Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 248.] MAWRTH, 1856. [Cyf. XXI. CENAD CRIST A 'PHREGETHWR Y BORL. G*N Y PARCH. W. W I L L IA M S, HIRWAUN- Y PETH cyntaf wnaf fydd egluro fy nhestyn. Pwy olygir wrth genad Crist? Un wedi credu yn Nghrist—un yn byw drosto—un wedi ei ddonio ganddo—un wedi ei anfon ganddo—un yn dwyn cenadwri oddiwrtho—un yn llefaru yn enw ac aw- durdod Crist—un cyfrifol i Grist am ei weinidogaeth—un pryderus am lwyddiant ei genadwri. PREGETHWR Y BOBL. Wrth hwn golygwn, nid y pregethwr gorau gan y bobl, (a hyny yn ddieithriad,) nac ychwaith y pregethwr i'r bobl, ond wrth bregethwr y bobl yr ydym am i chwi ddeall, un wedi cymeryd y swydd o bregethu yr efengyl i ddynion er enill iddo ei hun eu ífafr a'u cymeradwyaeth. Boddloni dynion yw ei amcan yn yr oll a wna. Mae efe yn meddwl am y ffordd orau i gyfaddasu yr efengyl at archwaeth y bobl. Difyna y rhanau hyny o'r Ysgnthyrau fyddo fwyaf cydweddol yn ol ei dyb ef â theimlad y bobl. Phoddi difyrwch a phleser i'r bobl ar y pryd yw ei brif bwnc, a'i amcan penaf wrth biegethu iddynt. J)rachefn, mae ganddo olwg neillduol ar foddio cywreinrwydd ci wrandawyr, eu synu à rhyw enwau estronol, â geiriau newyddion, ac â brawddogau ansathredig. Jíi wledd felusaf yw clywed rhai yn dweyd mai efe gafodd yr hwyl fwyaf ar y bobl. Dybeniou personol a hunanol sydcì ganddo yn yr oll a wna. A elür ddim dweyd am hwn yn ngeiriau Crist, "Y mae efe yn derbyn ei wobr ?" Wedi deonglu ein testyn, a*i osod gerbron mewn cynifer o ranau, mae yn gorphwys arnom bellach i fanylu ac ymhelaethu er cyr- haedd ein hamcan. CENAD CRIST. Mae efe wedi creduyn Nghrist. Gall ddweyd, " Credais, am hyny y llefarais." Nid oes neb yn genad iawn i Grist heb iddo yn gyntaf gredu ynddo. Camsynied galarus yw, y gwna manteision colegawl a dysgeidiaeth ddynol y tro yn lle ffydd yn Nghrist. Ffydd yw y cymwysder mwyaf hanfodol ac angenrheidiol i Genad Crist. Mae i gredu yn ei berson, a'i briodolaethau; rhaid iddo gredu yn ngwirionedd a geirwiredd ci genadwri. Nis gall dim fyned o galon Crist i galon pechadur heb offerynoliaeth ffydd fel ffordd i'w drosglwyddo. Trwy ffydd y derbyniodd yr apos- tolion " o gyflawnder Crist, a-gras am ras." A thrwy 'ffydd yr oedd Paul yn " gallu pob petb, trwy Grist, yr hwn oedd yn ei nerthu." Mae pethau yn Nghrist nas gellir eu cynrychioli heb ft'ydd ynddo, ac y mae pethau yn yr efengyl fel cenadwri nas gellir eu portreiadu, heb fod yn berchen ffydd. Myner ffydd, ynte, cyn dech- reu traethu am dano, a chyn myned allan yn ei enw gyda'r genadwri. Mae cenad Crist yn byw drosto ar y ddaear. Ei orchwyl ef yw dwyn Crist ger- bron dynion. Mae i bersonoli Cristo ran ei gymeriad rhinweddol yn ei gymeriad ei hun gerbron dynion fel ei genad a'i gynrychiolydd. Y mae eí'e ar ei orau i wneud dynwarediad teg o Grist gerbnm y byd. Mae meddwl a thafod, calon a bywyd, bwriadau a gweithredoedd pob Ccnad i Grist i fod dan ei ddylanwad ef. Y mae i arddangos Crist yn ei ymarweddiad, yn gystal ag yn y genadwri. Mae ei fywyd i gyd-lefaru â'i weinidogaeth. Mae Cenad Crist wedi ei ddonio ganddo. Y mae wedi derbyn dawn ymadrodd ; mae ganddo barabl a llais i drosglwyddo ei feddwl; doethineb, a phwyll, a syn- wyr i drin ei gyd-ddynion fel ei frodyr a'i chwiorydd, ac nid fel caeth-feistr yn "10