Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■: ...-■■ ■■■' ""■'■'" ■'■'■■■ ■ ■ Y DIWYGIWR. %s Rhif. 260.] MAWRTH, 1857. V, ^Gyf. XXII. \ -------------------------.------------:----------------------^^--------------, ^ WHITEFIELD A'I AMSERAU. -\ QAN Y PARCH- J. GRIFFITHS. SOLVA. " I never beheld so fair a copy of our Lord ; such a living image of the Saviour; such exaltecJ deligbt in God; such unbounded benevolence to man ; such steady faith in the Divine promises; sucb fervent zeal for the Divine glory ; and all tbis without the least moroseness of humour or extravagances of behaviour; but sweetened with the most engaging cheerfulness of temper apd regulated by all the sobriety of reason and wisdom of Scripture; insomuch that I cannot forbear applying the wise man's encomium to this eminent minister (Mr. Whitefield) of the everlasting gospel. Mauy sons have done virtuously, but thou excellest thera all.". — Hervey wrth Dr. DoDDRIDGE. Cyfnod a gofir byth oedd hùno pan y cafwyd Bibl i'r bobl. Cymerodd hyn le yn Lloegr, mor belled a chopi o'r Bibl Saesonig i bob eglwys, trwy orchymyn Harri VIII., tua'r flwyddyn 1526. Yn fuan ar ol hyn y cyfieithiwyd y Testament Newydd i'r Cymry, gan William Salisbury, a Dr. Davies, Esgob Ty-Ddewi, ac yn ystod y deng mlynedd ar hugain nesaf, cafwyd yr holl Fibl i'r Gymraeg, gan Dr. Morgan, sef, yn y fiwyddyn 1588. Yn amser Cromwell, 1653—1658, pregethwyd yj efengyl yn ei phurdeb yn y deyrnas hon. Bernir fcd cant a hancr o weinidog- íon selog y Testament Newydd yn Nghymru. Yr oedd crefydd yn uchel; perchid y Bibl; cyfrifid y Saboth yn hyfrydwch, a sant yr Arglwydd yn ogoneddus. Pan ddaeth Charles II., i'r orsedd, yn 1660, buan y cyfnewidiodd agwedd pethau—yn lle ryddid crefyddol, morthwyliwyd cadwynau caethiwed, gormes, a thrais, a bu gorthrymder mawr yn y dyddiau hyny. Yn mis Awst 1662, ymadawodd dwy fil o ofieiriaid duwiol à'r Eglwys Sefydledig am byth, yn hytrach na thyngu llŵ o ffyddlon- deb i gredu yn ddiledrith yr oll o'r Llyfr Gweddi Cyffredin, ac i dalu ufydd-dod diffu- ant i orchymynion y brenin a'r esgobion ; yn hytrach nag aberthu eu cydwybodau, aethant allan, gwynebasant hwy a'u teuluoedd dylodi a chyfyngderau fwy na mwy, dyoddefasant erlidigaethau. "Llawer o honom," medd yr anfarwol Howe, " sydd yn byw ar haelioni—rhai mewn caledi yn ceisio enill eu bara; rhai yn galetach arnynt, yn gorfod cardota eu bara." O'r amser hwn hyd y chwyldroad yn 1688, cyfrifir fod wyth mil o Ymneillduwyrwedi marw yn y carchar. Talwyd dwy fyrdd- iwn o bunau ojìnes, o herwydd cyfarfod i addoli yr Arglwydd yn ol goleuni eu cydwybodau, ac yn ol y cyfrif lleiaf, collodd teuluoedd yr Ymneillduwyr dair myrddiwn ar ddeg (£13,000,000) o bunau trwy erlidigaeth. Yr oedd duwiolion yroeshòno yn cael eu cau yn ystafelloedd oerion y carchardý, rhag traethu i'r werin Air Duw; ereill o honynt, os gallent gael eu traed yn rhydd, a ffoent i anial-dir America. Llyfr chwareuyddiaethau oedd Bibl y bobl, a'r campau brydnawn dydd yr Arglwydd oedd Ysgol Sabothol ieuenctyd yr oes, ac erbyn i'r genediaeth hon dyfu i fyny, nid rhyíedd bod gwir grefydd, oddieithr ychydig o eithriadau, wedi ei cholli o'n gwlad erbyn y flwyddyn 1720. Safwn ar ganol hir ddydd haf o'r flwyddyn hon, i edrych oddiamgylch i ni ar olwg foesol ein gwlad. Yn awr, yr oedd George L, yn frenin Prydain, a Bolinbroke, a Walpole, a Chesterfield, a Newcastle, yn amgylchu yr orsedd fel prif gynghorwyr y brenin. Y Wae tu-dalenau hanesyddiaeth yr oes hon yn gwridio wrth goffhau annuwioldeb y Heoedd uwchaf. Dyma yr amser oedd mawrion y deyrnas yn ymffrostio yn eu pechodau, ac yn ymogoneddu yn eu gwarth, heb neb i'w ceryddu. Ystyrid bon- eddwr yn yr oes hon yn un a fyddai yn cablu, yn meddwi, yn chwareu (gambling) yn ymladd âg arfau, yn byw mewn godineb; ac er hyn oll, nid oedd neb yn edrych 10