Skip to main content

Y DIWYGIWfi. Rhif. 249.] EBRILL, 1856. lCyf. XXI. ATHRONIAETH EITHAFION. GAN Y PARCH- JOSlAM* JONES, MAOHYNLLETH. %; ?■___ ' ' Yn gyffredin y mae iaith yn dechreu gyda'r hyn a wybyddir drwy y synwyrau : yr hyn a deimlir, welir, glywir, &c. Moddiad1 o honi, yn ei chysylltiad â'r rhai hyn, yw y ran hono o honi sydd yn gosod allan yr hyn a wybyddir drwy ymwybyddiaeth a myfyrdod pur. GelM dysgwyl mai í'el hyn y byddai oddiwrth resymau blaen- Uaw,2 a phrofi mai fel hyn y mae clrwy rai ól-law.s Yr hyn a dery y synwyrau sydd yn tynu sylw gyntaf: a geiriau i osod hyny allan, gan hyny, yw y cyntaf sydd yn angenrheidiol. Nis gallwn ychwaith ddelweddu gwrthrychau ymwybyddiaeth a myfyrdod pur, ondar bwys yr hyn a synwyrwn. Ac wrth feddwl am wrthrychau ymwybyddiaeth a myfyrdod pur, y mae y geiriau osodant allan yr hyn a synwyrwn, yn gwneud mwy neu lai o wasanaeth. Nis gallwn feddwl am danynt yn hollol an- nibynolareiriau. Y maegeiriau o werth hefyd i'r graddau y dygantargofi niyr hyn fwriedid iddynt osod allan. Heb hyn, nid ydynt werth dim. Naturiolganhynyyw dysgwyl mai materol (synwyrol) yw ystyr blaenaf geiriau; ac mai ystyr ail-raddol yw y mcddyliol (yr ystyr ddeil gysylltiad âg ymwybyddiaeth neu fyfyrdod pur.) Me- ddyliwn mai eithriad yw pob peth sydd heb gyduno â'r rheolhon ; ac y maedweyd hyn yn awgrymu ein bod yn ystyried yr eithriadau yn îlai lluosog na'r cydundebau. Ac amlwg yw ei bod yn fanteisiol, pryd bynag y byddo y rheol yn dal, i wneud ein hunain yn gyfarwydd âg ystyrion blaenaf geiriau, er ein galluogi i ddeall eu def- nyddiad yn eu hystyrion ailraddol yn well. Y mae ystyrion blaenaf geiriau, yn fynych. yn taflu mwy o oleuni ar eu hystyrion ail-raddol nag a allai dim arall wneud: yn neillduol, pan y byddom hefyd yn dal mewn cof yr amgylchiad yn mha un y cafodd yr ystyrblaenaf cifoddiaw4 Ystyr blaenaf y gair eithafion yw terfynau, neu "benau pellaf" rhywbeth. Y aiae yn amlwg, gan hyny, mai mewn cysylltiad â phethau meidrol yn unig y def- nyddir ef, neu y gellir ei ddefnyddio,yn yr ystjr hwn. Meidroldeb yn unig sydd yn alluog o eithafion. Y mae anfeidroldeb uwchlaw iddynt. Yr un peth yw dweyd fod peth yn feidrol a phe dywedid fod eithafion iddo. Y mae y naill yn ihagdybied y llall. Y mae yr hyn sydd yn feidrol, hefyd, a'r hyn sydd âg eithafion iddynt yn gynifer. Y mae yr hyn sydd yn alluog o eithafion obliegid hyny yn rhanadwy ac yn alluog o fan canol. Oblegid amddifadrwydd o eithafion, nid oesfan canol i'r hyn sydd âg anfeidroldeb yn perthyn iddo. Y mae tragwyddoldeb, angder,6 a Duw, gan eu bod yn anfeidro), mor amddifad o eithafion a'u gilydd; ac yn ol yr hyn a ddywedwyd, mor amddifad o ganol-fan a'u gilydd. Y mae y ffaith fod tragwyddoldeb, angder, aDuw, ynanalluogoeithafion,yn eu gwneudyn annichonolifeddyliausyddâgeithaí- ion neu derfynau iddynt gael syniadau cryno, perffaith am danynt. Gellir cael me- ddyliau am yffaith o'u bodolaeth ; ond nid am y rnodd. Cyn deall moddeu bodolaeth, íhaid amgyfired anfeidroldeb: ond ni raid hyny cyn deall yn berffaith yffaith. Ac y mae deall anfeidroldeb, neu yn fwy cyson, ei amgyffred, yn fwy nas gall meddwl meidrol ei wneud. Mae yn rhaid i bob peth a amgyffredir gan feddwl meidrol, neu mewn geiriau ereill, a gynwysir ynddo, fod o reidrwydd yn feidrol ei hun. Nid digon ychwaith ydyw ei fod yn feidrol, ond rhaid iddo fod yn llai na'r meidrol sydd yn meddwl. Rhaid yw fod yr hyn a gynwysir yn llai na'r hyn sydd yn cynwys. Pe na bai felly byddai rhan heb ei cnynwys wedi i'r hyn gynwysa gynwys a allo. Y mae hyn yr un mor wir am feddwl ag ydyw am fater. Y ma« 1 Modification, s dpriori, * à posteriori. * Modify. « Space,