Skip to main content

Y DIWYGIWR. RaìF. 225.] EBRILL, 1854. LCyf. XX. GWEDDL GAN Y PARCH. R. EDWARDS, LLANYMDDYFRI. " Wrth weddi (medd Dr. Price), ygolygwyf ymgyfeîriad sobr a difrifoly meddwl at Dduw fel ffynonell ein bod a'n dedwyddwcli, ac fel Crëwr a Llywydd y byd." Tybiwyf fod yn lled anhawdd gwella ar y darnodiad uchod, ond ei fod yn cynwye mewn ychydig eiriau y cwbl a feddylir yn yr Ysgrythyrau santaidd wrth weddi. Gweddio ydyw yr ymarferiad mwyaf goruchel a dyrchaí'edig ag y mae cynneddfau dynol yn alluog o hono. Y fraint benaf a roddwyd i ddyn ydyw gallu dal cym- deithas â Duw. Mewn myfyrdod y mae y meddwl ar waith yn nghylch Duw, ei briodoliaethau a'i weithredoedd; ond mewn gweddi y mae yn myned at Dduw. Wrth astudio rhyfeddodau natur yr ydym yn ymwneud yn unig âg effeithiau, ond mewn gweddi y mae y meddwl yn cyfeirio yn uniongyrchol at yr achos; ac y mae yn amlwg fod perffeithrwydd cyflwyr a digrëedig yn fwy ardderchog fel gwrth- rych edmygedd a pharch, nas gall unrhyw ragoroldeb dibynol a chrëedig fod. Gosodir gweddi allan yn y Bibl mewn dau olygiad pwysig: weithiau gorchymynir i ni weddio fel y gallom ga«l nerth i gyflawnipob dyledswydd arall; brydiau ereill gorchymynir i ni wneud pob peth yn y fath fodd, fel y gallom weddio—dylem lywodraethu ein hysbryd ein hunain, a dwyn yn mlaen' ein holl amgylchiadau bydol ac eglwysig yn y fath fodd fel na "rwyttrer ein gweddiau." Nid oes annghysondeb yn y dull hwn o osod allan weddi: yn hytrach dengys berffeithrwydd a gogoniant y cymeriad Cristionogol, a'r angenrheidrwydd o wisgo yr holl arfogaeth yn Uawn. Y mae llawenydd crefyddol yn cael ei gynyrchu gan weithrediad ffydd, gobaith, cariad, a grasusau Cristionogol ereill; ac y mae gweith- rediad y rhai hyn drachefn yn cael ei gyfnerthu trwy fod yr enaid yn cael ei lanw â gorfoledd yr Iachawdwriaeth; fel y gellir dweyd gyda'r un priodoldeb, y dylem yn gydwybodol gyflawni pob dyledswydd, fel y gallom fwynhau llawenydd cref- ydd, ac y dylem ymgyrhaedd at fwynhau líawcnydd crefydd, fel y gallom wneud y cyflawniad o bob dyledswydd yn fwy dymunol, effeithiol, a chymeradwy. Fel hyn y mae rhinwedd yn ymaflyd mewn rliinwedd, a dyledswydd yn cyfnerthu dyled- swydd arall, nes gwneud cymeriad Cristionogol cyflawn i ymddangos nid yn unig yn ogoneddus, ond hefyd, i fesur helaeth, yn rhwydd, mewn cyferbyniad i'r cymer- iad hanerog ac anmherffaith hwnw a wisgir gan lawer a fynent eu hystyried eu hunain yn Gristionogion. Naill ai ceisiant gyflawni dyledswyddau crefydd heb geisio nerth Dwyfol mewn gweddi; neu ynte ceisiant weddio yn allanol, tra y mae eu hymddygiad cyffredinol y fath, fel ag i wneud eu gweddi yn anefl'eithiol. Gosod yr un gwirionedd mewn goleunî ychydig yn wahanol, a fyddai gwneud y rhaniad canlynol. Y mae amcan gweddi yn ddeublyg,— Y inaen foddion i toellá'r cymeriad. Y maën gyfrwng derbyniad fafrau a bendithion. Y mae y ddau ddyben hyn yn hynod o gysylltiedig—y mae y cyntaf, i fesur helaeth, yn cael ei gyrhaedd trwyyrolaf; ond eto nid yn hollol, gellir edrych arnynt naill ai yn gysylltiedig neu ar wahan. Bydd yn fantais i mi yn awr i gy- meryd golwg ar bob un ar ei ben ei hun. Y mae y meddwl wrth gymdeithasu â Duw mewn gweddi yn cael ei ardderchogi a'i santeiddio. Y mae dylanwad pob «ymdeithas yn aros ar feddwl dyn, oddieithr fodrhyw ddylanwad gwrthwynebol yn «i attal. Os cymdeithasa dyn â bôdau isel, Uygi-edig, a dirmygedig, dyn o feddwi 14