Skip to main content

Y DÍWYGIWR. ]Ci Rhif. 23-2.] ~~TACmfËÜD, 1854. [Cyf. ^f GWAITH YB YSBRYD. GAN Y PARCH. EVAN JONES, MYDDFAI. Mae Duw yn mhob man ac yn mliob peth; Duw yn mhob peth, ac nîd pob peth yn Dduw. Mae Duw mor agos at, ac mor bell oddiwrth, bob gronyn o'r cread a'i gilydd; ni cheuir ef allan o un ran o ofod, ac ni chynwysir ef chwaith mcwn goí'od annherfynol; canys nid oes gysylltiad rhwng ei natur â gofod, ac ni pher- thyn iddo eangaeth na ffurf. Mae yn wir ei bod yn ar.hawdd, ì'e, efalìai yn an- mhosibl, i ddyn yn y byd hwn dan y deddfau presenol, i ffurfio meddylddrych eywir am ysbryd ar wahan oddiwrth ofod, ac heb roddi iddo fíurf: felly mae han- fod Duw yn guddiedig i ni, ac nis gallwn ddeall moddau gweithrediadau ei Ysbryd: "Nisgellir wrth chwilio gael gafael ar Dduw, na chael yr Hollalluog allan at berffeithrwydd;" eto nid Duw tybiantol yw ein Duw ni, ond Duw byw a phcrsonol. Er nas gallwn weled Duw o ran ei hanfod, eto canfyddwn olion ei law ac effeithiau dylanwad ei Ysbryd. Mae amryw ddylanwadau yn cael eu priodoli i Ysbryd y Duw hwn; megys ei ddylanwad arddefnydd yn newidiacî ei ffurf, achos- iad ysgogiad, &c.: " A'r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd." Ei ddy- lanwad ar y bywyd organaidd, llysiau ac anifeiliaid. Pan ollyngych dy ysbryd y creir hwynt, ac yr adnewyddu wyneb y ddaear;" ei ddylanwad ar f'eddwl neu enaid dyn ; am yr hwn y sonia yr Ysgrythyr mewn engreifftiau rhy luosog eu henwi. Mae "ysbryd mewn dyn." Mae yn perthyn i'r ysbryd hwn ymwybydd- iaeth. Yr ydym yn ymwybodol o ddcalldwriaeth, gallu i wybod, dymuniad am wybod, a'n bod yn g.wybod. Yr ydym wcdi ein gwneud i hoffì a mwynhau y prydferth, i amgyffred, cymeradwyo, a dewis yr hyn sydd dda yn ein golwg. Yr ydym yn ymwybodol o weithrecîu yn rhydd ac ewyllysgar, o ddymuniadau i wcithredu, a scrch neu gasineb at wahanol wrthrychau fel yr ymddangosant i ni ar y pryd, yn ol ein safon i farnu. Mae gan ddyn o ganlyniad natur ysbrydol; felly nid oes dim yn wrthuni yn yr athrawiaeth o fod gan Ysbryd Duw ddylanwad ar ysbryd dyn. Os cyfaddfir fod gan yr Ysbryd hwn, mewn unrhyw ddull, ddy- lanwad ar ddefnydd, felly nid oes dim yn anmhosibl i fod ganddo ddylanwad ar feddwl; canys mae mwy o gydrhywaeth rhwng ysbryd ac ysbryd na rhwng ysbryd a defnydd. 'Gwyddom fod ysbryd y'n dylanwadu ar fater, a gwyddom hefyd fod y naill ysbryd yn dylanwadu ar y llall. Gwadu dylanwad Ysbryd Duw ar feddwl dyn yw gwadu un o athrawiaethau amlycaf a gogoneddusaf Cristionogaeth. Coll- ai Cristionogaeth drwy hyn ei neillduolrwydd, pa un a elwir yn aml, " Gweinidog- aeth yr \sbryd." Wrth edrych i mewn i ni ein hunain, a darllen ein cymeriad yn ngair Duw, gwelwn fod ymraniad yn ein henaid, a'n bod wedi colli ein sefyìlfa wreiddioh Y mae ein bod mewn anghydfod â ni ein hunain, yn lled grybwyíl ein bod yn elyn- ion i Dduw. Mae dyn yn ymryson â l;uw, ac âg ef ei hun. Mae drwy gyfan- soddiad gwreiddiol ei natur yn cymeradwyo y da ac yn ffìeiddio y drwg, ond trwy lygrecld ei natur yn casâu y da ac yn caru y drwg. Credwn yn llygredd llwyr dynoliaeth, eto barnwn nad yw dyn er mor ddrwg, wedi colli urddas ei natur yn llwyr. Mae yrra weddillion ardderchawgrwydd cyntefig; mae fel palas diudfawr, 41