Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 214.] MAI, 1853. [Cyf. XVIII. LLWYR-YMATTALIAETH GAN E. BAINES, YSWAIN, LEEDS. Mr. Gol.,—A fyddwch mor garedig a gadael Apeliad Mr. Baines ymddangos yn y Diwygiwr. Nid am fod ynddo ddim nad yw y Cymry wedi eu clywed drosodd a throsodd, ond am ei fod mor gryno a tharawiadol, ac oddiwrth berson sydd yn sefyll mor uchel. Gobeithio y caiff Mr. Baines achos diolch o herwydd y daioni a wna ei anerchiad i'r Cymry. Abertawe, Maiorth 31, 1853. --------- E. Jacob. Y mae un dystiolaeth eglur, mewn achos o ffaith a phrofiad, yn aml yn cynyrchu cryfach dylanwad na llawer o resymau. Nis gall fod yn feius mewn person gyhoeddi ei brofiad personol, os bydd yn credu y gwna, trwy hyn, effeithio ar ereill i fabwysiadu cynllun fyddo yn tueddu er eu hiechyd, rhinwedd, defnyddiol- deb, a dedwyddwch. Gan fy mod wedi llwyr-ymwrthod â diodydd meddwol am bymtheg mlynedd, teimlaf mai fy nyledswydd yw hysbysu i mi fwynhau iechyd da a chysurus trwy yr holl amser hyny, heb braidd un diwrnod o anhwyldeb—ni theimlais unwaith angen y fath ddiod ; ac yr wyf yn credu fy mod wedi gwneu- thur mwy o waith, a theimlo fy ysbryd yn well, bwyta fy ymborth gyda gwell blas, ac wedi cysgu yn fwy tawel, na phe buaswn yn yr arferiad o gymeryd gwia neu gwrw. Byddai ymffrostio mewn iechyd yn annuwiol, a rhyfygu yn ei barhad yn afresymol; yr hyn y mae Duw yn rasol wedi ei gyfranu, efe a all ei gymeryd ymaith unrhyw fynud. Nid wyf yn son ond am yr amser a aeth heibio a'r amser presenol, yr hyn yr wyf yn ei wneuthur gyda diolchgarwch. Fy rheswm dros siarad yw, argyhoeddiad pe byddai ymattaliad cyffredinol oddiwrth yr arferiad o yfed diodydd meddwol yn cymeryd lle, yr attelid gradd annhraethol o ddrwg, mor atgas yn ngolwg Duw a niweidiol i ddyn ; ond fod d^'nion yn peidio ymwrthod trwy y dyb ei fod yn angenrheidiol i iechyd, neu o leiaf nad ydyw yn niweidiol, pan, ar yr un pryd, y credant ei fod yn tueddu at fwynhad personol. Gan fy mod yn argyhoeddedig fod y tybiau hyn, y diweddaf yn gystal a'r cyntaf, yn gyfeiliornus, yr wyf yn cynyg fy mhrofiad fy hun er dangos eu bod felly, ac i'r perwyl hyny yn ychwanegu ychydig nodiadau. Ni fabwysiadais Lwyr-ymattaliaeth o herwydd anhwyldeb neu duedd at afiechyd, nac o herwydd fod diod yn un brofedigaeth neillduol i mi; yr oeddwn bob amser wedi ei harfer yn gymedrol. Fy unig amcan oedd, dymuniad i dueddu rhai a adwaenwn, drwy roddi siampl iddynt, i adael heibio yr hyn ag oedd yn eu harwain i ddistryw. Ac ymddangosai i mi, os gallaswn l wneuthur heb ddiod gadarn, y gallasai ereill, mewn iechyd cyffredin, wneud yr un peth: canys nid ydyw fy nghyfansoddiad I yn gadarn ; ond i'r gwrthwyneb, yr wyf oddiar yn blentyn yn deneu ac o liw glaswyn. Am hyny, yr oedd yr anturiaeth o Lwyr-ymattaliad yn ymddangos i mi yn gryn deg; yr oeddwn yn wrthrych cyfartal. Llawer o'm cyfeillion a farnent fod arnaf angen ychydig win, ac a'm perswadient i beidio ei roi i fyny, ac a deimlent yn anhyfryd am fy mod mor annoeth a gwrthod. Yr oeddwn I fy hun o'r farn ei fod yn cynorthwyo treuliad bwyd. Wel, gwnaethum brawf o'r anturiaeth—yn gyntaf am fis, wedi hyny am fis arall; o'r diwedd, dysgais chwerthin am fy rhagfarnau fy hun a'm cyfeiìlion ; a thiwy brofiad o iechyd cadarn ac ysbryd cysurus, yr wyf wedi parhau yr arferiad hyd y dydd heddyw. Yn ystod pymtheg mlynedd, y mae dyn yn myned trwy wahanol amçylohiadau, a rhai fyddant yn debyg o brofi teilyngdod unrhyw drefniad; ond ni theimlais 18