Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 276.] MEDI, 1858. [Cyf. XXII «HAELIONI EGLWYSIG." GAN Y PAROH. SAMUEL THOMAS. TREFDRAETH, Gweinidogion Crist a bugeiliaid ei braidd yn y gorlan 4nnibynol, yn rhanau Cymreig siroedd Deheu- dir Cymru, cynulledig yn eu Cymanfaoedd Blyneddol, yn Nhrefdraelh, Penfro, ar yr 2ü a'r 2ydd; ac Aberdar, Morganwg, ar y 2'áain a'r 2iain o Mehefin, 1858, yn anfon anerch al bobl eu gofal— eglwysi Crist, y rhai a bwrcasodd efe a'i briod toaed, ar bwnc a ystyriant yn dra phwysig ae angenrheidiol yn y dyddiau rhyfedd hyit, O " Jlwn rhagom at berffeithrwydd," a fabwysiedir fel arwydd-air gan gymdeithas yn ei holl djiullweddau. " Duw,'' medd y " Bibl santaidd; cysegr-lân,'' " cariad yw." Y Salmydd ysbrydol- edig a'i hane«ph fel un " da" a " daionus," ac a gydnebydd fod ei " drugaredd ar ei holl weithredoedd." Yr Eglwys Gristionogol, er ateb i fyny ddyben ei ffurfiad cymdeithasol, ac er adlewyrchu gogoniant yr hwn a'i galwodd " o dywyll- wch i'w ryfeddol oleuni ef," sydd i fod yn berffaith yn holl rasusau y fuchedd Grist- ionogol, " fel y mae ei Thad yr hwn sydd yn y nefoedd, yn berffaith." Cym- deithas wirfoddol o ail-enedigion ysbrydol mewn undeb bywiol â Christ, y Pen Dwyfol, i ddangos i'r byd yr oll o gymeriad moesol Duw yw yr Eglwys Gristionogol. Haelfrydedd ei hun ydyw Duw. Nid ydyw yr oll a wnaeth, ac a wna, ond ffrydiau iaohusol a darddant o'r hanfod dragwyddol hon. Y mae yr Eglwys Ysbrydel ddirgeledig " yn gyfranôgion o'r dduwiol anian'' fel ei Duw, y mae yn gyfansodd- iadol dda, ac yn gwneud daioni i bawb, gan ddychymygu haelioni, a bod yn barod i gyfranu i gyfreidiau pawb tra y mae yn cael amser cyfaddas, ond yn enwedig i'r saint, y rhai sydd o deulu y ffydd, ac yn gyd-etifeddion o ras achubol y bywyd tragwyddol. Nid ydyw cread, cynaliad, ac iechydwriaeth ond dyfeisiau Dwyfol ddoeíhineb, i anteidrol gariad haelfrydig y Jehofa i gael ffyrdd a gwrthrychau i dywallt ben- dithion, a chyfranu ymgeledd. Y mae pob Cristion unigol, a phob eglwys gym- deithasol, er cyfattal y Pen, o'r hwn y mae yr holl gorff, trwy y cymalau a'r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyädu gan gynydd Duw—-ifodyn hael-fron(generousheartod), a haeì-law er dedwyddu pawb yn nghylch eu dylanwad. Haelioni ydywun o berlau dysgleiriaf coron yr eglwys, ac un o'r eirf grymusaf a fedd er ei hadeiladaeth ei hun mewn undeb, cariad, a rhinwedd, yn gystal ag er dystewi gwrth-ddywediadau a darostwng cyndynrwydd ystyfnig dynion nolion a gwrthwynebus. Nid mewn dim y §all dyn marwol, daearol, debygoli yn »wy i'r Du.w byw tragwyddol nag mewn calon dosturiol, ac ysbryd parod i gyíranu: "Canys y mae efe, Duw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, a Thad y byd yn peri i'w naul godi ar y drwg a'r da, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a'r annghyfiawn. Yn ma- ddeu anwireäd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth. Ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd." Trefn Duw ydyw i ddrygioni gael ei orchfygu trwy ddaioni. Y mae rhoddi asgwrn i gî, medd un duwinydd Americanaidd, yn cyd-weithio â Duw yn ei hoff waith,—Cyfranu er dedwyddu. *;a faint mwy mae rhoddi rhywbeth i blentyn, i ddyn, i Gristion, i ddysgybl, i un o r rhai bychain hyn a gredant ynddo Ef—yn gyd-weithredjad à Duw yn ei hoff, et brif waiith,—dedîoyddu. Yr oedd haelioni a chymwynasgarwch yn uchel iawn eu penau yn yr Eglwys Apostolaidd. Canfyddwn yr eglwys yn nyddiau ei morwyndod pur, yn byw megys yn nghôl haelioni—yn ymysgaroedd trugareddau—yn ngwres brawdgarwch; ac ar adenydd diwydrwydd yn tywallt ei holew penaf i glwyfau yr areholledig, ac ynlloni y Uesg â'i gWjn melusaf. Gwnai y Cristionogion cyntefig eu gwaith mewn llawen- 34