Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 262.] MAI, 1857. [Cyf. XXII. WHITEFIELD A'I AMSERAU. QAN Y PARCH- J. GRIFFITHS. SOLVA« (Parhad o Rìfyn Ebrill diweddaf, tu-dal. 106.) Yn mhoethder y diwygiad mawr hwn cytunodd am le idde ei hun ag un-ar-ddeg ereiü ar fwrdd y llong " Elizabeth" yn rhwym i Pensylvania, fel y byddai iddo gael pregethu a chasglu at yr Orphan House yn y ddinas, a thrwy y wlad helaeth hòno ar ei ffordd i lawr i Georgia. Cychwynodd ar yr ail fordaith hon i America, Awst, 1739. Yn ystod yr ymweliad hwn tramwyodd trwy drefedigaethau America gan bregethu yn mhob tref o un maint, ac yn fynych yn nghanol yr anialwch gyda'r un nerth a'r llwyddiant anarferol ag oedd yn canlyn ei lafur yn Lloegr. Yr oedd gwawr diwygiad wedi tòri yn America yn barod yn eglwysi Northampton a'i chym- ydogaeth, wedi dechreu yn eglwys yr anfarwol Jonathan Edwards; aphan ymwel* odd Whitefield ûg ef a'i deulu gan aros am ryw ysbaid yn y breswylfa nefol hòno, caf- oddesboniad goleuedig ar grefydd yr hen Buritaniaid; pregethodd yn ei gapel, ac oddiyma cariodd ef a Tennent, y tân nefol dros yr holl drefedigaethau: anerchent gynulleidfaoedd o ugeiniau o filoedd yn y boreuau amS o'r gloch, yn y prif ddinas- opdd. Er fod orthodoxy oerllyd America y pryd hyn wedi cyhoeddi cyfraith trwy ei chymanfaoedd, nad oedd un gweinidog i fyned o gartref ar daith i bregethu heb ei garcharu neu rhoddi meichiau o £100 rhag ei fyned yr ail waith ; eithr chwalodd zêl "Whitefield a'i gyfeillion eu eyfraith wael; a pha le bynag y byddai ef yn agor ei enau yno, yr oedd y miloedd yn ymgasglu, pa un bynag ai ar y maes neu yn yr eglwysi, ac ni feiddiai neb osod llaw arno ef, nag un gweinidog omedd ei bwlpud jddo, rhag ofn anfoddloni ybobl. Ar ddiwedd y daith hon, ysgrifena yn ei ddydd* iadur:—" Gwelsom bethau mawrion : yr oedd y cynniweiriad a'r nerth cydfynedol â'r gair yr un fath a hwnw saith mlynedd yn ol. Egwan fel yr oeddwn, ac wyf wedi bod, cynorthwywyd fi i drafaelu un cant ar ddeg o filldiroedd, a phreg- ethu bob dydd. Yr wyf yn awr yn mynedi Georgiaiauafu." Wedi cyrhaedd yma gosododd i lawr sylfaen yr Orphan House. Y mae yn ofid genyni ddarllen iddo brynu caethweision i wrteithio y tir, yr hyn sydd yn dangos nad oedd yn hyn o flaen ei oes; eto, teg yw dywedyd, ei fod yn rhoddi addysg Gristionogol i'r rhai oedd dan ei ofal, ynghyd â phob manteision galluadwy i rai yn y fath sefyll- fa . Nid oedd yn anghofio y Negro ychwaith wrth bregethu. Nid anfynych y terfynai ei bregethau yn y modd hyn :—" Rhaid i mi beidio anghofio y Negro tyìawd, rhaid, rhaid i mi beidio! Bu Iesu Grist farw drostynt hwy felereilhac nid^-f yn eich anerch chwi yn olaf, am fy mod yn diystyru eich eneidiau, ond am fy mod am i'r hyn a lefaraf i wneuthur argraff mwy dwfn ar eich calonau. O na cheisiech >r Arglwydd yn gyfiawnder i chwi. Pwy a ŵyr na fydd iddo ef ei gael genych, chwi foblegyd yn Nghrist Iesu nid oes na chaeth na rhydd, ie gallwch chwifod yn blant i Dduw, os o ffydd lesu. A ddarllenasoch chwi erioed am yr eunych oedd ynperthyn i'r frenines Candace? Negro oedd fel y chwithau. Efe a gredodd, yr Arglwydd oedd ei gyfiawnder. Efe a fedyddiwyd. A ydych chwi yn credu hefyd, yna y byddwch cadwedig. Crist Iesu ŷr un ydyw yn awr ag oedd ddoe,_ ac a'ch golch chwi yn ei waed ei hun, ewch adref ynte, a throwch y geiriau yn weddi ac erfyniwch yr Arglwydd i fod eich cyfiawnder. Yn wir tyred Arglwydd Iesu, tyred at frys i'n heneidiau oll! Amen, Arglwydd Iesu, Amen ac Amen." Dychwelodd iLoegr yn mis Mawrth 1741. Yn ystod y gauaf hwn yn Georgia, ysgnfenodd 4dau lythyr yn mha rhai y gwrth-brofodd rai o ddaliadau Arminaidd Venn a Tillotson. Yr oedd ÿ ddau eglwyswr hyn yn boblogaidd iawn yn eu dydd, a phan gyhoeddodd Whitefield ei lythyrau, yn mha rai yr haerai nad oedd Archesgob Tillotson yn gwybod 18