Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 247.] CHWEFROR, 1856. [Cyf. XXI. YR EGLWYS GYMREIG. GAN Y PARCH. J. LL JONESj TYDDEWl. Ŷn y blyneddau diweddaf mae yr Eglwys Gymreig wedi dyfod i gryn sylw» edrychir arni agos yn berffeithrwydd yr Eglwysi gan ddosbarth lluosog. Parchir hi nid fel gwrthwynebydd yr Eglwys Babaidd, ond fel mam yr Eglwys Sefydledig bresenol, oddiwrth ba un y derbyniodd ei ffurf-lywodraeth, ei defodau, a graddau ei gweinidogion, a thrwy ba un y gallant honi olyniaeth ddidor, nid drwy Rufain i Pedr, ond i ryw un o'r apostolion ereill, os nad yn sicr i Paul. Goddefer ini chwilio i'r cyfryw honiadau, ac os yn wir, eu derbyn â chalon lawen ; ond os yn wahanol, barned y darllenydd ddyben y cyfryw. Ni oddef terfynau i ni ond bras nodi y prif- ffeithiau. Dyfodiad yr efengyl i Brydain.—Os gofyn neb pwy oedd sylfaenwyr cyntaf yr Eglwys yn ein hynys, yr ateb yw, " Nid Awstin a'r Eglwys Sacsonaidd yn y seithfed ganrif; nid yr Eglwys Gymreig dan Archesgob Caerlleon yn y bumed ganrif; nid y Cristionogion yn amser Alban Ferthyr yn y drydedd ganrif; na Lles ap Coel a'i gynulleidfaoedd crefyddol yn yr eilfed, ychwaith. Nid un o'r rhai hyn ; ond yr oêdd yn ddiamheuol Eglwys Gymreig yn bbdoli yn flaenorol, ac wedi ènill cryn ddylanwad. (Poste's Brit. Researches, p. 385.) Y farn gyffredin yw, fod Cristion- ogaeth yn yr ynystua'r flwyddyn O. C. 60, ac y mae y geiriau a ddefnyddir gan Gildaá (De Exeid. Brit. 37,) yn cyfiawnbau y golygiad. Cyfeiria at ddyfodiad yr efengyl i'r wlad yn fuan ar ol gwrthryfel Buddug ; a gellir casglu wrth berthynas yr ynj's â Rhufain, a'r fasnach a ddygid yn mlaen ynddi, nad yw yr uchod mewn un modd yn rhy fore. Gan bwy y dygwyd Cristionogaeth i'rynys.—Ar hyn y mae mwy nag un golyg- iad. Rhai o honỳ*nt yn hollol ddisail, a'r oll o honynt ddim rhagor na thebygol- rwydd. Hoffem pe byddai un o honynt yn ffaith hanesyddol; ond gomeddir hyny. Maent oll yn enwau teilwng o'r gwaith, ac fel y canlyn :—Joseph o Arimathea, Simon Zelotes, Aristobulus, un o'r deg a thriugain, &c, Pedr, Gwladys a Pudens, a Paul. Gadawn yn ddisylw yr oll ond y ddau olaf, gyda nodi fod y tystiolaethau drostynt yn rhy ddiweddar, yn rhy anghredadwy ynddynt eu hunain, a'r rhan luos- ocaf o honynt yn ffrwyth dychymyg mynachod y canol-oesoedd. Gwladys a Pudens,—Nodir fod Paul yn 2 Tim. 4, 21, yn cyflwyno anerchiad Pudens, Linus, a Gwladys i Timothy. Oddiwrth rai o ganiadau Martial y bardd (Lib. iv. Epig. 13, xi. Ep. 54,) ymddengys fod Aulus Pudens, Rufeinwr, wedi priodi Cymraes o'r enw Gwladys; eu mab oedd Linus (Han. Cref. p. 59,) mae yn naturiol i farnu maiyr un personau y cyfeirir atynt gan Paul a Martial, a chan fod Gwladys yn Gymraes, diau ei bod yn teimlo dros ei gwlad, ac iddi fod yn gyfrwng, os nid i gael Paul ei hun, i gael rhyw genadwr apostolaidd i bregethu yma (Stilling Or. Brit. p. 44, Ed. 1685.) Ond y mae amrywiol bethau yn anffafrioli'r golygiad uchod. 1. Pan ysgrifenodd yr Apostol yr oedd Gwladys a Pudens yn ddigon adnabyddua yn mhlith y Cristionogion i anerch Timothy, ac os yn fab iddynt, nis gallai Linus fod ond ieuanc. Gellir ystyried y rhieni tua 35 oed. Ysgrifenwyd yr Epistol yn O. C. 63 (Davidson's Intro.ì; ond ni ysgrifenwyd caniadau Martial cyn 81, a rhai o honynt ddim cyn 96; onu gesyd y bardd allan fod ybriodaswcdicymeryd lle cyn hyny, ac arwydda ddymuniad y byddent fyw i fod yn hen, pan oedd yn rhaid