Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 215.] "ÌÌÎËÌÎÌS'ÍnTTbs^ [Cyf. XVIII. HENURIAETH. Dahllenwyd y nodiadau canlynol yn Nghyfarfod Chwarterol sir Benfro; ac ar gais y gweinidogion gwyddfodol, anfonir hwynt i'r Diwygiwr. Penygroea. --------- Simon Evans. Mewn cynadledd o weinidogion yr Annibynwyr, afraid treulio amser i brofi, mai y Testament Newydd yw yr awdurdod i apelio ato, er penderfynu pob cwestiwn a berthyna i ffurf-lywodraeth eglwysig. Perthyna i bob eglwys swyddogion. Pleidwyr y ffurf-lywodraeth fwyaf gwerinol mewn gwlad ac eglw)'s, a fynant swyddogion. Y mae yn angen naturiol—annocheladwy. Gellir bod heb neb yn cael ei alw ar enw swyddog, ond yn mhob cymdeithas gwneir gwaith gan y gym- deithas drwy ryw berson neu bersonau, y rhai ydynt dros yr amser hwnw yn swyddogion y cyfryw gymdeithasau. Y Testament Newydd a'n dysg fod yn yr eglwysi Cristionogol esgobion a diaconiaid. Cymeraf yn ganiataol eto mai yr un fath swyddog yw esgob a henuriad. Nid wyf yn meddwl fod y gair nptatvupoç bob amser yn golygu swydd. Yr oedd yn yr eglwys efengylwyr, y rhai, er ond odid yn aelodau mewn eglwysi neillduol, ni pherthynent, o leiaf ar y dechreu, i un eglwys neillduol fel swyddogion. Er hwylusdod, rhanaf fy sylwadau ar Hen- uriaeth fel y canlyn :— I. Yr enwaü a roddir arnynt yn y Testament Newydd.—Gelwir yr arolygicyr fel rhai yn gwylied dros yr eglwys—bugeiliaid, athrawon, blaenoriaid. Y mae yn yr eglwys amryw ddoniau, ac y mae gwaith esgob yn gofyn amryw ddoniau; ond byddai un yn enwog mewn un dawn, ac arall mewn arall. II. Eü cymhwysderau.—Ceir eu cymhwysderau yn 1 Tim. 3, 1—8, a Titus 1, 7-^-10. Nid arosaf ar eu cymhwysderau, ond yn unig sylwi nad wyf yn gweled dim y_n dangos y rhaid iddynt fod yn bregethwyr yr efengyl. Nid rhaid iddynt bóidiò böd yn bregethwyr, ond nid yw efengylwr o angenrheidrwydd swydd yn henuriad, na henuriad yn efengylwr. Amlwg yw fod rhai henuriaid yn hynod am lywodraethu yn dda, ac ereill am ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth. III. Eu gwaith.—Gofal am bethau ysbrydol yr eglwys. 1. Addysgiaeth yr eglwys.—Un peth yw pregethu yr efengyl i'r byd—peth arall yw dysgu yr eglwys. I'r byd dylid dysgu " yr edifeirwch sy tuag at I)duw, a'r ffydd sy tuag at ein Harglwydd Iesu Grist;'' ond yr eglwys sydd i gael ei haddysgu yn mhellach, gan fyned rhagddi at berffeithrwydd. Yr Arglwydd Iesu a lefarai wrth y bobl mewn damegion, ac o'r neilidu a ddysgai y dysgyblion. Yr apostol Paul a bregethai yn hyf mewn synagogau a marchnad-leoedd; ond pan wedi rhoddi i'w wrandawyr gyfie teg i dderbyn, rhai o honynt wedi credu, ac ereill wedi caledu, neillduai y dysgyblion, er ymresymu beunydd. Y gwaith perthynol i henuriad yw y peth olaf hwn—gwnaed yn forau iawn drwy gateciso, ac y mae ỳr hen ddull hwnw yn un sydd yn teilyngu cael ei arfer eto. l'r dyben i gyflawni y gwaith hwn, y mae yn ofynol i'r henunaid fod yn hyddysg yn ngair yr Argl- wydd, " yn dal yn lew y gair ffyddlon, fel y gallont gynghorî yn yr athrawiaeth iachus.'' Ceir y cymhwysderau at hyn mewn lluaws o ddynion, y rhai ni fedrant bregethu Iesu Grist—gallant ddysgu. Y mae rhai yn abl pregethu a dysgu lesu Grist. 2. Rhybuddio.—Y maent i edryçh arnynt eu hunain ac ar yr holl braidd—i sylwi ar yr arwyddion o berygl—i sefyll yn erbyn arférion drwg—i osod y di- brofiad a** newyddian ar eu gocheliad rhag awr y brofedigaeth. Byddai 'ffyddlon- deb yn ' yn yn ^ndith fawr. Dylai henuriaid yr eglwys gyd-ymgynghori, îeí y byddont yn bwrw golwg unol ar yr holl braidd. 22