Skip to main content

Y DIWYGIWR, vc- Rhif. 223.] ^aÊÎWEFRORrT854r^ {CyyT^T YSBRYD GORUWCH-DDYNOL Y BIBL. GAN Y PAROH. B. WILLIAM8, GWERNLLWYN- Mae awdwyr dynol bob amser yn argraffu eu cymeriadau ar eu Gweithiau. Nia gall llyfr dynol ymddangos heb ddwyn profion eglur mai dyn ydyw ei awdwr. Mae yr ysbryd gorau, a'r egwyddorion puraf fu yn arwain ysgrifell awdwr erioed, yn caeleu nodweddu gan wendid a ffaeleddau y natur ddynol. Pan yn darllen cy- nyrchion meddyliau mawrion fel yr eiddo Richard Baxter, Jonathan Edwards, Robert Hall, ac ereill cyffelyb, teimlwn ein bod yn cymdeithasu â meddyliau fydd- ant yn addurniadau oesol i'w cenedl; eto, yn eu Gweithiau canfyddir yr anmher- ffeithrwydd hwnw sydd yn anwahanol gysylltiedig â dynion da. Nid yn unig gwelir meusydd prydferth o gyfoeth gwerthfawr yn ymagor o'u blaen, ond deallir fod y cwbl yn gylchynedig gan awyr wedi ei phuro gan ddidwylledd, pob drych- feddwl wedi ei addurno gan onestrwydd cydwybodol, a'r cwbl yn mynwesu profion diymwad eu bod yn ffrwythau addfed oddiar bren y bywyd. Ar y llaw arall, wrth ddarllen Gweithiau dynion fel Yoltaire, Hume, a Byron, y teimlad cyntaf a gyfoda yn y fynwes yw rhyfeddiad (admiration) o dalentau uchel, ond yn ddarostyngedig i ddybenion gwael ac isel; yn Ue eu bedyddio âg ysbryd addfwyn a'u haddurno âg ymchwiliad manol a gonest am y gwirionedd, gwelir oerfelgarŵch, hunanoldeb, a balchder, yn argraffedig ar bob brawddeg a gynwysant. Mae'r dyddordeb a'r pleser a deimlir wrth eu darllen a'u myfyrio, yn cyfodi oddiar eu cyfatebrwydd i wendid a llygredd dynoliaeth. Pe gallai dyn feddianu ei burdeb a'i santeiddrwydd cyntefig, ni fyddai llyfrau gwenwynig fel yma i'r galon a'r teimlad, amgen dail surion i'r tafod. Mae pob gorchest o eiddo'r meddvvl dynol, os bydd ysbryd an- mhur, teimlad anonest, ac egwyddor gyfeiliornus dan ei gwraidd, yn gwrthdaro yn erbyn santeiddrwydd Duw, yn llygru awyrgylch deddf foesol, yn rhwystro effeith- ioldeb dysgeidiaeth y Bibl, ac yn cynyg gwanhau dylanwad efengyl ar galon pech- adur ; os felly, mae'r orchest yn un o'r pechodau mwyaf gwarthus a fedr satan ddysgu dyn i gyflawnu. Beth bynag fydd ucheledd talentau yr awdwr, mawredd gwirion- eddol yr orchest, campusrwydd addurniadol y cyfansoddiad; os na fydd y cwbl yn dangos fod gan yr awdwr gariad nerthol at Dduw a'i achos, mewn amser byr fe syrthia'r llyfr i ebargofrwydd, cyll ei afael ar feddyliau dynion, ac ni lwydda i enill cymeradwyaeth anffaeledig Duw. Beth bynag yw'r ysbryd a'r egwyddorion sydd yn llywodraethu meddyliau dyn- ion wrth gyfansoddi llyfrau ar wahanol bynciau, amlwg yw, fod yr ysbryd add- fwyn a thangnefeddus, yr ysbryd cariadlawn a diragrith, sydd yn wasgaredig trwy wirioneddau y Bibl, yn gyfryw a olrhainia ei enedigaeth a'i ddechreuad, i ryw le heblaw i galon lygredig pechadur. Nid yw y ffaith fod y Bibl fel cyfan- gorff, yn rhy fawreddog i fod yn gynyrch dyfais ddynol, yn fwy o wirionedd na'r ffaith ei fod yn cynwys ysbryd rhy nefolaidd, honiadau rhy gariadlawn, ac addew- idion rhy werthfawr iddo erioed ddeilliaw o'galon pechadur. Mae yn ysbryd sydd yn naturiol ddyeithr i dueddiadau'r natur ddynol,—yn ysbryd pc celai chwareuteg i ddylanwadu, a etfeithiai gyfnewidiad a daioni yn mhob mynwes,—yn ysbryd, pe d, a blanai ddaear yn drioneddau athrawiáethol y Bibl yn addurnedig "gan ysbryd fel hyn, yn brawf eglur i bob Cristion diwylliedig, mai rhyw Fôd meddianol ar ddoethineb anfeidrol, cymeriad