Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 258.] IONAWR, 1857. LCyt. XXII. DIRYWIAD DYNOLRYW. QAN Y PARCH- D. MORGAN. LLANFYLLIN- DARLITH I. Yn mha uu y gosodir allan sefyllfa wreiddiol dynolryw,—Y cyfnewldiad a gymerodd le yn eu sefyllfiu (Parhad o Rifyn Rhagfyr diweddaf, tu-dal. 354.) Ond pan y gwelom fod dynion yn gyffredin gwedi croesi hyn, gwedi ac yn esgeu- luso eu dyledswyddau, yn byw yn amddifad o ddangos y rinweddau a nodwyd tuag at eu gilydd, eithr yn meithrin teimladau cwbl gyferbyniol iddynt: y mae hya ,yn. dangos yn eglur y fath ddrwg a gwallgofrwydd sydd mewn pechod, fel y mae ya achosi yr hyn oedd orau yn eu hamcan i ddedwyddu, i fod yn ffynönau i fwrw allan ddrygau ac annedwyddwch mwyaf i ddynion. Y mae lle cryf i feddwl hefyd fod yr Arglwydd gwedi roddi awgrymiad eglur i'n rhieni cyntaf, mai mewn sefylife prawf oeddynt ar y ddaear, cyn goruchwyliaeth y cyfamod yn ngardd Eden, pan y gorchymynodd Duw iddynt hilio ac epilio, a llenwi y ddaear, ac wedi hyny bod iddynt ryw le i anneddu heblaw y lle yr oeddynt y pryd hwnw. Diamheu y buasai yr awgrymiad hwn i wneuthur argraff ddwys a daionus ar eu meddyliau hwy a'u hiliogaeth, oni buasai fod pechod wedi tywyllu eu deall i hyn, a pheb daioni arall. Ni ddichon i'r un peth fod yn fwy amlwg i ni nag ymddibyniad hollol pob creadur creuedig ar ewyllys ei Wncuthurwr. Ac mai ar fwriad a gweithrediad galluog Duw yr ymddibynai y dyn cyntaf am ei fôd, ei fywyd, a pharhad ei fywyd, a'i hiliogaeth yr un modd—arno ef y maent yn byw, yn symud, ac yn bod, ac o'i law haeíionus y maent yn derbyn pob cynaliaeth ac amddiffyniad parhaus. Peth. hollol afresymol ydyw meddwl fod dyn, neu unrhyw greadur arall, yn anêtfwol o natur, neu fod anfarwoldeb yn hanfodol i neb ond Duw ei hunan, oblegid anfarw- oldeb hanfodol ydyw un o brif linellau gwahaniaethol rhwng Creawdwr a chread- wr. Nid ydym wrth ddywedyd hyn yn gwadu na ddichon i ddynion a chreadur- iaid ereill gael eu gwneuthur yn anfarwol trwy weithrediad a dylanwad parhaus yr Anfarwoldeb ei hun ar eu cyfansoddiad, ac er eu hamddiffyniad yn ol boddlon- rwydd ei ewyllys ei hun. Ehoddwyd gan yr Arglwydd, megys CráÉwdwr a Llyw- ydd haelious i Adda megys deiliad o'i lywodraeth, a thad naturiol i'w holl hiliog- aeth, etifeddiaeth helaeth a chyfoethog, fel y gwelir yn Gen. 1, 28, 29, "Duwhefyd a'u bendigodd hwynt, (sef ein rhieni cyntaf,) a Duwaddywedodd wrthynt, Ffrwyth- wch ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi, ac arglwyddiaethwch ar b}'8g y môr, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear. A Duw a ddywedodd, Wele mi a roddais i chwi bob Uysieuyn yn hadu had yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hedu had, i fod yn fwyd i chwi." Gallwn sylwi y tarddai rhoddiad yr etifeddiaeth uchod yn gwbl o ewyllys da y* Arglwydd, ac nid o fod gan ein rhieni cyntaf yr un hawl i'w hymarddelwi fel creaduriaid oddiwrth eu cread, nac fel deiliaid o lywodraeth foesol y ne£ Hefyd, meddylir ei bod yn dra eglur fod yr etifeddiaeth hon wedi ei gwneathur drosodd iddynt yn hollol annibynol ar unrhyw oruchwyliaeth arall, o eiddo Duw tuag atynt, ac i fod pob peth yn ngeiriad y rhoddiad, mai o'r tu allan i arddEden y bu y rhoddiad hwn. Gan hyny, y mae genym le cryf igasglunad oedd eu an^hydymffurfîad hwy âg amod yr oruchwyliaeth hòno a wnaethpwyd â hwy pan