Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 219.] HYDREF, 1853. [Cyf. XVIII. ^ÜYFRANÜ. GAN Y PARCH. SIMON EVANS, PENYGROES. "Ond gwneuthur daioni a chyfranu, nao annghofiwch ; canys à chyfryw ehyrth y rhyngir bodd Duw."—Heb. Bu amser pan ofynai Duw aberthau gwaedlyd. Yr amser hwnw a aeth heibio, Crist, ein Pasg ni, a aberthwyd drosom, a thrwyddo ef yr ydym i offrymu aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i'w enw ef. Yr ydym hefyd i gyfranu o'n meddianau—meddianau Duw, y rhai a ymddir- ieda i'n gofal—yr hyn, yn iaith ein testyn, sydd aberth i Dduw. Daw yr amser pan bydd golud a masnach y byd yn gyflwynedig i Arglwydd yr holl ddaear, eiddo yr hwn yw yr arian, yr aur, a'r anifeiliaid ar fil o fynyddocdd: Esay 23, 1S; 60,9; Salm 68,30. Nid ydym eiddom ein hunain; ac wrth broffesu Crist, rhoddwn ein hunain, a'r eiddom oll, i Dduw. Y mae cyfranu yn ddyledswydd a gynwysir yn yr addewid gyhoedd a wnaethom pan dderbyniwyd ni yn aelodau eglwysig. Nid yr addewid a grea y ddyledswydd. Bodolai o'r blaen; cydna- byddwyd hi y pryd hwnw. Nid ydym wrth gyfranu yn gwneud llesâd i Dduw, nac yn teilyngu cymeradwyaeth i ni tin hunain, ond yn hytrach yn gwneud rhan goruçhwylwyr ffyddlon a daionus ar amryw ras Duw : 1 Pedr 4, 10. Ond er addaw yn gyhoedd, y mae hunanoldeb, tuedd i grafangu, a gofal annghymedrol am ybyd presenol, yn gwneud rhoddi a chyfranu yn anhawdd i lawer (1 Tim. 6, 18), ac yn peri i rai lwyr annghofio cyfranu. Am byny, dylai yr athraw crefyddol adgofio dysgyblion Crist o'r ddyledswydd hon, fel y gwna yr Apostol yma adgofio yr Hebreaid. Cydnabyddir fod cyfranu yn ddyledswydd; am hyny, ymofynwn— At ba bethau y dylid cyfranu? Y tylaiod, yn ììeillduol y saint tylodion.—"Y mae genych y tylodion gyda chwi bob amser" (Ioan 12,*8 ; Rhuf. 12, 13; Gal. 2, 9, 10; Eph. 4, 28).* Cylch ein haelioni sydd i fod yn gyffredinol " i bawb," ond yn neillduol " i'r rhai sydd o deulu y ffydd." Y mae pawb yn ddeiliaid y ddyledswydd hon. Gorchymynir gweithio er mwyn cael petn i gyfranu i'r hwn fyddo mewn angen. Gfas Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia, a barodd i heîaethrwydd eu llawenydd hwy a'u dwfn dylodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy at y saint tylodion y rhai oedd yn Judea. Nid yw yr hyn a delir fel treth tylodi i'w resu yn mhlith ein cyfran- iadau. Arwydd o annghrefydd calon—o absenoldeb cariad at Dduw ydyw, fod un yn edrych ar frawd fyddo yn sefyll mewn angen (1 Ioan 3, 17), ac yn cau ei dosturi oddiwrtho, heb roddi dim iddo, er bod ganddo dda y byd hwn. Yn y cyfraniadau i'r tylodion, gellir rhoddi bwyd, dillad, arian, addysg, &c, Y mae eu cynorthwyo i roddi i'w plant addysg dda yn ffurf ragorol o haelioni iddynt. Gan nad pa mor fychan y rhodd, bydded yn unig gwpanaid o ddwfr oer, os rhoddir * Dymuna yr ysgrifenydd ar y darllenwyr i droi at yr adnodau y cyfeiria atynt yn yr ysgrif hon, a'u darllen yn eu cysylltiad â'r rhanau blaenorol ac olynol iddynt. Bydd yn beth cymhorth at gael allan yr hyn sydd ysgrifenedig yn ysgrythyr ý gwir- ionedd ar y mater dan sylw; ond y mae llawer o adnodau yn dal cysylltiad â'r pwnc na sonir am danynt yma. A gymero y drafferth o chwilio, a wel fod Llyfí I)uw yn llawn iawn o gyfeiriadau at gyfranu yn hael, a gocheliadau rhag cybydd-dod. 38