Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 245.] RHAGFYR, 1855. [Cyf. XX. ADDYSGIAETH GREFYDDOL FOREOL, QAN Y PARCH. R- LEWIS, TY'NYCOED. NlD oes un berthynas agosoch yn bodoli yn mhlith dynion, nag sydd yn hanfodi rhwng rhieni a'u plant. Nid oes un gair dymunolaeh mewn iaith, i bob gradd a __f-.nr__aa__:__~>_t—li-----:,u:i„í-----t___u„j„*.._t----•?.-----;_*--i.i_j ___ _ i a gafodd Beirdd Cymru erioed. Nid oes dim geiriau yn agosacb i flaen pob tafocí, ac eto yn fwy o ffrwyth pob calon, na'r geiriau cysegredig hyn ; maent yn orlawn o bob gwir athroniaeth ynddynt eu hunain; ac yn gyflawn o bob synwyr. Heb y gair cartref, gwag ac erchyll a fyddai pob man. Ý mae y trefniant teuluaidd yn bwysig yn nghadwynbodolaeth, ac yn hanfodol i ddedwyddwch cymdeithas; ni byddai y byd hebddo ond cryglwyth o annhrefn ac annibendod. Y mae y trefniant teuluaidd o drefniad Duw. Ar ol i Dduw orphen adaily greadigaeth, fel palas ar- dderchog, crogi yr haul fel lamp oleuwych, i oleuo y dydd, a'r lloer a'i llewyrchiadau arianedd, i oleuo y nos—taenu y llawr-leni heirdd ac amryliw ar hyd loriau y greadigaeth—gosod yr afonydd grisialedd i redeg i sisial mawl eu Crewr, ac i wenu yn sirioi ar ddyn yn eu rhedfa yn mlaen, a gwneud dyn yn arglwydd y greadigaeth, ac offeiriad y byd. Yr oedd golwg hardd iawn ar y byd y pryd hwnw, Yr oedd yr wybr yn hardd ymwrido yn mhelydr cyntaf haul y borau—y gwlitb fel dagrau try- loywon yn coroni penau y glaswellt—yr awelon yn llwythog o berarogl, a hwnw yn. dyrchafu fel teyrnged y ddaear i Awdwr ei phrydferthwch. Yr oedd anian yn ym- loni yn y goleuni—pob coedwig a glŷn yn adseinio peroriaeth eu cantorion—yr anifeiliaid yn neidio o'u gorwedd-fanau, yn amlder eu nerth, nid i ysglyfaethu, oble- gid diniwed ydoedd pob peth—yr oedd yr oen a'rblaiddyn cyd-chwareu, y golomen a'r cudyll yn golchi eu hadenydd yn yr un ffrwd. Ond er godidoced yr olygfa, yr oedd yma ddiffyg, nes i Dduw ffurfio y byd i fod yn deuluoedd. Y mae y trefniant teuluaidd yn wasanaethgar er cadw rhinwedd a chrefydd yn y byd, a gwasanaetha i lwyddiant a ehysur tymorol y byd. Y mae rhwymedigaethau pwysig yn orphwys- edig ar bob aelod yn y trefniant teuluaidd ; a chanlyniadau pwysig yn ymddibynu ar yr esgeulusiad, neu y cyflawniad o honynt. Ond y mae yn y Bibl gyfarwyddiad- au priodol ac addas, pa fodd i bob aelod yn y teulu i lenwi y cylch pwysig hwnw ag y mae Rhagluniaeth fawr y nefoedd wedi ei osod i droi ynddo. Mae Solomon wedi bod yn hynod o fanwl yn ei awgrymiadau yn yr Hen Destament, a Phaul yu ei awgrymiadau yn y Testament Newydd. Y mae yn rhaid i ni fyned a'r gwirion- edd hwn, fel pob gwirionedd arall, i deml y dadguddiad Dwyfol, ac edfych arno yn ngolau y Secinah sydd yno. Dywed Paul gyda golwg ar ddyledswydd rhieni tuag atry rhai y mae Rhagluniaeth wedi eu hymddiried odditan eu gofal: " Ond maeth- ^wch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Prif bwnc yr oes hon yẅ addysg. Mae y teimlad cyhoeddus o'i bhúd. Ÿ mae y doeth a'r hael yn cymeryd dyddordeb ynddo. Y mae hyd yn nod y Senedd a'r Llywodraeth yn y blynedd- oedd diweddaf wedi talu cryn sylw iddo; y maent wedi cymeryd o dan eu sylw, y gwahanol ffyrdd, a'r amrywiol gynlluniau, trwy ba rai y dichon i fendithioö addysg i gael eu hestyn yn ëangach, a'u mwynhau yn helaethach gan y byd. Y mae yn amlwg y dylai y pwnc, gael ei le priodol yn meddwl a theimlad yr eglwys. Y mae addysg yn naturiol yn rhanu ei hun i dri dosbarth: naturiaethol, meddyliol, a «hjrefydüol. Gan mai crefydd yw y peth pwyâoaf, y mae yn amlwg mai M ádylai 46