Skip to main content

Y DIWYGIWJR, GOGONIANT CRISTIONOGAETH. GAN Y PARCH. R. LEWIS, TYNYCOED. Cristionogaetii yw y gyfundraetb o wirioneddau a gynwysa ddadguddíad o drefn er adfer byd truenus at Dduw, a'r drcfn bòno wedi ei chyfaddasu at sefyllfa y byd gan anfeidrol ddaioni a doetbineb. Ar ol i Dduw orphen adail y greadigaeth fel palas ardderchog—crogi yr haul fel lamp oleuwych i oleuo y dydd, a'r lloer a'i llewyrchiadau arianaidd i olcuo y nos—taenu y ilawrleni heirdd ac amryliw arhyd ei loriou, a gosod natur mewn llawn bywyd a sirioldeb; gwnaeth ddyn ar ei lun a'i ddelw ei hun, gosododd ef yn ei deulu ei hun, ac i fod er ei wasanaeth ei hun ; gosod- odd bob petb o'll o dan ei draed ef—dyn i fod yn arglwydd ar y cyfan,atheyrnwialen ei awdurdodar"bysg y môr,ehediaidy nefoedd,ymlusgiaid y ddaear.abwystfiìody maes." "Ond dyn mewn anrhydedd nid arosodd." Ymwerthodd i ddiafol a phechod ; cod- odd ymrafael rhyngddo a'r goron, a thrwy hynyymae y cyfreithiau wedieu tòri, y fasnach wedi ei dyrysu, a'r amddiffyn i raddau wedi ci golli. Beth yw y dyryswch a welir mewn teuíuoedd ? y mab yn erbyn y tad, y ferch yn erbyn y fam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr. Dim ond profìon o annhrefn moesol y byd. Mae yr holl gyfansoddiad dynol wedi ei hollol ddyrysu. Gwelodd Duw gyflwr y byd, a thos- turiodd wrtbo. Pan y mae mynyddoedd tanllyd Etna a Vesuvius, wedi eu rhwygo, ni roddoddDuw un cylch o'u cwmpas. Pan mae y dderwen gadarn, ag y mae ei gwraidd wedi ymwthio i agenau y graig, a'i brig wedi bod yn siarad am oesoedd â'r awel dcnau, yn cael ei rhwygo gan y rhyferthwy, ni welwyd y Creaw- dwr erioed yn myncd i'r drafferth o'i hadgyweirio, oblegid mae y pethau hyn i gael eu troi hcibio fel hen wisg annefnyddiol: " Megys gwisg y plygu di hwynt, a hwy a newidir.'' Ond pan acth dyn i lawr, tynodd gymaint o sylw Duw nes iddo drefnu llwybr effeithiol i'w gael i'w le. Mae y drefn hon mor berffaith, fel nas gellir ci diwygio, ac mor ogoncddus fel nad oes dim yn ychwaneg i'w ddymuno. Buasai yn dda genym allu sylwi ar lawer o bethau perthynol i Gristionogaeth; ond cyfyngwn ein sylwadau at y gogoniant perthynol iddi. Mae yn ogoneddus yn y profion a gynwysa ynddi ci hun, oi gwirioncdd a'i dwyfoldeb.—Ỳmddibyna daioni cyfranogol yr efengyl i ni ar sefydlogrwydd ein barn o berthynas i'w gwirioncdd. Y mae ein teimladau a'n hymddygiadau tnag at bob gwrthrychau, yn ol fel y byddo ein tybiadau a'n syniadau am y gwrthrych- au hyny. Y mae Cristionogaeth yn teithio yn ei nerth ei hun, yn ym- wisgo yn ei hanrhydedd ei hun, ac yn sefyll uwchlaw gelynion a chyfeill- ion. Ý mae sciliau uwchlaw dcunaw canrif bellach, yn dangos fod Cristion- ogaeth o Dduw. Dyma ei phrif gymeriad—dyma ci phrif ragoroldcb ar drefn- iadau dynol—dyma sydd yn ci chadw yn fyw yn y byd. Y mae anffyddiaeth wedi gollwng ei saethau gwenwynig ati—y mae brodyr gau wedi arfer eu cynllwynion er ei dinystrio—y mae uffcrn wedi codi mil o ystormydd yn ei herbyn; ond y mae Cristionogaeth yn ymddangos yn gadarnach heddyw nag erioed. Mae teyrnasoedd wedi siglo, ac ynysocdd wecîi cael eu claddu yn yr eigionau ; ond y mae Cristionogaeth yn sefyll y ddigryn. Gallwn gadarnhau gwirionedd a Dwy- foldeb Cristionogacth wrth sylwi ar y cysondeb sydd rhyngddi â'r gyfundraeth greadigol, ddefnyddiol, a meddyliol. Òs yw y gyfundraeth grcadigol a Christ- ionogaeth yn ffrwyth yr un Fynwes anfeidrol, y mae yn naturiol i ni ddys- gwyl eu bod yn dwyn yr un nodwcddau. Canfyddwn wrth fyfyrio ar natur, mai " mawr yw gweithredocdd yr Arglwydd." Wrth ystyricd y pethau a wnaeth yn y gyfundraeth greadigol, fe "'welir yn amlwg ci dragwyddol allu cf a'i Dduwdod." 10