Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 254.] MEDI, 1856. [Cyf. XXI. SYLWADAU AR Y SABOTH. GAN Y PARCH O- THOMAS, TALYBONT. Mr. Gol.,—Wele fì mewn cydsyniad â'ch cais, yn anfon i chwi yr ychydig sylw» adau ar y Saboth a dreddodais yn Nghymanfa Capel Iwan. Nid wyf yn honi fod pob syniad a phob brawddeg yn eiddo gwreiddiol i mi; ond ysgrifenais hwy mor agos ag y gallaf eu.cofio fel y traddodais hwy y pryd hwnw, gyda dymuniad iddynt fod o les i'r rhai a'u darllenant. O. Thomas, Talyboni. " O throi dy droed oddiwrth y Saboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd santaidd ; a galw y Saboth yn hyfrydwch ; sanct yr Arglwydd yn ogoneddus; a'i anrhydeddu Ef, heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau."—Esaiaii 58, 13, Ystyr y gair Saboth ydyw gorphwysfa, a golyga yn gyffredin, yr ysbaid hyny o amser a drefnwyd gan Dduw, i ddyn ac anifail i orphwys oddiwrth lafur wythnosol. Gosodir pwys mawr yn wastad yn yr Ysgrythyrau ar iawn gadwraeth o'r Saboth. Mae y Saboth i gael ci gadw yn santaidd, yn mhob oes, a than bobgoruchwyliaeth, yn ol gorchymyn pendant ei Sylfaenydd, " Cofia y dydd Saboth i'w santeiddio ef," &c Y mae cadw yn santaidd y dydd Saboth yn cynwys, peidio a gwneud dim ag a fyddo yn taflu un math o ddirmyg arno. " O throi dy droed oddiwrth y Saboth, &c, hyny yw, troi dy droed oddiwrtho rhag sathru arno, na gwneud un math o ddirmyg o hono, trwy deithiau afreidiol, ymweliadau anmhriodol, nac unrhyw ddifyrwch cnawdol a llygredig. " Heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd," &c ; rhaid gofalu am ewyllys Duw mewn modd neülduol ar ddydd Duw. "Heb wneuthur dy ffyrdd dy hun," &c.; rhaid i ni roddi i fyny ein galwedigaethau ein hunaiu yn hollol. " Na dywedyd dy eiriau dy hun ;" peidio caniatau i ni ti;i hunain ryddid ymadrodd ar y dydd hwn fel ar ddyddiau ereill. Dylem ddewis pethau teilwng o'r. dydd i fod yn destynau ein hymddyddanion, a llefaru am bethau Dwyfol—wrth eistedd yn y tý, a rhodio ar y ffordd; ac yn y cwbl a wnelom, a ddywedom, ac a feddyliom, rhaid i ni osod gwahaniaeth rhwng y ddydd hwn a dyddiau ereill. Heblaw hyny, y mae cadw yn santaidd y dydd Saboth yn cynwys, gwneud pob peth ag sydd yn gosod anrhydedd ar y dydd, ac yn ddangosiad o'n meddyliau uchel am dano. " A galw y Saboth yn hyfrydwch;" nid yn unig ymhyfrydu ynddo, ond ci alw yn hyfrydwch, a phroffesu yrv gyhoeddus yr hyfrydwch a gymerwn ni ynddo— ei alw yn ddydd santaidd yr Arglwydd, ac yn ogoneddus—yn ddydd wedi ei neill- duo oddiwrth wasanaeth cyffredin, a'i gysegru i Dduw, ac at ei wasanaeth ef yn unig. " Sanct yr Arglwydd," ydyw, sef y dydd a santeiddiodd Efe iddo ei hun. Y mae Ef yn cadw meddiant o hono, yn honi hawl iddo, ac yn dàl gafael ynddo drwy yr holl oesoedd; ac er cymaint o ddirmyg a daflwyd arno o bryd i bryd, y mae Duw yn ei arddel ef fel ei eiddo. " Fy nydd santaidd ;" dydd yr Arglwydd ydyw, y dydd a wnaeth yr Arglwydd, a dylem ninau orfoleddu a llawenychu ynddo. Ymdrechwn i wneuthur ychydig o sylwadau ar y Saboth fel sefydliad, eiti dylcd- ■swydd ni tuag ato, a'r pivys mawr o ymddtoyn yn deilwng o hono. iihai sylwadau ar y Saboth fel' sefydliad. Ni fwriadwn wneuthur unihyw olrheiniad manwl o sefydliad y Saboth, a'i newidiad o'r seithfed dydd i'r dydd cyn- taf o'r wythnos, &c, ond dywedwn— Ei fod yn sefydliad dwyfol.—Bod yr Arglwydd wedi neillduo un dydd o bob saith, neu y seithfed ran o amser, i fod yn eiddo iddo ei hun, ac at ei wasanaeth, sydd «mlwg i bawb a ddarlleno yr Ysgrythyrau, S«fydlwyd y Saboth ar y cyntaf i fod 34