Skip to main content

Y DIWYGIWE. Rhií. 266.] MEDI, 1857. [Cyf. XXII Y DAMWEINIATJ. -^ P8 9an Dduw law yn y Jûamweiniau a gymerant le TRWY E8GEULTTSDRA ? BÜDDUGOL ÎN EISTBDDFOD ABíEDiE, GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS. HIRWAUN. Dywed Solomon, " Y sawl a gloddio bwll a syrth ynddo, a'r neb a wasgaro gae sarff a'i brath; y sawl a symudo gèryg a gaiff ddolur oddiwrthynt, a'r neb a hollto goed a gaiff niwed oddiwrthynt." Yn annibynol ar yr amcan oedd gan y gŵr * doeth wrth ddefnyddio y brawddegau uchod, maent yn awgrymu ac yn traethu yn bendant fod perygl i ddyn wrth ymdrafod â'r ddaear, a myned i gyffyrddiad âg elfenau y greadigaeth. Mae profiad, ymarferiad, hanesyddiaeth, a sylw, yn orlawn o ffeithiau galarus mai felly y bu, ac mai felly y mae. Mae tu-dalenau ein newydd- iaduron, a'n misolion, yn cael eu britho gan farwolaethau damweiniol a disyfyd. Mae calonau a theimladau rhyw rai yn cael eu rhwygo bob dydd gan angau disym- wth eu hanwyliaid. Mae llygaid rhai yn ffynonau o ddagrau yn barhaus. Mae ocheneidiau y gweddwon a'r amddifaid â'u llefau hiraethlon i'w clywed yn wastad yn rhyw gongl; fel Rachel gÿnt yn wylo am ei phlant, ac ni fynai ei chysuro am nad oeddynt. Ond testyn ein hymchwiliad yn bresenol ydyw cael allan berthynas Duw â'r damweiniau a gymerant le trwy esgeulusdra. Mae yn amlwg mai í)uw alwodd y ddaear i fodolaeth, ac mai efe roddodd rheolau a deddfau i ddefnydd yn gy8tal a meddwl; ac fe ymddengys mai trwy y cyfreithiau hyn mae Duw yn llyw- odraethu yr holl fydysawd. Mae y deddfau hyn o nodwedd sefydlog a digyfnewid, fel y gellir ymddiried na bydd iddynt wyro oddiwrth y rheol a dderbyniasant. Mae deddf briodol i bob rhan o ddefnydd, i"r tân, dwfr, awyr, pridd, cèryg, coed, glas- wellt. Un gosodwr cyíraith sydd yn y byd gweledig ac an^eledig, yn y byd ysbrydol a defnyddiol, sêf Duw. Mae gweithrediad cyfreithiau natur yn cael eu deall gan ddyn i fesur helaeth; oblegid dibyna ei gynaliaeth a'i gysuron ar hyn, megys ei ymborth, ei ddillad, ei iechyd, a'i fywyd. Mae deddf pwys a thyniad yn cael ei deall i fesur gan bob gweithiwr trwy brofiad, ymarferiad, asylw. Wrthgodi y morthwyl, yr ordd, a'r fwyell, a tharaw y bladur i fôn y gwair, efe a ddeall nerth yr ergyd; medr fesur grym y dwfr wrth groesi y gornant a'r afon, ar draed neu ar geffyl; medr ddeall nerth y tân wrth deimlad a golwg. Pan fyddo dyn yn myn'd i gyffyrddiad â deddfau anian, dylai wylio rhag troseddu yr un o honynt: os rhy- fyga fyned yn erbyn un o honynt bydd yn sicr o gael ei gosbi. Ond er iddo arferyd pob gwyliadwriaeth, ac i'w ochelgarwch fod mor fanwl a chyson ag y byddo bosibl: wedi'r cwbl, y mae yn fwy na thebyg y dygwydd damweiniau angeuol rai na bydd ganddo un rhagwelediad o honynt. Gan fod rhaid i ddyn drin anifeiliaid carniog a chorniog, a rhodio yn mhlith ymlusgiaid gwenwynig, defnyddio offerynau miniog, ac adeiladu aneddau, palasau, a thyrau uchel a gorwych, a hwylio llong lwythog dros fôr garw ac aflonydd yn wyneb corwynt a thymestl, yn sŵn ruad y daran, a gwaedd dyfroedd yn galw ar eu gilydd, y dyfroedd odditanodd yn terfysgu, a'r dyfroedd oddiuchod yn pistyllo i wared, yn yr adeg hon bydd y môr weithiau yn agor ei safn ac yn llyncu y llong a'r llongwyr i'w ymysgaroedd, i orphwys o ran eU cyrff hyd dydd barn, dywedaf mai Ingenrhaid yw dyfod damweiniau angeuol a À . ■«. 84 .♦