Skip to main content

Y DtWYGIWR. Rhif.275.] GORPHENAF, 1858. [Cyf. XXII HANES FFAIR Y CEFN. Y Traethawd Buddugol ar " Hanes Ffair y Cefn" ydyw eiddo " Hen Ffeiriwr," Mae hwn yn Draethawd ardderchog, yn dangos gallu a medr mawr, ac o ran ei duedd yn wir dda. Gwir deilynga y wobr addawedig. Dylai arolygwyr holl Ysgolion Sabothol Merthyr a'r cylchoedd, feddwl am ry w gynllun er ei roddi yn nwylaw cynifer ag sydd yn ddichonadwy. Ki fyddai yn werth i roi nodi ambell wall bychan mewn sillebu, &c, a welir yn y Traetbawd, canys nid ydynt ond ychydig iawn. Bydd cyfeillion crefydd a moesoldeb dan rwymau mawr i'r "Hen Ffeiriwr." Hir oes iddo i gynyrchu aml i Draethawd eto.—Y Beibniad. ÈI DECHREÜAD. Cefncoed-y-Cymer sydd dref-làn fechan, yn mhlwyf y Faenor, yn Swydd Frycheiniog. Ei sefyllfa sydd rhwng yr afonydd Tâf-fawr a'r Tâf-fechan, yn y fan lle y maent yn ymuno â'u gilydd yn un afon. Pont-y-Cefn sydd yn uno plwyfi Merthyr a'r Faenor â'u gilydd, yn gystal a'r Siroedd Brycheiniog a Morganwg. Y mae sefyllfa y lle, mewn ystyr, yn wledig, er fod y trigolion, gan mwyaf, yn ymddibynu ar waith y Gyfarthfa. Dyma y fan lle y cynelir y Ffair sydd yn dyfod yn awr yn destyn ein sylw. Cynelir hi ar Ddydd Llun ý Pasg; ac y mae hi yn brif destyn sylw dosbarth mawr o drigolion y cylchoedd hyn, yr amser hwnw o'r flwyddyn. Y mae yn bwnc tra dyddorol i'r ymchwilgar i olrhain dechreuad rhyw sefydliadau ag sydd yn y byd. Yr ydym yn cael allan, wrth chwilio, fod rhyw sefydliadau yn y byd yn myned drwy gyfnewidiadau tra phwysig, rhai er gwell a rhai er gwaeth. Bu ambell sefydliad o fendith, yr amser aeth heibio, pan oedd angen yr oes yn galw am dano ; ond trwy syrthio i ddwylaw dynion llygredig, aeth yn felldith yn lle benditli. Y mae ambell sefydliad arall wedi bod yn niweidiol i'r byd ; ond trwy fod dynion o fedd- yliau pur wedi ymaflyd ynddynt, tröwyd hwy yn fendith a llesâd i gym- deithas. Y mae ambell sefydliad arall wedi dechreu mewn drygioni, wedi parhau yn ddrwg, ac nid oes gobaith iddynt ddyfod byth o un budd i gym- deithas. O'r nodweddiad olaf hwn yr ystyriwn Ffair y Cefn. Dechreuodd mewn gwagedd a drygioni, ac y mae wedi parhau felly hyd yn awr. "Gwagedd o wagedd, gwagedd yw y cwbl." Gyda golwg ar ddechreuad y ffair hon, y rnae tri pheth ya teilyngu ein sylw, sef, Pa bryd y dechreuwyd ni ? Gan bwy ? ac I ba amcan ? Pa brydl Mor belled ag yr ydym wedi cael allan wrth ymholi, fe ddech- reuwyd Ffair y Cefn, Dydd Llun y Pasg, 1860; hyny yw, er ys 58 o flyn- eddau i'r Pasg presenol. Cyfnod tywyll ar Gymru oedd yr amser hwnw, ac un o ffrwythau y tywyllwch oedd y ffair hon. Cyn yr amser hwn, yr oedd prif ddifyrwch yr ieuenctyd yn gynwysedig, amser y gwyliau, mewn üJ'»yn campiau ofer a chreulawn; megys ymladd cŵn, ymladd ceiliogod, ae yn y nosmewn cynal malsantau. Ac y mae yn ymddangos fod rhai o'r campiau hyn yn cael eu dwyn yn mlaen yn awr, ar ddydd Llun a nos ^un y pasg} yu enwedig y mabsant, ar y Cefn. Yn ol tystiolaeth hen bobl, yr oedd y golygfeydd a ganfyddid yn yr achlysuron hyny, yn ddangoseg G ° Ìyflwr anwyD°dus a llygredig y werin. n "^y * Yr ydym wedi cael enwau saith o bersonau a fuant yn offer-