oedd ein hathraw ni at Grist,. fel i'n cyfiawnheid trwy ffydd. Yr oedd y profî'wydoliaethau a'r cypgodau yn cyfeirio at Fab Duw, yr hwn yw sylwedd yr holl gysgodau. Tystiolaeth Iesu yw ysbryd y broffwydoliaeth. Nid oedd Iuddewaeth ond rhagflaenydd a dechreuad Cristionogaeth—Cristionogaeth yw cyflawniad yr oruchwyliaeth hòno. Mae pob peth yn yr efengyl yn taflu anrhydedd ar luddewaeth ; ie, yn yr efengyl y gwelir ei buddugoliaeth a'i chyflawniad : " Aeth y gyfraith allan o honi, agairyr Arglwydd o Jerusalem." Y " dyfi-oedd bywiol a ddaethant allan O'lditan riniog y deml, a godasant nes myned yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi." Pregethir yr efengyl trwy yr holl fyd, dyma y dyfroedd bywiol. Mae yr efengyl hon yn dal cysylltiad â'r holl genedl- oedd, " Er tystiolaeth i'r holl genedloedd." Hyd yn hyn yr oedd datgudd- iad Dwyfol wedi ei gyfyngu i'r genedl Iuddewig ; ac yr oedd anfoniad yr efengyl i'r holl fyd, yn tystiolaethu i'r holl genédloedd fod diwedd yr oruch- yyliaeth hòno yn agosâu, ac yna daw y diwedd. Mae yr efengyl yn tyst- lolaethu am Dduw, ac am ei Fab, am wirionedd ei athrawiaeth, a dyben ei forwolaeth, sef yn iawn ac aberth dros bechod—ei barodrwydd i dderbyÄ 5 m