Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 251.] MEHEFIN, 1856. [Cyf. XXI. MORGAN LLWYD, A'I YSGEIFAU CYHOEDDEDIG. GAN Y PARCH W. THOMAS, BWLCHNEWYDD. 1. " Dirgehcch i rai i'io ddeall, ac i ereill i'w icatioor ; sef tri aderyn yn ymddyddan, yr Eryr, a'r Golomen, a'r Gigfran. Neu awydd i anerch y Cymry yn y flwyddyn 1653, cyn dyfod 666. Argraffwyd gan J. S. dros Nicholas Thomas a Lewis Thomas, 1714." 32phjg. 2. " Gwaedd yn Nghymru yn wynéb pob Cydwybod. Gan Morgan Llwyd o Wynedd. At yr hyn y rhag-ychioanegwyd ei Lythyr i'r Cymry Cariadus, ynghyd â hanes ei Fyicyd Ysbrydol a ysgrifenwyd ganddo ei hun. Caerfyrddin : Argraffwyd gan J. Ross, yn Heol Awst, 1766." 36 t. d., 18plyg. 3. " Gair o'r Gair, neu Son atn Swn y Lleferydd Anfarwol. Gan Morgan Llwyd, gweinidog yr efengyl yn Wrecsam, yn sir Dinbych. Llundain, 1656." 32plyg. •4. " Yr Ymroddiad, neu Bapuryn a gyfleithwyd ddwywaith i helpu y Cymry unwaith allan o'r hunan a'r drygioni. 1657.'' 5. " Cyfarwyddyd i'r Cymro.'' Llundain, 1657.'' 12 plyg. •Nid oes dim ar a wyddom y mae y byd yn fwy diffygiol o hono na barn a tbuedd i drosglwyddo coffadwriaeth y rhai sydd yn deilwng i'w coffau i'r oesau dilynol. Yn rhyw fodd neu gilydd bydd genym yn fynych ddigon o ddefnyddiau hanes plentyn- dod ambell blentyn o ddyn, pryd na bydd ond ychydig iawn o ddefnyddiau amheus at hanes a/nbell wron talentog ac athrylithgar. Os bydd un am gymeradwyaeth y lluaws gwenieithio yw y cynìlun gorau i gyrhaedd hyny ; ond os ei bwnc fydd gwneud daioni, a chael cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion, dweyd y gwiryn wyneb agored yw y cynllun i gyrhaedd hyn. Canmolir gwenieithwr gan y beius am beidio ei argyhoeddi, na gweled ei fai, tra y sarheir y didwyllam ei ddidwylledd. Gallem feddwl mai un o'r dosbarth olaf oedd Morgan Llwyd ; nad oedd yn treulio fawr amser i lyfnhau ei eiriau a chaboli ei argyhoeddiadau wrth siarad; ond gwyddom na wnai wenieithio yn ei ysgrifau. Gan ei fodmor hoff o drin diffygion ei oes, nid rhyfedd na chafodd goffadwriaeth mwy parchus ar ei ol. Y mae amryw ddynion gwir deilwng wedi gwneud eurhan i adferyd Cymru nadoes fawr ond eu gwaith yn goffadwriaeth o'u henwau. Buasai llai na haner colofn o'r Diwygiwr yn llawn ddigon i gyfleu y cwbl allesid gael ohanesMorgan Llwyd gerbron y darllenydd ond cau allan bob sylw cysylltiedigà'r hyn a ysgrifenodd. Nid yw y cwbl sydd genym i ddweyd am dano ond bychan iawn, ac i raddau yn anmhenderfynol; ac oni buasai yr Äthrylith a ymddengys yn nghyfansoddiad Llyfr y Tri Aderyn, y Lleferydd An- farwol, Gwaedd yn Nghymru, ac ereill, buasai yr hyn sydd, wedi cael claddedigaeth asyn heb na maen na mynor i'w goffau ef na hwythau. Mae yn ei waith elfenau i osod dyddor^eb mewn hanes bywyd manwl iddo pe byddai un i'w gael, a chredwn fod genym lawer hanes bywyd manwl yn yr oes hon heb ddim gwaith i roddi dy- ddordeb ynddynt i'r oesau dyfodol. Mae darllen mân lyfrau athrylithgar Llwydyn sicr o gynyrchu blys yn y darllenwr i wybod rhywbeth am yr Awdwr; ond blysied l fyno ca drafl'erth i gael allan lawer yn ychwaneg na'i fod yn ddyn, ac yn ddyn y gladdedigaeth. Fe wel y darllenydd fod prif elfenau llawer Cofiant yn eisiau yn 22