Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif.-252.] GORFHENAF, 1856. [Cyf. XXL MOMAN LLWYD, A'I YSGRIFAU CYHOEDDEDIG. GAN Y PARCH W. THOMAS, BWLCHNEWYDD. (Parhad o Rifyn Mehefîn, tudal. 173.) Ond i fyned rhagom yn gyfamserol â'r llyfr hwn, os nid yn gynarach, cyhoeddwyd y " Llythyr i'r Cymry Cariädus a Gwaedd yn Nghymru," Rhif. 2. Nid ydym wedi dygwyddo taro wrth un argraffiad o hwn yn foreach na 1766, nac wedi gweled hanes un cyn 1726. Dyma yr argraffiad hynaf mae yr awdwr cymwynasgar i lên- yddiaeth Gymreig yn ei erthyglau ar Lyfryddiaeth y Cymry yn y Traethodydd wedi nodi. Ond yr ydym yn sicr yn ol ansawdd y llyfr ei fod wedi ei gyfansoddi tua'r un pryd a'r " Tri Aderyn yn Ymddyddan," os nid yn foreach nag ef, a bod yr awdwr wedi amcanu, o leiaf, argraffu y Llythyr i'r Cymry yn ei oes. Terfyna y Llythyr yn y dull a ganlyn :— " Dyma y llythyr cyntaf a ddanfonais i erioed atat mewn print, ac megys mewn aur, ac ni wn i nad hwn yw'r olaf, er bod genyf ragor i'w ddywedyd wrthyt, os rhydd Duw genad a gorchymyn. Yr wyf yn wir yn dy garu pwy bynag wyt, ac yn treulio fy mywyd mewn ewyllys at Dduw drosot, ac yn chwilio am y golwg a'r golau, a'r hyn a gollodd deillion plant Adda, ac yn ei gael yn Nghrist (ji Imanuel^» ac yn ei gynyg i ti. Yr wyf yn byw yn ngobaith Israel, ac yn hyfryd genyf weled gwawr yn tori, a'r haul ar godi ar Ýnys Prydain. Deffro, deffro, deffro, a rhodia fel plentyn y dydd, a derbyn yr anerch yma oddifry trwy law dy gymydog." Rhoddwn un dyfyniad o Gwaedd yn Nghymru fel cymhorth i wybod yramser y cyfansoddwyd hi. Nid oedd y weithred Seneddol y cyfeiriwyd ati eisioes, er lled- aenu yr efengyl yn Nghymru i barhau mewn grym ond tair blynedd. Ac yn y flwyddyn 1653. gosododd O. Cromwell wŷr i wneud ymchwiliad i onestrwydd y rhai a íuont wrth y gorchwyl o droi yr offeiriaid annghymhwys allan o'r Eglwysi, gan fod eu gelynion yn cyhuddo y dirprwywyr o bocedu arian y cyllid eglwysig. Yr oedd troi yr offeiriaid anfoesol allan heb derfynu pan ysgrifenwyd y " Waedd." " Ac er hyny hyd yn ddiweddar y tywyllwch a reolodd, a'r Fferen Ladin a'n twyll- odd, a'r llyí'r gwasanaeth a'n boddlonodd, a'r gobaith o anwybodaeth a'n suodd i gysgu, gyda hyny y degymau a'r trethi a'n llwythodd, a'r rhyfeloedd a'r trwst a'n dotiodd; yr oífeiriaid mudion hefyd a'r pregethwyr chwyddedig a'n hanrheith- iodd. Nid oedd i'w gael ŵr i Dduw yn mysgpedwar cant; y dall a dywysodd y dall, a llawer aethant i'r ffos. Dysgawdwyr o waith dynion oeddynt, ac nid o waith Ys- bryd Duw, am hyny fe drowyd llawer, fel dylluanod, alian o'u swyddau, ac fe droir rhagor eto heibio." Gallem feddwl fod hyna yn ddigon i ddangos i ddau parth y Llyfryn hwn gael eu cyfansoddi mor fore a 1653. Mae yn eithaf naturioi i feddwi fod y corachod anwybodus droid allan yn grwgnach, ac ambell ŵr grymus yn eu plith yn gwneud rhagor, ysgrifenu i ddrwgliwio j dirprwywyr. Dyma ei ddarluniad o'i oes yn hyny debygem, " Ond i ba beth y cyffelybir y genedlaeth hon ; os dywedir y gwir, fe gaiff ei wat- war ; os ysgrifenir ef, fe gaiff ei wyro ; os gweithredir ef, ni chyfaddefir mo hono ; ao er hyny plant y dydd a garant y goleuni, ac ni rusant hwy brofi pob peth, a glynu "WTth yr hyn sydd dda, ac er ainled crugleisiau y#cnawd, a rhesymau hunan, mae rhai a edwyn lais y Bugail o'r tu fewn," 26