Skip to main content

Y DIWYGIWR. ÎÍÍÍfT230.] MEDI, 1854, ~~[CÍf. %tC YMHONWYR 1 DDONIAU GWYRTHIOL. GAN Y PARCH. JOHN REE3, CANAAN. Tybta ìlawer o ddynion na fu y fath gyfeiliornwyr yn y byd erioed a " Saint y Dyddiau Diweddaf." Modd bynag, wrth ddarllen hanesiaeth,ni aganfyddwn fod ymhonwyr i ddoniau gwyrthiol wedi gwneud eu hymddangosiad, yn awr ac eilwaith mewn rhyw ddull neu gilydd, yn y naill fan a'r llall o'r byd, er adeg darfyddiad y cyf- rywddoniau; a bod y naillymhonwr yn dwyn cymaint o debygolrwydd i'w flaenafiaid, fel y gellir dweyd am ei ymhoniadau nad ydynt ddim amgen na'r hen ymhoniadau wedi eu codi o adfeilion yr oesau, a'u trwsio i daro chwaeth lygredig pechaduriaid, ac amgylchiadau neillduol oes yr ymhonwr. Nid yr un peth a dery chwaeth y bed- waredd ganrif ar bymtheg ag eiddo y ddegfed ganrif. Y mae hon yn oes fydol, orawyddus i gyfoethogi, a chyrhaedd cyflawnder mwyniant trwy gyfrwng trysorau darfodedig y ddaear. Er cyfarfod â'r syched anniwall hwn, y mae'r ysbryd wedi darbodi y "'Llyn Halen," a'r " Sì'on" gyfoethog ar ei glàn, lle y mae paradwys o ddedwyddwch yn ddarparedig ar gyfer y gwir gredinwyr. Erdangos mai nid peth newydd ar y ddaear yw ffug-ymhoniadau i ddoniau goruwch-naturiol, awn rhagom i roddi hanes rhai o'r prif ymhonwyr a'u ymhon- iadau, gan ddechreu gyda'r Thrygiaid neu'r Cataphrygiaid, y rhäi a wnaethant eu hymddangosiad yn nheyrnasiad Marcus Aurelius, tua'r fiwyddyn 171. Gelwir hwynt wrth yr enw uchod oddiwrth Montanus, eu sylfaenydd, yr hwn oedd yn enedigol o bentref Adaba, yn nhalaeth Mysa, ar gyffiniau Phrygia ; ac hefyd am mai yn y rhan ddeheuol o Phrygia y dechreuodd gyhoeddi ei olygiadau. Dy- wedir i Montanus gofieidio Cristionogaeth gydag amcan i ymgodi i'w swyddi. Ýr oedd yn ddyn o dymer brudd-glwyfus, ac o ddychymyg gor-dwymn ; a maentum- iodd, nid yn unig fod doniau gwyrthiol yr oes apostolaidd yn parhau, ond aeth Dior bell mewn rhyfyg. fel ag i haeru mai efe oedd y Dyddanydd addawedig gan cin Ceidwad. Modd bynag, fel na byddom yn euog o'i gyhuddo o ddweyd mai efe oedd yr Ysbryd Glân yn bersonol, ymddengys mai ei feddwl ydoedd ei fod ef wedi ei awdurdodi i sefydlu goruchwyliaeth ragorach nag eiddo Crist a'i apostol- wn; o ganlyniad, ei fod ef wedi ei fendithio à mwy o ddoniau gwyrthiol na hwy. ir oedd yn ddifai yn ei fuchedd, ac yn ysgrythyrol yn ei olygiadau, oddigerth yn y pethau uchod. Ymunodd Pricilla a Maximilla âg ef yn f'uan, dwy foneddiges o a cüondemniwyd y sect fel hereticiaid, a danfonwyd gwybodaeth o'r penderfyniad nwn i'r eglwysi gorllewinol. Proffesent eu bod yn cael eu meddianu gan yr Ys- bryd Glân, a syrthient i ber-lewygon, pryd y collent bob hunan-lywodraeth. Yn ^ysg proffwydoliaethau ereill rhagfyncgasant am gwymp yr ymherodracth llufein- |g> dyíbdiad Anghrist, a dechreuad buan y mil-flwyrldiant. Trwy y ddysgyblaeth oura gedwid i fyny, llwyddasant yn fawr nid yn unigyn Asia ac Affrica, ond hefyd ff i-'°^' ac °^^eSÌd yr un peth, tcbygol, cofleidiodd Tcrtullian eu hegwyddorion cyöredinol yn 199, er y meddylir nad ôedd mor ymlunedig wrthynt yn y rhan olaf 1 oes. Parhausant'hyd y chweched ganrif. Pwy bynag a ddarllcno hanes y 33