Skip to main content

Y DIWYGIWJR. * Rhif. 257.] RHAGFYR, 1856. [Cyp. XXI. DIRYWIAD DYNOLRYW. GAN Y PARCH- D. MORGAN. LLANFYLLIN- DARLITH I. Yn mha uu y gosodir allan sefyllfa wreiddiol dynolryw,—Y cyfnewidiad a gymerodd le yn eu sefyllfa. " Ac efe," sef Duw, " a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyneb y ddaear.''—Paul. " Wele hyn yn unig a gefais wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn ; ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychmygion."—Solomon. Ymddengys yn y geiriau, fod y gŵr doeth gwedi cymeryd sylw manwl a threiddiol o'r holl wagedd, oferedd, y ffolineb, a'r drygioni a wneir yn y byd; yr hoU orthrym- der, y trais, y gormes. y tristwch, y galar, a'r llafur caled ablin, y gofidiau a'rtrueni yr ymboenai meibion dynion ynddo, a thano, ar y ddaear, nes oedd hyny gwedi effeithio yn ddwys iawn ar ei feddwl, fel y parodd iddo wneuthur ymchwiiiad manwl i'r achosion a'r ffynonell o'r pethau hyny. " Wele," meddai, " hyn a gefais wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn." A hyn y cytuna geiriau Iago, pan y dywed " Na ddyweded neb pan demtier ef, gan Dduw y'm teratir." Cydnabyddir gan bob un o'r ddau, nad yw holl ddrygau a thrueni y byd mewn un ystyr yn gorphwys wrth ddrws Duw. Dangosir i ni yn mhellach gan Solomon, mai Duw, yn ei anfeid- rol allu, a'i ddoethineb ydyw Creawdwr pob dyn. "Efe a'n gwnaeth" medd y Salmydd, " ac nid ni ein hunain ;" a Phauî a ddywed fod pawb wedi eu gwneuthur o'r un gwaed, ac yn deilliaw o'r un rhieni ary cyntaf, a bod y cyntaf hwnw wedi ei wneuthur yn uniawn, ac mai trwy eu gwaith hwy yn chwilio allan ddychmygion lawer ydaetheutrueni arnynt. Nid peth o ychydig bwys ydyw i ni feddu syniadau cywir ac ysgrythyrol ar sefyllfa wreiddiol dynolryw yn ngolwg neb dynion ystyriol, na neb sydd yn chwenych meddu syniadau priodol ar drefn Duw, ddatguddiedig yn Nghrist i gadw pechaduriaid; canys i'r un graddau y mae syniadau cywir ar sef- yllfa a chyflwr gwreiddiol dynolryw, y bydd genym olygiadau cywir ar ddrwg pechod, ar y colliant, a'r truenusrwydd y mae dynion yn ei afael trwyddo. Mor oell ag y bydd ein syniadau yn ysgrythyrol ar y pethau hyn y deuwn i weled gwerth a chymhwysder yr iechydwriaeth a ddatguddir yn yr efengyl. Yn gyson â'r tyst- iolaethau blaenorol ni gawn ÿr hanesydd dwyfol ac ysbrydoledig yn roddi i ni hanes am gread dyn ar y cyntaf. " Duw hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain,—felly Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw Duw y creodd efe ef," Gen. 1, 26, 27. Ymddengys yn amlwg mai prif gamp-waith y cread oedd creu y dyn. Galwyd cynghor, hyd nod yn y nef, ar gyflawniad y gorchwyl hwn. Dysgir ni yn y geiriau fod lluosogrwydd, o Bersonau yn hanfod y Duwdod, a phan nad oedd ond cydsyniad dystaw yn*mhlith y rhai. nyn, pan y crewyd yr amrywiol fodau ereill ; eithr yn awr, pan y crewyd dyn, yr' ; oedd yn rhaid cael cydsyniad cyhoeddus i gymeryd ìle, er dwyn sylw yr holl fodau ysbrydol oedd yn y llys uchod at fawredd y gorchwyl oedd yn cymeryd lle. Gwnawn ddyn, gwedi creu y dyddiau o'r blaen yr oll o greaduriaid y ddaçar, elfen- au, yn fôdau, yn anifeiliaid mawra màn, a llysiau o bob rhywogaeth j ac o'ianfeidrol ddoethineb a'i ddaioni gwedi eu gosod oll mewn trefn harddw^h, brydferth, a gwasanaethol. Ar y chweched dydd dyma brif amcan y cread o'r^tóiaen yn dyfod i'r amlwg, a ffrwyth y cynghor yn cymeryd lle, yn y gorcHwyl o jsÉẀdigaeth dyn, fel yr oedd y blaenaf mewn amean, yr olaf mewn gweithrediad. Yr etifeddiaeth gwedì ei pÜarotoi, y palas wedi ei adeiladu a'i drefnu yn dlws, ac yn aẁr y dygir yny gorchwyl hwn, y meddianydd i feddiant o'i etifeddiaeth, ac i drigo yneibaíis.