Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. Rhif. 237.] EBRILL, 1855. [Çyf. XX. T RHYFEL. QAN Y PARCH- WILLIAIS4 WILLIAMS, HIRWAUN- Dyma bwnc y dydd, dylaî gael ei gymeryd i fyný gan yr argraff-wasg yn fwy manwl a chyson. Dylit edrych y rhyfel yn ei wreiddiau a'i gangenau, yn ei achos a'i effeithiau, a'i ddàl yn gyhoedd gerbron y cenedjoedd, nes cael barn a dedryd gy- hoeddus arni. Dechreuwyd rhyfel gan gythreuliaid uffern ar diriogaeth dawel a dedwydd y wynfa nefol. Alltudiwyd hwy oddiyno i uffern, eu prif gartref-le pre- senol, am eu gwrthryfeL Er ein galar disgynodd y gethern ryfelgar i diriogaeth y ddaear (lle llonydd a heddychlon hyd hwnw), a chwythasant eu drygnaws gwen- wynig i'n rhieni cyntaf, a thòrodd allan yn ddychrynllyd yn Cain, cynfab Adda: lladdodd ei frawd diniwed, a hyny yn ddiachos. Mae * yr ysbryd Cainaidd ac uffërnol hẃn wedi llîwio'r tir a'r môr yn goch â gwaed dynion, gynifer o weithiau fel nas gwn eu rhifedi. Yr wyf yn meddwl fod y dydd ar wawrio bryd na oddefer ac na chaniateir i ryfel i gyflawni ei greulonderau; yr ydym wedi cael digon ar ei weithrediadau. Yr ydym yn gweddio ar Dduw i'w derfynu. A chan mai un o weithredoedd y diafol ydyw, credwn y gwna Mab Duw ei ddatod cyn bo hir, ac y bydd i'r gwreiddyn chwerwedd hwn i gael ei dynu ymaith, ac y bydd i'r ddaear gael llonydd gan yr ysbryd drwg yma. Pe gwnawn draethu oes rhyfel parwn i ÿallt eich darllenwyr i sefyll yn syth; oblegid wrth wneud hyny byddwn yn eu Ätrwain írhwng pentyrau o gyrff meirw, ac yn sŵn gruddfanau clwyfedigion heb rffédi, yn tynu yr artadliad diweddaî mewn ing a phoen annysgrifiadwy, heb gy- mydog i dosti^io wrthynt, heb dad na mam, brawd na chwaer, na phriod i estyn iddynt ddifer-yii o ddwfr i wlychu eu genau sychlyd. Ond rhoddaf fi y gorchwyl o ddysgrifio a dariunio beth yw rhyfel, ac adrodd beth a wnaeth, iryw un medrusach am y waith hon,bëth bynag. Er hyny mae arnafawydd dweyd dau neu dri pheth am dano; sef pwy sydd yn ei ddechréü, a phwy sydd yn ei ddybenu—pwy syddyn yn ei weithio, a phwy sydd i'w rwystro—pwy sydd yn rhoi bodolaeth iddo, a phwy syddi'w ddifodi. Dynion yw y pwy cyntaf, a dynion yw y pwy ohd; ond mai dyn- ion satan sydd yn gwneud y rhyfel, a dynion Duw sydd i ddybenu rhyfel. Mae pob rhyfel rhwng teyrnasoedd, o ran ei achos, yn anghyfreithlon, yn aanuwiol, a phechadurus. Os dywedir fod y blaid amddiffynol yn ddifai, rhaid fod y blaid ŷmosodol yn gamweddus ac annghyfiawn i'r eithaf. Dywedai un wrthyf fod yn rhaîd wrth rhyfel yn awr ac eilwaith, am fod y bobl yn myned yn rhyluosog, a meibion y pendefigion heb swyddau, a bod y rhyfel yn Ueihau y bobl, ac yn creu swyddau newydd, âc yn gwneud swyddau gweigion, a bod amgylchiadau yn gwella yn y canlyniad. Ond gan fod rhan helaeth o'r byd heb breswylwyr, nid oes dim galwad Jladd un i roi bywioliaeth i'r llall, ac nid oes haWl gan ddynion ar fywyd ©u gib/dd. Mae y dy wediad ar bob çyfrif yn iaith ynfyd a drygionus iawn ; a phrin y credaf fod y-fath syniad, hyd yn nód gan wneuthurwyr rhyfel eu hunain, er cynddrwg ydynt. Ymddengys i fi mai mewn dau fan mae achos y rhyfel, sef yn y llysoedd; brenin- ólamilwrol. Mae maintioli byddinoedd a Uyngesoedd Ewrop yn achosi rhyfel. "Wrth feddẃlfod genym gynifer o filoedd o fiiwyr sefydlog yn perthyn i bob téyrnas, ac yn amser heddwíh i gyd yn segur, ac heb waith i wneud, a chanoedd o honynt yn byw yn fras ar gefn y gwledydd y perthynant iddynt, a bod miloedd. o * honynt yn ddynìpn i$el eu ch^aeüii ac anifeilâidd eu moesau, mae yn syn nabae'