Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y MWYGIWË. Rhif. 256.] TACHWEDD, 1856. [Cyf. XXI. Y CRISTION O FEWN YCHYDIG. "Ye wyt ti o fewn ychyâíg i'm heniìl i fod yn Gristion."—Agrippa. GAN Y PARCH. W. ROBERT3. CLARACH- Y MAE rhifedi mawr o ddynion yn Nghymru " o fewn ychydig" i fod yn Gristion- ogion ; eto heb fod " yn gwbl oll." Y maent wedi eu hargyhoeddi, a than argy- hoeddiadau; ond heb ddychwelyd oddiwrth eu ffyrdd drygionus, abyw. Ymaent fel haiarn rhwng dau faen-tynu cydbwys " yn cloffi rhwng dau-feddwl;'' ond heb dori'r, ddadl. Nidoes yr un sefyllía mwy anhapus dan haul na bod " o fewn ychydig." Y mae h'oll blesèrau byd a chrefydd, cnawdol ac ysbrydol, yn cael eu difwyno. Ymddyrysir rhyngddynt, gan gyfyngder o'r ddau-tu, nes bod hebyrun. Camyn ol, neugamyn mlaen,dòrai y ddadl. Peth ofnadwy fyddai syrthio i uffern, ar ol dyfod mor agosì'r nefoedd. Byddai yn fwy dewisol gan y môrwr foddi yn eigion y môr, nag yn ymyl y làn. Teimlasai y llofrudd lai o ofid pe syrthiasai i afael dialydd y gwaed cyn cych- wyn, nag ar ol cyrhaedd trothwy y ddinas noddfa. Efallai fod y darllenydd " o fewn ychydig i fod yn Gristion;" he.b fod yn " bell o deyrnas Dduw," eto, yn rhy bell i fod yn gadwedig, ac yn ddigon pell i foddi, er bod yn ymyl y làn, ac ar drothwy dinas noddfa. Pwy a ẃyr pa fäint a foddodd yn ymyl drws arch Noa? .Faint a laddwyd gerllaw pyrth y dinasoedd noddfa ? Mae Crist yn arch diogel " rhag y digofaint sy ar ddyfod," ac yn noddfa gadarn " rhag y llid a fydd," ond rhaid bod ynddo cyn bod yn gadwedig: " Nid oes dim damnio na cholli byth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu." Gau-noddfeydd yw pob man arall, boed iddynt fod mor agos ag y byddont. Y mae rhai yn mhellach, a rhai yn nes, er bod " o fewn ychydig.'' Mae rhai yn yr eglwys o fewn ychydig, a rhai o'r tu faes iddi o fewn ychydig. Y mae modd i broffeswyr fod o fewn ychydig, cystal a'r di-broffes. O fewn ychydig ydoedd sefyllfa y pum morwyn ffol, gyda lampau; yr oedd y gŵr ieuanc o fewn ychydig heb yr un lamp. O fewn ychydig ydoedd cyfiwr y rhai a broffwydodd, fwriodd gythreuliaid allan, ac a wnaethant wyrthiau lawer yn enw yr Arglwydd Iesu; yr oedd dysgj'blion y tortb.au o fewn ychydig, heb broffwydo, bwrw allan gythraul, na gwneud gwyrth erioed. Y mae llawer o bethau da yn y Cristion sy o fewn ychydig i'w enill at grefydd: ond gall fod mwy yn yr hwn a enillwyd ati. Peth da yw gwrando efengyl yn gyson—dwyn offrymau at achos y Gwaredwr—dilyn bucheddau moesoì—addef ysbrydoirwydd crefydd, a chredu fod yn rhaid i bob gwir Gristion ddàl cymundeb â Duw. Ond beth gwell yw ymgyfenwi ar enw Crist— proffesu adnabyddiaeth o hono—bod à Ue ac enw yn ei dý—nesáu ato â genau, a bwyta ei gnawd, ac yfed ei waed ? Gellir cyfiawni y pethau yna, faint bynag yn rhagor, heb fod yn ddim ychwaneg na Christion o fewn ychydig. A Christion o fewn ychydig yn y ddau bwynt a nodwyd gaiff fod testyn ein myfyrdod. Y CltlSTIOíJ O FBWN yCHyDIG I'W ENILL AT GUEFyDD. Dyn yn methu gweled ei hun yn ddigon cymhicys i ddyfod at grefydd.—Y mae ef yn meddwl dyfod yn ddiau, rywbryd; ond nid fel y mae. Kbaid iddo gael trwsio tipyn arno ei hun yn gyntaf. Y mae ef yn rhy annuwiol, rhy aflan, a rhy bechadurus yn awr. Myn aros tipyn eto, i wella ei foesau a diwygio ei ffyrdd 5 a phan ddêl, ni bydd raid iddo wrth Feddyg Seion. Gall hebgor cyfiawnder Crist yn rhwydd. Am ddyfod y mae efe yn iach a chyfiawn, ac nid fel pechadur edifeiriol, . 42