Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif.242.] MEDI, 1855. [Cyf. XX. RHAGORIAETHAU A DIFFYGION YR ENWAD ANNIBYNOL. GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, HIRWAUN. Mae tcgwch yn galw arnaf grybwyll fy mod yn ystyried y gellit cysylltu rhinwedd- au a rhagoriaethau yr Annibynwyr àg enwadau crefyddol ereill, megys y Bedydd- wyr, Cymdeithas y Òyfeillion, &c. Ond gan mai â'r Annibynwyr yn unig oedd a wnelwn I yn y mater, gwneir fy esgusodi am beidio enwi neb ond yr Annibynwyr. Cawn edrych ar yr Enwad yn ei berthynas â rhyddid gwladol a chrefyddoL— Mae adferiad rhyddid ar ol ei golli wedi costio yn ddrud i lawer. Mae meddianau, cysuron, iechyd, a bywyd tyrfa fawrwedi eu cymeryd ymaith yn unig am eu bodyn gofyn rhyddid. Cafodd Annibynwyr pob oes waethaf gormeswyr eglwysig, amy bydd- ent yn datgan fod pob cynulleidfa grefyddolyn eglwys gyfiawn, a'i bod wedi derbyn awdurdod oddiwrth Grist i ddewis ei swyddogion, a phenderfynu ei hachosion o'i mewn ei hun. Nid oes neb ŵedi llefaru yn fwy croyw, na dadlu yn fwy egniol dros ryddid na'r Annibynwyr; na neb, oddigerth y Cyfeillion, wedi dyoddef mwy yn eu personau a'u hamgylchiadau o'i herwydd. Gellir dweyd yn hyf, fod ein Henwad wedi bod yn gadwraeth a maethfa rhyddid hyd heddyw; a phe na buasai dyben uwch iddo nag enill rhyddid, a chael tegwch rhwng dyn a dyn, mae wedi ateb dyben pwysig ; ond dywedaf beth mwy am dano, sef fod miloedd o bechaduriaid truenus wedi cael eu dwyn i afael gias, a'u codi i ogoniant y nefoedd drwy ei offerynoliaeth. Cymhwysdcr yr Enwad ifeithrin ysbryd cyhoedd, a chynyrchu talent.—Dysgir ganddo fod gan bob dyn yr hawl i farnu drosto ei hun, ac mai i Dduw yn unig mae efe yn gyfrifol am ei farn. Fel arall mae gyda llawer o gyrff Cristionogol o bwys a dylanwad. Llyffethir y farn bersonolgan gredöau a defodau dynol, ac yn y diwedd difeddianir hwy o'r hawl-fraintyn hollol. Cawn enghraifft o hyn yn y Gwyddelod Pabyddol. Mae eu barn a'u rhyddid crefyddol hwy gan yr offeiriad; ond yn y gwrthwyneb y mae gyda y Cynuìleidfaolwyr. Mae y ffurf Annibynol yn hynod wasanaethgar i weithio allan y meddwl i'r byd, a dywed wrtho fel ambell i dad wrth yn oì mewn cyfrifoldeb i'r un o honynt. Gaíl rifo llawer o ddysgedigion, athron- wyr, beirdd, a rhai godidog mewn ymadrodd—rhai sydd wedi gwasanaethu y byd ac achos crefydd hyd fyth. Mae yn ddyledus arnaf eich hadgofio fod yr An- nibynwyr wedi cymeryd safie bwysig yn y Senedd yn yr etholiad diweddaf. Trwy hyn cawsom ddynion i lefaru yn erbyn drygau y Llywodraeth, sef yn erbyn cyfreith- iau caeth, gormesol, ac annghyfiawn. Gallant wrthsefyll a dadlu yn erbyn ea hychwanegu, a ffurfio mesurau i ddirymu y rhai sydd yn bodoli. Yr ŵyf yn medd- wl fod gan ein Henwad ran bwysig, os nad y pwysicaf, yn y diwygiadau a effeith- iwyd yn yr Eglwys a'r Wladwriaeth, yn neillduol yn ysbaid yr haner canrif diwedd- • af. Maent yn cael siarad allan eu meddyliau dros gyfiawnder a thegwch heb ofni esgymundod y Pab, awdurdod yr Esgob, dedryd y gynadledd, na cherydd y gyman- fa. Mae ganddynt ryddid i ddyrchafu eu llais yn erbyn pob trais ac annuwioldeb I mewn gwlad ac eglwys. I Erfod pob Eglwys yn Annibynol, eto gellir dweydfod cymaint o undéb barn yn yr Enwad ag a geir yn unrhyw Enwad a berthyn i'r Eglwys Gristionogol.—-Mae prif wiíioneddau y Bibl yn cael eu ddeall, eu credu, a'u deonglu agos yr un fath 34