Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 253.] AWST, 1856. [Cyf. XXI. Y WEINIDOGAETH YN MYSG YR ANNIBYNWYR YN NGHYMRIL GAN Y PARCH T. REE3, CENDL. Dart.t.enwyd yr Anerchiad canlynol yn Nghynadledd y Gymanfa Bedair Sirol a gynaliwyd yn Nghaerdydd, Mehefin y 25ain a'r 26ain, ÌSÛG, ac ar gais unfrydol y Gynadledd yr ar»reffir ef. T. Rees. Cendl, Gorphcnaf 4ydd, 185G. Anwyl Dadatj a Brodyr yn yr Arglwydd,—Yr oeddwn bellach er ys blwyddyn neu ddwy wedi bwriadu ysgrifenu ychydig sylwadau ar y Weinidogaeth yn mysg yr Annihynwyr yn Nghymru, a chan fod y gorchwyl o draddodi yr An- erchiad blyneddol gerbron y Gymanfa wedi dygwydd i'm rhan I eleni, a bod fy ar.wyl frawd Mr Williams wedi nodi y pwnc hwn fel testyn yr Anerchiad, y mae cyfle teg wedi cael ei roddi i mi i gyflawni fy mwriad. Ni wnelwn ond cymeryd i fyny eich hamser i ddim dyben pe yr awn i ddwyn profion dros, ac ateb gwrthddadleuon yn erbyn, dwyfol osodiad y swydd weinidog- aethol, gan nad yw yn debyg fod neb yn mysg ein henwad ni yn Nghymru yn amheu hyny—o leiaf neb y mae eu duwioldeb, eu doethineb, a'u dylanwad, yn teilyngu sylw ar achlysur o fath hwn. Gan hyny, af rhagof, gan gymeryd yn ganiataol fod y Weinidogaeth Efengylaidd o osodiad dwyfol. Y prif bethau yr amcanaf ymdrin â hwynt yw, rhagoriaethau a diffygion y Wein- idogaeth yn ein mysg. Fod rhagoriaethau mawrion a phwysig yn perthyn i'r Weinidogaeth yn mysg Ymneillduwyr Cymru sydd ffaith ry amlwg i elynion mwy- af rhagfarnllyd crefydd neu Ymneillduaeth i'w gwadu. Ni buasai unrhyw ddos- barth o ddynion anwybodus, gwaeì, a diras, bylh yn llwyddo i adeiladu dros ddwy fil o addoldai i lai na miliwn o boblogaeth, a llenwi y cyfryw addoidai â chynull- eidfaoedd llawn mor wybodus a chrefyddol ag unrhyw gyíundeb o bobl ar wyneb y ddaear. Ond mae fy nhestyn yn gofyni mi gyfyngu fy sylwadau at y Weinidog- aeth yn mysg yr Annibynwyr. Yr wyf'bellach er ys yn agos i bum mlynedd ar hugain wedi cael y fraint o fod yn bregethwr yr efengyl yn mysg yr Annibynwyr, ac wedi cael cymaint o gyfleusdra a neb o'ra hoed i adnabod y gweinidogion, y pregethwyr, a'r eglwysi trwy bob rhan o'r Dywysogaeth. Wrth dafîu adolwg dros ycyfnod hwn, yr wyfyn cael fy arwain yn anocheladwy i ganfod fod yr eglwysi wedi mynedrhagddyntyn enwog yn mhob peth da, ac nad ydynt wedi colli tir mewn dim, a bod cymeriad y Weinidogaeth a'i dylanwad dros bob dosbarth o gym- deithas yn uwch o lawer nag yr oedd tua chwarter canrif yn ol. Dichon nad yw yr henaf o honom yn cofìo yr eglwysi yn fwy heddychol, a llai o rwygiadau yn cymeryd lle ynddynt, nag yn y deng mlynedd diweddaf, pryd y mae eu nifer wedi dyblu mewn llai na deng mlynedd ar hugain, a'u haelioni at gynaliaeth y Wein- idogaeih, a phob rhyw sefydliad crefyddol arall yn bedwar cymaint ag yr oedd, ugain mlynedd yn ol. Nis gallwn lai nag edrych ar hyn fel arwydd er daioni, ac fel prawf diamheuol fod y Weinidogaeth yn ein plith yn ymgodi yn ei chymeriad a'i dylanwad. Ychydig flyneddau yn ol nid oedd un o bob deg o'n heglwysi yn talu nemawr o sylw'i ordinhad yr Arglwydd, fod " i'r rhai sydd yn pregethu yr efengyl fyw wrth yr efengyl." Nid amcanai y rhan fwyaf ohonynt wneud dim yn ychwaneg na chynorthwyo amaethwyr, siopwyr, ysgolfeistri, a gweithwyr i roddi rhan o'u hamser at bregethu, a bugeilio praidd Duw; ond yn awr y maeyr eglwysL yn lled gyffredin wedi dyfod i ystyried fod gwaith pwysig v Weinidogaeth yn g'ofyn 30