Skip to main content

Y DIWYGIWIi. \ŵ Rhif. 226.] MAI, 1854. [ Cyf. XX. MOESOLDEB. GAN Y PARCH. DAVID JONES, BETHLEHEM. IAGO, 2, 10. Mae moesoldeb yn air anmhenderfynol ac amrywiol yn ei gymhwysiadau. Gan un arferir ef i ddynodi bywyd rhydd oddiwrth bechodau gwarthus, a chan arall defnyddir ef i osod allan ddyledswyddau dyn tuag ato ei hun a'i gyd-ddyn. Fel gwyddor dyledswydd, y mae yn arwain i faes eang, ac at bethau dyrus ac anhawdd eu penderfynu; megys, beth yw natur a safon moesoldeb ? A oes gwahaniaeth hanfodol rhwng drwg a da ? Yn mha beth y mae teilyngdod ac annheilyngdod gweithred yn gynwysedig ? Pa rai ydynt iawn gymellion gweithredoedd ? À yw ein cariad at ercill yn egwyddor wahanol i hunan-gariad ? A yw y natur ddynol wedi ei chynysgaethu â synwyr moesol i ganfod egwyddorion moesol, fel ag y mae y llygaid wedi eu cyfaddasu i weled gwrthrychau defnyddiol ? O ba le y mae ein drychfeddyliau am rwymedigaeth yn tarddu ? &c. Y mae y gofyniadau hyn, a lluaws o'u cyffelyb, wedi derbyn gwahanol atebion, ac y mae'r atebion gan mwyaf wedi eu rhoddi yn annibynol ar dystiolaeth y Bibi, fel pe na byddai yn gwneud sylw o foesoldeb. Gwir nad yw ein dyledswyddau tuag atom ein hunain ac ereill, wedi eu ífurfio yn gyfundrefn ar ei phen ei hun ynddo, ac yn cael ei galw yn foesoldeb ; ond y mae yn llawn mor wir eu bod wedi eu hau mewn gorchymyrnion cynwysfawr drwyddo oll. Llefara yn awdurdodol a phenderfynol ar brif eg- wyddorion moesoldeb fel ar bcthau ercill, hebymostwngac ymgynghori âneb. Y mae ei ysbryd annibynol, a'i ddull awdurdodol wedi tramgwyddo doethion y byd hwn, fel na fynant ei arddel yn arweinydd iddynt. Eto, hawdd gweled fodllawer 0 honynt wedi bod yn ei gyfeillach liw nos, yn cymeryd benthyg rhai o'i wirionedd- öu, a'u cyhoeddi i'r byd, yn eu henwau eu hunain. Gan fod y Bibl yn llyfr ysbrydoledig, ac yn traethu yn gywir ac yn helaeth ar foesoldeb, y mae yn bwysig i ni wybod beth yw nodwedd y foesoldeb a ddysgir ynddo. Y mae moesoldeb y Bibl yn tjn A ciiREFYDD.—Mae elfen estronol wedi dyfod i'r byd yn fore, tuedd pa un yw gwahanu pethau sydd i fod yn anwahan- adwy, a chysylltu y pethau sydd i fod yn wahanedig—ysgâr ypethau a gysylltodd Duw, a'u hieuo yn anghymarus—dyrchafu un ddyledswydd ar draul esgeuluso dyledswydd arall—parchu dyn ar dir dirmygu Duw—codi moesoldeb ar gefn diystyru crefydd, a bostio mewn crefydd ar draul dibriso moesoldeb. Mae crefydd heb foesoldeb, a moesoldeb heb grefydd, yn bethau dyeithr i'r'Bibh Gs bydd dyn heb un, bydd heb y llall hefyd, " Canys bwy bynag agadw y gyfrailh 1 gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o'r cwbl." Y mae y geiriau hyn yn cynwys swm pob dyledswydd foesoí a chrefyddol, ac yn dysgu fod troseddu un ddyledswydd yn ein gwneud yn ddiífygiol yn ein perthynas à phob dyledswydd arall. OblegidJbd unoliacth sylfaen ac awdurdod yn perihyn iddynt.—Mae undeb a chydgordiad yn holl waìth Duw. Canfyddir egwyddor unol yn ei lywodraeth naturiol—mae un gronyn yn rhwym wrth ronyn arall—un byd wrth fyd arall, ac un cysawd wrth gysawd arall. Y mae rhyw ddylanwad anweledig yn dal pob f?,ronyn» pobbyd, aphobcysawd, wrth eu gilydd ; a phe tòrid y berthynasrhwng un ^ *tt i ' en°e\tniai ayn ddyryswch a dinystr yn yr holl greadigaeth. Y mae undeb cynelyb wedi ei osdd gan Dduw yn y byd moesol. " Un gosodwr cyfraith sydd," ... 18 "