Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. ' * l^rîêÔÖ" IONAWB, 1859. LCvf. X,Xtì'Ì DIWYGIAD CREFYDDOL- GAN Y PARCH. J. DAVIES, CARVAN4 [Darllenwtd y traethawd gwerthfawr hwn yn çghynadledd Cyfarfod Chwarterol Sir Benfro, ac: anfonwyd ef ì'r Diwygiwr ar gais y gweinidogioo gwyddfodol.—Gol .] Wrth ddiwygiad yr ydym yn deall unrhyw welliant, neu fod rhyw beth neu bethau yn myned ar eu gwell; felly pan ddefnyddir y gair yn ei berthynas âmasnach, celfyddyd, dysgeidiaeth-,&c., dealla pawb yn rhwydd beth ydyw ei ystyr; ond pan mae'r gair Diwygiad yn cael ei ddefnyddio yn ei bertbynas â chrefydd ysbrydol yr Arglwydd Iesu Grist, nis gall neb ei iawn ddeall a'i synied, ond y rhai hyny ag sydd wedi profi nerthol weithrediad yr Ysbryd Glâu y« cyfnewid eu calon, a'u gwneud yn awyddus i weithredoedd da; oblegid Diwygiad ysbrydol ydyw, felly yn ysbrydol yn unig y dealler ef. "Eithr y dyn anianol (meddai Paul,) nid yw yn derbyn y pethau o Ysbryd Duw, ac nis gall eu gwybod oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt." A gellir dweyd yn .ddibétrus fod gan y goreu o ddysgyblion yr Arglwydd Iesu Grist lawer o dir yn ol eto i'w feddianu mewn hunan-ymwadiad, zêl, a chysegrwydd corff ac enaid yn ngwasanaeth eu Duw, cyn y gallant fedd- ianu syniadau goruchel eu Hathraw am ddiwyjiio a diwygiad. " Yr hwn yn lle y llawenydd a osodwyd iddo a ddyoddefodd y Groes, gan ddiystyru gwaradwydd," er mwyn dwyn oddiamgylch y diwygiad mawr hwnw o adferiad dynolryw ijidelw cynenid eu Tad Befol; a chyn byth y gallwn ni ddysgwyl y Diwygîad hwnw a bura fasnach o'i thwyll a'i hoced—newidia arferion llygredig ac annuwiol yr oes—goetha chwaeth dynion, ac a dröa wyneb y ddaear yn fwy tebyg i wyneb y nef, credwyf fod yn rhaid i ni fel ei ddysgyblion yfed mwy o'i ysbryd, a sugno mwy o'n nberth a'n dylanwad »'i Groes ef i'n hystafeltoedd dirgelaidd—i'n siarad a'n hymddygiadau teu- luaidd a masnachol—i'n cynghorion, gweddiau, canu, a'n darllen, a'n holl gyflawniad cyhoeddus; ac yn neillduol credwyf fod yn rhaid i ni fel rhai »ydd yn ymwneud â phrif foddion ordeiniedig Duw, i ddiwygio y byd, i "ol ein nherth i gyfansoddi ein pregethau oddiwrth ddyfal fawr wasgfa chwys Gethsemane, a bedyddio ein brawddegau a'n sylwadau â gwaed ei Fab ef, ynghyd â chasglu ein nerth i'w traddodi oddiwrth rym ei adgyfod- iad ef, fel y byddo eu traddodiad yn eglurhad yr Ysbryd a nerth, ac yn a'lu Duw ac yn Iachawdwriaeth i'r gwrandawyr. Oes y diwygiadau yw'r oes yr ydym ni yn byw ynddi: ni fu y byd erioed efallai mor llawn o ysbryd i ddiwygio yn mhob ystyr. Mae'n rhaid cynyddu, roedd masnach; rhaid bod ar ddihun, medd anturiâeth ; a rhaid gwella, medd llenyddiaeth; nid gwiw bod yn segur, medd athroniaeth; rhaid P«dio colli tir, medd celfyddyd ; rhaid i'r byd ddod yn nes at eu gilydd ac adnabod eu gilydd yn well, medd y darganfyddiad diweddar y Telegraf taoforawl; a rhaid cael Reform Bìll, a mwy o ryddid, yw llais uchel ac un- rydoI Kwrop, a gwahanol deyrnasoedd y ddaear ; mewn gair, arwydd-air j °yd yn bresenol yw, Awn rhagom at berffeithrwydd ; a bendigedig fyddo yr Arglwydd. Awn rhagom at berffeithrwydd yw arwydd-air Sîon •n y dyddiau presenol, yn enwedig mewn rhai manau. Mae Duw yn awr