Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif.234.] IONAWR, 1855. [Cyf. XX. RHAGGYFEILLACHU A PHRIODI. GAN Y PARCH, E- LEWIS, BRYNBERIAN- Mae priodi yn beth pwysig iawn yn ei berthynas â'r byd hwn ac à'r hwn a ddaw. Y mae lluaws â'u gwynebau ar y sefyllfa, yn eithaf anystyriol o'r hyn sydd o'u blaen. Wrth y cyfryw y dywedaf, " goddefwch air y cyngor" chwi ieuenctyd hawddgar, blodau yr oes hon, colofnion yr oes nesaf, a gobeithiwn eglwys DduW. Mae y testyn yr wyf yn myned i siarad â chwi arno yn un pwysig iawn, a digon anhawdd i siarad yn iawn. Hawdd fyddai creu ynoch grechwen lawen ac ysgafn ; ond dymunwn ailu siarad â chwi nes creu ynoch arafwch duwiol, a goruchel barch i Dduw a'i eiriau yn eich priodi a'ch rhag-gyfeillachu. Yr wyf yn cy- meryd yn ganiataol eich bod yn cydnabod dwyfolawdurdod yr Ysgrythyrau, ac yn eu derbyn fel unig reol eich cred a'ch ymarferiad. Dymunaf eich sylw At yr hyn sydd yn unol â gair Duw mewn rhag-gyfeillach a phriodi. Y mat yn unol â gair Duw ifab a merch ymuno â'u gilydd mewn arnodpriodasol. Mae priodas yn ordinhad Ddwyfol, o drefniad Duw ei hun, er cysur i ddyn, hyd yn nod cyn iddo bechu. Y mae yn eithaf amlwg nad yw priodas yn ei gosodiad a'i threfniad dechreuol, i fod ond rhwng dau berson, sef un mab ac un ferch. A phaham un " I geisio hâd duwiol." Fe oddefodd Duw aml-wreigiaèth; ond o'r dechreuad nid felly yr oedd, Mat. 19, 4—9. Er bod priodas yn ordinhad ddwyfol, nid ydyw yn ordinhad greíyddol. Pe buasai yn ordinhad grefyddol, nis gallasai neb fyw mewn gweddwdod heb fod yn euog o bechu yn erbyn Duw. Golyga y Pabyddion fod priodas yn ordinhad grefyddol, a rhesant hi fel un o'u saith sacrament, ac et« yn gwahardd i'w hoffeiriaid briodi. Dyma annghysondeb, onidê, Ordinhad wladol yw priodas, ae yn ordinhad Ddwyfol, yr un fath ac ordinhadau gwladol ereill, megys PJiuf. 13, 1, 2, ordeinio breninoedd a llywodraethwyr fwladol. Nid yw y ddefod allanol o briodas wedi bod, nac a bwys i fod yn un 'urf. Nid yw'r Bibl yn dysgu ffurf. Ond dymunaf i chwí gylwi mai nid peth dirgel rhwng dau yw priodas ; ond y mae ymroddiad y ddau i'w gilydd i gael ei wneuthur yn gyhoedd yn ngwydd tystion digonol, yn ol trefn gwlad, cyn y byddo §air Duw yn ei gydnabod yn briodas. Mae tyb ofnadwy gyfeiliornus gan rai ynion, mai dim ond cydsyniad dau berson, sef mab a merch, yw priodas. Nid yw'r gair santaidd yn cydnabod dim yn briodas ond ymroddiad mab a merch i'w gilydd yn ngwydd tystion digonol. Amod bywyd yw priodas. Er bod y pleidiau o ddewisiad yn amodi i'w gilydd, nis gallant er dewis hyny ddiddymu yr amod. Mae i barhau hyd angau un o'r partion, ac ar ol marw un, y mae y llall at ei ryddid i briodi drachefn, ond "yn unig yn yr Arglwydd." Fod i hyny gael eifwriadu a'i gyjlawnu yn ofn Duw, ac er ei ogoniant.—Mae y bwriadu cyntaf, y rhag-gyfeillachu angenrheidiol, a'r amodi cyhoedd i gael ei wneuthuf*yn ofn yr Arglwydd, ac er ei glod. Nid oes dim a berthyn i fywyd dyn yn fwy pwysig na phriodi, ac eto nid oes dim a berthyn i ddyn yn cael ei gylchynu gan fwy o ysgafnder, anystyriaeth, cellwair, a phechod. Ychydig sydd yn ceisio " license o lys y nef," sef gofyn caniatad a bendith Duw. " Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef." Priodi heb ofyn cenad a chyfarwyddyd Duw sydd ryfyg. * Pa ufrbynag, gan hyny, ai bwyta, ai yfed, ai beth bynag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw." Duw sydd i fod yn mlaen yn y cwbl; pan yn ineddwl am briodi, pan yn ceisio cyfeillach merch, neu dderbyn cyfeillach mab, Duw sydd i fod yn flaenaf. Pan yn priodi, ac yn ymroddi i biiodas, ei ogoniant ef sydd • 'Ú ' 2