Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y MWYGIWH. Rhif. 342.] M££ÍI, 1855. fyo*{ ™IcÍf7x5l BEDYDD DWFR A BEDYDDYR YSBRYD GLAN. GAN Y PARCH. W. EVANS, NEUADDLWYD. Yn y rhifyn am Gorphenaf dywedasom fod bedydd dwfr yn arwydd gweledig o fedydd yr Ysbryd Glan ; yn bresenol ymdrechwn ddangos eu cyfatebolrwydd. Yn gyntaf mae y ddaufedydd yn perthyn yn briodol i oruchwyliaeth y Testa- ment Neim/dd. Mae bedydd dwfr gwedi ei osod yn ddeddf sefydlog dan yr efengyl; felìy bedydd yr Ysbryd Glan sydd fendith sefydlog ac arosol yr un oruchwyliaeth. Mae perthynas neillduol yr Ysbryd Glan â'r oruchwyliaeth bresenol yn rhoddi iddi yr enw, " Gweinidogaeth yr Ysbryd." Pob bendith ysbrydol, pob gras, pob dawn a roddir oddiuchod, ac a dderbynir ar y ddaear gan ddynion yn eu calonau, ydynt gyn- wysedig yu rhoddiada thyicalltiad yr Ysbryd Glân, ac yn y bedyddio â'r Ysbryd Glân. Gelwir hwynt yn " ffrwythau yr Ysbryd." Oddiwrth berthynas pob peth â'r Ysbryd Glan y tardd eu hysbrydolrwydd. Oddiwrth yr un achos y mae y gair " ysbrydol" ya cael ei arfer mor fynych yn y Testament Newydd. Cawn ynddo ef bob peth bron yn ysbrydol. Mae pob peth hefyd yn newydd : " Wele gwnaeth pob peth yn new- ydd." Awdwr gwcithredol y newydd-deb hwn yw yr Ysbryd Glan, ac enw ar hyny ydyw bedydd. Cyn fod bedydd rhaid bod bedyddiwr. Mae bedyddio yn swydd oddiwith Dduw, ac yn gysegredig iddo. Felly y bedyddiwr. Mae yn perthyn i fedydd yr Ysbryd Glan ei fedyddiwr neillduoi a gosodedig—yr Arglwydd Iesu Grist—Efe ydyw y bedyddiwr yn y bedydd hwn: " Efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glan ac â thân." Nid oes hanes iddo ef yn borsonol fedyddio â dwfr; er ipae iddo Ef yn bersonol y perthynai ordeinio dynion i'r gorchwyl hwn, ac iddo Ef hefyd y perthynai sefydlu yr ordinhad. Ond y mae Efe yn fwy na hyn yn y bed- ydd ysbrydol—ymaeyn Weinyddwr ynddo. Mae y swydd yn ddigon urddasol iddô, ac yntau i'r swydd. Yr oedd yn rhy isel i'r swydd hon tra ar y ddaear, yr -t>edd yn'.rhaid iddo esgyn goruwch yr holl nefoedd, i " anfon," i "roddi," a ■*'thywallt" yr Ysbryd Glan. Ei waith priodol ef yn ei sefyllfa gyfryngol a dyrch- afetìig ydyw hwn. Urddasolrwydd y swyddau eyfryngol, ynghyd â'r awdurdod freninol yddi esgyniad "Wedi eistedd ar ddeheulaw Duw, a derbyn y deyrnas. Yr oedd hefyd yn gyflawn- ilä ei addewid i'w gyfeillion ar y ddaear, a thrwy hyny yn cadarnhau ei ffydd yn- ddo. Dyma pryd y dechreuodd goruchwyliaeth yr Ysbryd Glan. Tywalltiad mawr ddydd y Pentécost ydoedd y bedydd cyntaf. " Yr oedd hwnw yn gychwyniad nid allanol ac arwyddocaol, ond tumewnol a gwirioneddol—diwygiad mawr yn y byd. Yr amser hwnw y rhoddwyd enw a chymeriadYr oruchwyliaeth oedd newydd gael ei sefydlu. Goruchwyliaeth yr Ysbryd, a goruchwyliaeth " y bedyddio â'r Ysbryd,'' ydyw. Yr oedd pob peth o hyny allan i fod yn yr Ysbryd, a thrwy yr Mae lesu Grist yn Ben uwchlaw pob peth i'r eglwys; am hyny, mae ei Ysbryd Ef yr hwn y mae yn roddi ac yn dywallt, gwedi dyfod yn eiddo priodol y Saint, yr ua ■ 38