Skip to main content

Y DIWYGIWB. Rhif. 218.] MEDI, 1853. [Cyf. XVIII. HYNODION YR OES BRESENOL. GAN Y PARCH J. C3RIFFITH9, TYDDEWI, Wrth sylwi yn ngolau hanesyddiaeth ar wahanol oesau y byd, gallwn ganfod fod gwahanol bethau yn hynodi gwahanol oesau. Y mae rhai wedi eu hynodi yn benaf gan y pethau drwg oeddynt yn blaguro ac yn ífynu ynddynt. Nid wyf 511 bwriadu sylwi yma ar y pethau drwg a berthynant i'r oes hon : íy amcan yw sylwi ar ryw bethau gwerthfawr ydynt yn enwogi yr oes bresenol. 1. Un peth hynod iawn yn yr oes Jaon yw, y perffeithrioydd i ba un y mae celfyddyd wedi cyrhaeâd ynddi. Yr oedd dynion, yn mhob oes flaenorol, yn ymestyn at gyrhaedd graddau pellach o wybodaeth a medrusrwydd celfyddydol, ac yn llwyddo mewn graddau bychain. Ond y mae pethau anhygoel wedi eu dwyn oddiamgylch yn ein dyddiau ni—pethau, pe y dywedasid wrth ein tadau, driugain mlynedd yn ol, y cymerent le yn nyddiau eu plant, cyfrifasent y neb a ddywedasai felly yn nesaf at fod yn wallgof—yn dywedyd am bethau annichonadwy i gymeryd lle mewn un oes byth. Beth pe y dywedasid wrthynt y byddai cerbydau yn rhedeg heb un anifail yn eu llusgo, ac yn myned yn gyffredin o 30 i 50 milldir yr awr!—y byddai dynion yn byw 150 o filldiroedd 0 Lundain, yn gallu cychwyn oddicartref am 6 o'r gloch yn y borau, myned i Lundain, cymeryd pump awr i wneud eu gorchwylion yno, ciniawa yn gysurus, a dychwelyd adref i swpera gyda eu teuluoedd am 9 o'r gloch yn yr hwyr yr un dydd!—y byddai cig, a nwyddau ereill, yn cael eu cludo ganoedd o filldiroedd 0 ffordd mewn ychydig oriau, i'w gwerthu yn y marchnadoedd yn nhrefydd mawrion Lloegr!—y byddai tramwyo ar hyd y môr gyda chyflymdra, heb ymddibynu dim ar y gwynt!—y byddai i Bapyr Newydd mawr, yn cynwys wyth tudalen, i gael ei argraffu, deg neu ddeuddeg mil o'r cyfryw, mewn awr!—y byddai llythyron i gael eu cludo o 200 i 300 milldir o ffordd mewn llai na dau ddiwrnod, am ddim ond ceiniog o dâl!—y byddai pobl Lloegr a phobl Ffrainc yn gallu siarad à'u gilydd, megys pe byddent yn byw ond dwy filldir y naill oddiwrth y llall! A allasent hwy edrych ar y fath ddywediadau yn amgenach na rhyw gellwair disynwyr ? Eto mae pobl yr oes hon yn gwybod fod y cwbl yn wirionedd. Y maent, gyda lluaws o bethau rhyfedd ereill, yn cymeryd Ìle bob dydd; ac maent mor gyffredin yn ngolwg llawer ag oedd myned à'r anifeiliaid a'r aradr i'r cae i'w aredig yn ngolwg ein tadau. Yr oedd yr Arddan- gosiad Mawr yn Llundain yn 1851, yn beth na fu ei gyffelyb erioed o'r blaen yn y byd. Yr oedd y Palas Gwydr, a'r cwbl oedd ynddo, y fath ddangosiad o'r per- ffeithrwydd yr oedd celfyddyd wedi ei gyrhaedd yn yr amryw wledydd, nes ydoedd pawb a'u gwelsant yn synu yn yr olwg. Y mae y perffeithrwydd hyn mewn celfyddyd yn werthfawr iawn ar amryw olygiadau. Trwy hyn, mae lleoedd pellenig yn cael eu dwyn yn agos—trafnidaeth yn cael ei hwylysu a'i helaethu—■ dynion yn gallu gwneuthur llawer mwy, a thrwy hyny enill mwy. 2. Y mae yr oes hon yn hynodol 0 herwydd ei lluosawgrwydd 0 gyfryngau gioybodaeth. Ni fu oes erioed yn debyg i'r oes bresenol yn hyn. Y mae nid yn unig yn rhagori rhyw ychydig, fel pob oes, ar yr oesau blaenorol, ond y mae man- teision gwybodaeth o bob rhyw—duwinyddol, anianol, hanesyddol, celfyddydol, ac mewn gair, pob cangen o wybodaeth y gall dyn ddymuno bod yn wybodus ynddi —yn ddigyffelyb luosog. ^ Y mae i'r fath raddau. fel y gellir yn briodol ddywedyd, ei fod yn hynodi yr oes. Ÿmddengys hyn yn fwy eglur wrth gyferbynu yr oes hon ag oes ein tadau. Gellir yn ddibetrus ddywedyd, fod deugain o Newyddiaduron yn 31