Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. -261.] EBRILL, 1857. [Cyf. XXII. WHITEFIELD A'I AMSERAU. GAN Y PARCH. J. GRIFFITHS. SOLVA. (Parhad o Rifyn Mawrth dhceddaf, tu-dal. 76.) Oddiae, fynydd y cymundeb hwn daeth i Gaerodor eto, yn barod i bregethu yr efengyl gyda nerth adnewyddol; ac os oedd yr holl ddinas mewn cyffro yn ystod ei ymweliad blaenorol, cafodd yn awr ei chynhyrfu hyd ei sail; personau o bob graddau ac enwadau a ymwthient i'w wrando ef; cymaint oedd yr arlethiad yn mhob eglwys fel mai gyda yr anhawsdra mwyaf y gwnai ef ei ffordd at yr areithfa; rhai a ddringent bileri y gallery, ereill y gronglwyd o fewn, a llawer nen yr Eglwys o'r tu allan âg ysgolion, er clywed trwy y tô Pan bregethodd ei bregeth ymad- awol, gan ddywedyd, o bosibl na chaent " weled ei wyneb ef byth mwy,'' uchel ac isel,hen ac ieuainc, a dorasant allan mewn wylofain, nes oedd y lle yn foddfa o ddagrau. Torfeydd a'i canlynasant ef adref i'w lety, gan wylo, a chydag eHyn- iadau am iddo aros yn Lloegr, c'thr yr oedd yn gadarn yn ei benderfyniad. LÍef- arodd y dydd canlynol o saith o'r gloch y borau hyd haner nos, pryd y ciliodd ymaith yn ddystaw, er gochelyd gorymdaith gyhoeddus. Ar ol ychydig fàn ym- weliadau byrion, cyrhaeddodd Lundain drachefn. Cafoddgawodyddo wahoddiad- au i bregethu a gweini yr ordinhad yn yr eglwysi, ac yntau mor hwylus i'w derbyn, fel yr oedd ei gyfeillion yn ofni yn fawr gyda golwg ar ei iechyd, ac yn enwedig trwy fod y tyrfaoedd yn gnrlwylho pob Eglwys. Ei ateb ef oedd, ei fod yn cael allan trwy brofiad " mai pa fwyaf yr oedd yn ei wneuthur, mwyaf i gyd a allai wneud dros Dduw." Llefarodd hyn pan oedd yn arfer pregethu bedair gwaith ar y Saboth, ac jrn cerdded o ddeg i ddeuddeg miìldir o un Eglwys i'r llali. Galwodd Mr. Robert Raikes, Caerloyw, tad yr Ysgol Sabothol, y llaf'ur hwn yn weithredoedd nerthol yn ei newyddiadur, yr hyn a anfoddlonodd Whitefield yn fawr. Yr wythnos olaf ond un o'i arosiad yn Llundain, y tro hwn pregethodd ddeng waith, a'r olaf saith gwaith yn Eglwysi plwyf Islington, Bishop's Gate, St. Margaret, Westminster a Bow, Cheapside, heblaw ereill. Ei bregeth olaf y tro hwn a draddododd yn Eglwys St. Dunstan amchwech o'r gloch borau Saboth, pan roddodd eifarewell iddynt. Yr oedd yr holl Eglwys yn ddiluw o ddagrau; yr oeddent yn llefain yn uchel, fel mam yn wylo am ei chyntaf-anedig. Tra yr oedd yn Llundain y tro hwn, casglwyd miloedd lawer o bunau ar ol ei bregetb.au at wahanol ysgolion, ac achosion crefyddol ereill. Yr oedd y llong weithian yn barod i hwylio. Aeth yntau fel "pererin tylawd" ar fwrdd y " Whitaher" ar y 23ain o Ragfyr, 17c7, yn gyflawn tair ar ugain oed. Yr oedd y gwyntoedd mor groes fel na wnaeth y llong ddechreu y fordaith yn deg cyn diwedd Ionawr, 1738. Yn y llong yr oedd cwmpeini o filwyr, heblaw y môr- wyr perthynol iddi. Yr oedd y ddau gadben, y meddyg, a'r cadet yn edrych gyda dirmyg ar Whitefield fel twyllwr (imporìor). Troisant y llestr yn chwareudy (gambling-house) dros y Saboth cyntaf. Ar y Sadwrn blaenorol, darllenodd y gwasanaeth, ar yr hwn y gwrandawsant yn astud, eithi pan ddechreuodd bregethu oddiwrth 1 Cor. 2, 2, rhoddodd hyn dramgwydd iddynt; a phan hysbysodd iddynt ei fwriad pa fodd y gwnelai dreulio ei Sabothau ar y fordaith, a'i fod ef yn dechreu ei Saboth y prydnawn blaenorol, ffromasant hyd at wallgofrwydd, ac i brofi hyn, treuliasant y Saboth dranoeth drwyddo oll gyda'r cardiau^ y dawns, a*r offer cerdd. Gwelodd yr ystorom yn dod, a barnodd yn ddoeth mai gwell oedd cilio yn awr. Aeth ef ac ychydig gyièillion allan o'r llong i ochr y bryn gyferbyn . ■■ .' ■■■■ ' ■. . ■.■■.•■