Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 263.] MEHEFIN, 1857. [Cvf. XXII. CYFRIFOLDEB DYN. GAN Y PARCH. SIMON EVANS, HEBRON. Y Mae cyfrifoldeb yn ddrychfeddwl moesol—awgryma wobr a chosb—cynwysa fai neu rinwedd. Y mae dyn yn caru annibyniaeth i feddwl, i ddweyd, ac i wneud fel y myno, heb fod neb yn gofyn íddo, paham y gunaethost hyn ? Ond cared a fyno ar annibyniaeth, creadur dibynol yw—mwy yw Duw na dyn. Wrth ymdrin â'r mater hwn, cawn yn gyntaf enwi— Hanfodion cyfrifoldeb moesol.—Rhaid i bedwar peth gydgwrdd lle byddo cyfrif- oldeb, sef, rheswm, rhyddid, cyfraith, a barnwr, 1. Rheswm—wrth reswm y deall- af y gallu i ddirnad rhagor rhwng da a drwg moesol, dyledswydd a phechod. Y mae creaduriaid afresymol; â hwy nid yw y ddeddf foesol yn siarad—ufuddhânt i'w deddfau. Pan y mae y dwfr yn cludo llongau a throi melinau, nid oes iddo glod—pan y mae yn dinystrio meddianau a bywydau, nid oes arno fai. Gwna yn ol deddf yr Hwn a barotoa ddyfrlle i'r llif-ddyfroedd, a ffordd i fellt y taranau. Pan y mae y llew yn ysglyfaethu a llarpio ei ysglyfaeth, uf'yddhà i'w reddf. Gellir dofi a dysgu llawer ar aniíeiliaid ac ehediaid ; ond dysger a fyner iddynt, arosant yn afresymol; a dyn yn eiisel-radd a ddysgir yn amgenach naganifeiliyid y ddaear, ac ehediaid yr awyr, (Job 35, 11.) Dengys yr anifeiliaid öyddlondeb, serch, a gofal am danynt eu hunain, eu teuluoedd, a'r rfiai a'u porthant: " Yr ŷch a edwyn ei feddianydd, a'r asyn breseb ei berchenog;" ond, am na feddant reswm, nid ydynt yn ddeiliaid cyfrifoldeb moesol. 2. Rhyddid, neu allu naturiol i wneudyn ol dewisiad yrewyllys. Os bydd dyn yn cael ei orfodi i wneud, nid yw efe gyfrifol, ond y gorfodwr. Pe defnyddiai dyn law dyn arail i ffugio enw neu i saethu ergyd a lladd ei gymydog, byddai yr holl gyfrifoldeb arno ef. Amddifader dyn o'i ryddid, ac nid yw ond peiriant yn mudo fel y ca ei fudo—yn myned heb un rheswm na reol. Lle y mae gorfodaeth, nid oes na rhinwedd na bâi. Dyn allan o'i bwyll (idiot), nid yw gyfrifol—colla y dyn y llywodraeth arno ei hunan ; ond y mae dyn yn gyfrifol am daflu ei hun i sefyllfa felly; am hyny, iawn y gelwir y meddwyn i gyfrif amyr hyn a wna pan yn feddw, canys yr oedd at ei ddewisiad i fod yn sobr. Y cythreuligion yn amser Crist, nid oeddynt gyfrifol. Defnyddiai y diafol hwy i ddweyd a gwneud yn ol ei ewyllys ef. Y mae cyfle i wneud da neu ddrwg—posiblrwydd naturiol i'r ddau yn hanfodol i gyfrifoldeb. 3. Cyfraith.—"Lle nid oes deddf, nid oes gamwedd." Gelwir pob un i gyfrif yn ol ei gyfleusdra i wybod y rheol: " Oni buasai fy nyfod a Uefaru wrthynt, ni fuasai arnynt bechod; ond yr awr hon nid oes ganddynt esgus am eu pechod," oedd tystiolaeth yr Iesu am Iuddewon yn ei amser ef. Buasent yn bechaduriaid ond yn rhydd o'ddiwrth y pechod o wrthod Crist. Y rhai nid yw y ddeddf ganddynt a fernir yn ddiddeddf, sef, deddf ysgrifenedig fernir yn oi gweithred y ddeddf sydd yn ysgrifenedig yn eu calonau, a ehynifer ag a bechasant yn y ddeddf, afernirwrth. y ddeddf, a deiliaid gweinidogaeth yr efengyl a fernir yn ol yr efengyl. Dangos-' odd Duw i ti ddyn beth sydd dda. Gwyddost ewyllys dy Arglwydd. Cofia nad ýw anwybodaeth wirfoddol, anwybodaeth oddiar esgeulusdra, yn dileu cyfrifoldeb. Y mae dyn yn ddeddf iddo ei hun, ac os gwrthyd defnyddio yr ámlygiad roir iddo, ẅûö ef y mae y bai. 22