Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWft. Rhif. 238.] MAI, 1855. [Cyf. XX. AWYDDFRYD Y CREADUR AM DDADGUDDIAD MEIBIOH DUW. RHUF. 8, 18—28. GAN Y PARCH. RHYS GWESYN JONES- Fel ag y mae y pumed gosodiad yn Euclid yn Pom asìnorum y rhifyddegwr, a chanfyddiad (perception) yn ciuxphilosophorum athronwyr ; felly gellir ystyried y darn yrûa o Lythyr Paul fel nexata questio y Duwinydd. Ymddibynarhwydârediad y Geometrician ar gyflawn ddealldwriaeth ar flbrdd i brofi. Gan fod y ddwy ongl ar waelod triongl cyfocbrog yr un faint, bydd yr onglau yr ochr arall i linell y gwaelod yr un faint hefyd, os estynir yr ochrau cyfesur. Ni ddysgwyliwn ond ych- ydig fudd oddiwrth yr athronydd hwnw sydd â'i olygiadau am ganfyddiad yn ang- hywir neu ddiffygioì, oblegid bydd yn sicr o fod yn un ochrog ac annghywir trwy ei holl gyfundraeth. Ac os bydd rhyw un am i ni ei dderbyn fel esboniwr, rhaid iddo brofì ei hawl i'n sylw trwy roddi esboniad golau a chyson ar Rhuf. 8 bennod. Er y gall daro yn hynod ar glustambell un, yr ydym yn credu mai y ffordd i ddeall y Testament Newydd yn iawn yw dechreu yn y Llythyr at y Rhufeiniaid, ac mae yr allwedd i'r Llythyr hwnw i'w chael yn y 7 a'r 8 bennod. Credwn ar yr un pryd, mai y Llythyr at y Rhufeiniaid yw yr anhawddaf i'w ddeall, ar yr olwg gyntaf, o holl Epistolau Paul, ac mai y pen. dan sylw ydynt yr anhawddaf yn yr holl Lythyr. Ond cyfyd yr anhawsdra nid oddiar fod y pwnc yn fwy anhawdd, end oddiar fod cadwyn yr ymresymiad yn hwy ac yn gadarnach, nes y mae yn gofyn cryn ymdrech meddwl i'wddilyn o'r gosodiad at y casgliad. Ond y mae ganddo osodiad: ac y toae yn ymresymu yn nerthol ac eglur oddiwrtho at y casgliad. Prif golled yr esbonwyr a welsom ni ar y Rhufeiniaid yw eu bod naill ai yn camsynied gosodiad yr Apostol, neu ynte yn tori cadwyn ei ymresymiad, gan daeru ei fod wedi tynu eî gasgliad pan nad yw ond haner y ffordd ato. Hwyrach nad oes un rhan o ysgrif- eniadau Paul lle mae hyn yn fwy amlwg na fan yma. Nid oes un lle ag y mae esbonwyr yn amrywio yn eu barnau yn fwy nag wrth geisio cael allan yr hyn a olygai Paul wrth y gair ttnamç (creadur). Mae bron gynifer barn am ystyr briodol y gair ag sydd o wahanol bersonau wedi cynyg esbonio y Rhufeiniaid. Rhoddwn ŷma rai o'r barnau:—1. Angelion. 2. Eneidiau y Planedau (Origen). 3. Adda ac Efa. 4. Eneidiau credinwyr ar wahan oddiwrth eu cyrff. 5. Cyrff y credinwyr arwahan oddiwrth eu heneidiau. ô.Cristionogion yn gyffredinol (Lyra, Socinu^ Limborch, Schaethgen, a Barnes). 7, Cristionogion, yn neillduol Iuddewon neu Genedloedd (Le Clerc, Nasselt Schleusner). 8. Pobl Israel. 9. Yr holl genedl- oedd. 10. Y greadigaelh ddireswm (Chrysostom, Theodoret, Theophylact, ^cumenius, Jerome, Ambrose, Luther Koppe, Doddridge, Flatt, Tholuck, Reiche, Meyer, De Wette, Fairbairn, " Traethodydd" 1851, cyf. 7.) 11. Dynolryw yn gyffredinol (Augustine, Lightfoot, Locke, Turretin, Macknight, Semler, Neander, Stuart, Rosenmuller, Amman, Usteri, a Keil). 12. Y greadigaeth ddireswm yn gystal a dynolryw yn gyffredinol (Kalner, Srabbe, Olshausen). Wele yma ddeu- ddeg o olygiadau, ac amryw o honynt wedi eu hamddiffyn gan rai o feddylwyr gorau y byd. Dÿwed Stuart fod y puinp cyntaf mor ddisail, fel nad ydynt deilwng 18