Skip to main content

Y DIWYGIWÄ'. Rb|f. 267.] HYDREF, 1857. [Cyf. XXIL DIRWEST. GAN Y PARCM. WILLIAM EDWARDS. ABERDAR. Creadür rhyfedd, aruthrol ryfedd, yw dyn. Mae efe felly yn ei gorff ac yn ei feddwl. Mae dau fyd yn cydymgyfarfod ynddo; ac y mae yntau yn alluog i wneud y gorau neu y gwaethaf o'r ddau. Ac yn wir, y mae ei holl fywyd yn ddefnydd neu gamddefnydd o'r ddau fyd i ba rai y perthyna efe. Mae hyn yn gosod arno gyfrifoldeb o'r fath bwysicaf; oblegid mae ffordd ei ymddygiad tuag at y ddan yn effeithio nid yn unig i'w fantais, neu ei anfantais, ac er da neu ddrwg iddo ef ei hun, ond effeithia felly hefyd ar bob bôd tu allan iddo ei hun. Mae bywyd a gallu yn yr oll yw, yr oll a all, a'r oll a wna efe. Mae dychymyg ei galon, symudiadau ei feddw], geiriau ei enau, a gweithredoedd ei ddwylaw, yn taflu dylanwadi eithafoedd bodolaeth. Mae math o anfarwoldeb wedi ei argrafl'u nid yn unig ar y meddwl ei hun, ond ar bob gweithred o eiddo y meddwl. Mae Cain ac Abel er wedi mar'w yn ìlefaru eto—mae eu gweithredoedd mor fyw yn awr ag erioed. Ac y mae gallu ac awdurdod gan y gweithredoedd hyny bob un, yn ol ei ansawdd briodol ei hun, dros feddwl dyn drwy yr oesau. A diau fod y gallu hwnw yn gryfach yn bresenol nag erioed, yn gymaint a'i fod yn casglu nerth newydd yn ei gyffyrddiad â phob meddwl. Ah! dyma ddirgelwch. Dyma wybodaeth ryfedd i ni. O, y fath fôd cyflawn o holl hanfodion bywyd a bodolaeth y rhaid fod dyn; a'r fath fyd rhyfedd, an- nhraethol, ac annirnadwy ryfedd y rhaid fod byd o fodau fel hyn; a'r fath ddirgel- wch aruthrol, ac anfarwoldeb fydd yn hynodi tragwyddoldeb o fodau o'r fath. Mae bod dyn y fath greadur rhyfedd, yn ei gwneud yn ddyledswydd gysegredig arnom i geisio deall ei fodolaeth a ffordd ei gweithiad allan. Dylid gwneud hyn er ei fwyn ef ei hun yn gystal ag er mwyn y byd i ba un y perthyna ef'e. Mae gan ddyn ei berthynasau personol a chymdeithasol; felly hefyd y mae iddo ei berthynasau tymoolr athragwyddol. Mae rhai arweddion yn ei berthynasau hyn yn fwy pwysig na'u * gilydd, o leiaf, y maent yn ymddangos felly i ni. Ond y mae ein bod wedi dewis Dirwest yn destyn, yn ein rhwymo i edrych arno yn yr ysgrif ìion yn fwyaf pen- nodol yn ei berthynasau tymorol ac amserol. Ond byddwn wrth wneud hyny yn cofio bob cam a gerddom, nad yw ei fywyd ef yma ond math o ragbarotoad i'r byd a'r bywyd ar ol hwn. Ond éin testyn yw Dirwest. Dirwest fel ffaith bwysig yn ffordd gweithiad allaû fodolaeth dyn—Dirwest fel gwirionedd egwyddorol, ac ymarferol—Dirwest yn yr hyn ydyw ynddi ei hun, ac yn y goleuni mae yn ei daflu ar bethau tu allan iddi ei hun. Dirwest felffaith bwysig yn ffordd gweithiad allan fodoheth dyn.—Mae dau oleuni yn mha rai y dylid edrych ar weithiad allan fodolaeth dyn; sef y goddefol, a'r gweithredol. Mae efe yn oddefol yn ngweithiad allan ei fodolaeth. Mae pethau tu allan iddo yn gweithredu arno, ac yn taflu dylanwad dros ei fodolaeth pa ua • bynag ai yn anianyddol neu feddyliol yr edrychom arno. Mae ef o ran ei gorff yn rhwym i ddeddfau pennodol. Ac nid oes ewyllys ganddo yn ngweithrediad y deddfau hyny arno. Mae gallu ynddo ef i dderbyn argraff, a gallu ynddynt hwy- thau i roddi argraff. Ac y mae dyn wedi ei leoli gan Dduw yn nghanol deddfau o'r fath yma—nis gall fyw na bod hebddynt—maent yn rhan o hòno. Maent hwy yn 38