Skip to main content

r* Y DIWYGIWR. Rhif. 255.] HYDREF, 1856. [Cyf. XXI. RHYS PRYDDERCH, YSTRADWALLTER. GAN Y PARCH RHY3 GWESYN JONE9, RHAIADR. Mae ein cariad at leoedd yn tarddu o amrywîol achosion. Hoffwn rai manau o herwydd eu prydferthwch naturiol. Teimla y meddwl ei fod tra yn mwynhau eu golygfeydd yn canfod mwy o ddoethineb a daioni y Creawdwr nag sydd i'w ganfod yn gyffredin, ac felly yn cael ei ddŵyn igysjlltiadmwyagosâThad yr ysbrydoedd. Lleoedd ereill a hynodir gan eu cysylltiadau hanesioí, a'r ffaith fod unwaith yn preswylio ynddynt feddyliau a effeithient ar eu cyd-ddynion naill ai er eu gweíla neu eu llywodraethu, neu fe ddichon bob un o'r ddau. Weithiau cyfarfyddwn â lleoedd a hynodir gan bob un o'r ddau, sef prydferthwch naturiol ac adgofion hanesiol. Un o'r cyfryw fanau yw Ystradwallter, ger Llanymddyfri, swydd Gaer- fyrddin. Wrlh aros yn ymyl y drigfan hòno, neu deithio ar hyd yr heol wastad gerllaw, caiff y meddwl prydyddol ei enyn yn fflam gan brydferthwch y golygfeydd a'i cylchynant yn nyffryn Bran. O'i ol y mae Park a Phalas Glanbran, ynghyd â'r derw mawrion nynodhyny ydyntwedigoroesi teulu enwogy Gwyniaid, a gweled yr eti- feddiaeth hardd yn eiddo dyeithriaid. O'i flaen y mae gwastadedd eang a ffrwyth- Jawn dyffryn Towy yn ymagor i'w groesawi ar ei daith, ac heb fod yn mhell y mae trefbrydferth Llanymddyfn, a'i thrigolion serchog a groesawus, yrhaia ddylent fod oll yn feirdd ac ysgolorion wrth ystyried prydferthwch eu trigfa, a'r manteision addysg o fewn eu cyrhaedd. O'r ddau du iddo y mae bryniau prydferth yn cael eu gwrteithio yn dda neu ynte wedi eu gorchuddio â choedwigoedd prydferth. Ond hefyd y mae yno ddefnydd cynhyrfiad i feddwl yr hanesydd crefyddol a dyngarol. Yn Llanymddyfri y preswyliai yr hen Ficer, yn goleuo ei Ganwyll yn nghanol oes dywyll ac annuwiol. Yr ochr arall i'r bryn, tu cefn i Ystradwallter, y trigai yr hen fardd o Bantycelyn, yr hwn y bydd ei enw argoftra parhao "Teyrnas Crist." Ond yr hyn sydd fwyaf i'n pwrpas ni yn bresenol yw, mai yma y preswyliai Rhys Prydderch dros ugeiniau o flyneddau, ac oddiyma yr arllwysodd ffrwd dysgeidiaeth i dros bymtheg cant o ieuenctyd Cymru, heblaw y miloedd fuontyn gwrando arno yn pregethu ar hyd a lled y wlad mewn oes pan oedd tywyllwch yn gorchuddio y cenedloedd, a'r fagddu y bobloedd; pryd nad oedd ond ychydig nifer yn awyddu am wybodaeth, a llai fyth yn alluog i gyfranu addysg. Er nad ydymyn hollol ddi- deimlad tuag at brydferthion natur, nac mewn un modd yn anniolchgar i Awdwr natur am y gofal a gymerodd i gyfaddasu natur er cyfranu dedwyddwch, a moddion gweithrediad i bob math o feddyliau. Eto, rhaid i mi gyfaddef mai cysylltiad Ystradwallter à Rhys Prydderch sydd yn gwneud dyffryn Bran yn ddyddorol i ni; ac wrth ei deithio buom rai troion yn ymyl annghofio fod y fan hòno yn brydferth- ach na rhyw randir arall gan ein hawydd am wybod ychwaneg am wrthrych ein myfyrdod. Da fuasai genym allu peri i rai o hen dderw Parc Glanbran, adrodd ychydig o'i hanes, a'r modd yr oedd pethau yn myned yn mlaen yn y Coleg oedd dan ei ofal yn Abercrychan. Diau y caem ganddynt lawer adduned a dreiglodd dros wefusau yr hen bregethwr wrth gychwyn i'w daith, a Uawer gweddi o fawl a chân diolch a anfonodd 1 fyny at Dad y trugareddau pan yn dychwelyd yn ol trwy allt dewfrig y Parc yn mîn yr hwyr am ei gadw ar daith mor beryglus ag ydoedd taith bregethwrol y dyddiau hyny. Hawdd siarad am bregethu a theithio y dydd- iau hyn, pan mai pob calon yn teimlo yn gynes at bregethwr, a phob tŷ yn agored i'w rocsawi; ond diau pe caem afael yn nydd-lyfr Rhys Prydderch, neu gael gan ryw dderwen yn nyffryn Bran, adrodd pa fodd y bu,canfyddemmainid esmwythyd, 38